18 Mai 2020

 

Gall amlinellu eich sgiliau a’ch profiad ar gyfer cv neu i gwblhau cais am swydd fod yn dasg anodd. Mae rhai ohonom yn credo bod gennym ormod i’w ddweud, ac eraill, yn enwedig y rhai sydd ar ddechrau eu gyrfa, yn credu nad oes digon i sôn amdano!

Mae Cyswllt Ffermio wedi creu canllawiau dwyieithog ar-lein er mwyn creu cv ‘safonol’ - un a fydd yn denu sylw darpar gyflogwr am y rhesymau iawn! Neu unrhyw un mewn gwirionedd y mae angen i chi wneud argraff arnynt gyda’ch sgiliau!

Mae’r canllawiau’n rhoi awgrymiadau o le I ddechrau; fformatio; beth y dylid ei gynnwys; trefn y wybodaeth, ac mae’n cynnwys nifer o gynghorion defnyddiol. Mae’n cynnwys cv nodweddiadol ar gyfer gweithiwr fferm yn ogystal â thempled gwag y gellir ei addasu yn ôl yr angen.

Gofynnwyd i ddwy fyfyrwraig amaeth ifanc o Goleg Y Drenewydd, rhan o Grŵp Colegau NPTC, i gwblhau eu cv eu hunain yn seiliedig ar y canllawiau.

Dywedodd Elin Orrells (18) sy’n ffermio gyda’I theulu yn Abermule, Sir Drefaldwyn, bod y broses o gwblhau’r cv newydd yn dasg eithaf anodd a oedd yn cymryd llawer o amser. Ond ar ôl cwblhau’r broses, mae hi wrth ei bodd gyda’r cv gorffenedig, a dywed fod ei cv ‘sylfaenol a diflas’ blaenorol wedi diflannu am byth!

“Ar ôl darllen canllawiau Cyswllt Ffermio arlein, sylweddolais os na fydda i’n rhoi amser ac ymdrech er mwyn cwblhau fy cv, ni fyddai’n adlewyrchu fy sgiliau, fy nodweddion a’m profiad o gwbl.”

“Mae amlinellu’r hyn yr ydych wedi’i ddysgu neu ei gyflawni’n gallu ymddangos yn ffroenuchel, ond os nad ydych chi’n gwneud hynny, gallech fod yn hepgor y wybodaeth bwysicaf oll.”

“Trwy ganolbwyntio ar ganlyniadau’r hyn yr oeddwn wedi ei gyflawni a’i ddysgu trwy weithio ar y fferm, drwy gyflawni swyddi allweddol o fewn fy nghlwb ffermwyr ifanc lleol ac ar ran y sir, a thrwy brofiad gwaith, mae gen i eisoes lawer o sgiliau yr wyf yn gobeithio y byddai darpar gyflogwyr yn chwilio amdanynt ac yn eu gwerthfawrogi.

Mae Nia Powell, sydd hefyd yn fyfyriwr yng Ngholeg Y Drenewydd ac yn 17 mlwydd oed, yn byw gartref ar y fferm biff a defaid teuluol yn Abaty Cwm Hir ger Llandrindod.

Dywed Nia fod ei cv cyntaf a gynhyrchwyd tra’r oedd hi yn yr ysgol yn ‘flodeuog – llawn blychau a delweddau lliwgar’, ond roedd yn cyfaddef ei fod yn brin o gynnwys defnyddiol. Ar ôl derbyn canllawiau Cyswllt Ffermio, mae hi bellach wrth ei bodd gyda’i cv newydd sy’n fwy proffesiynol, ac mae’n gobeithio y bydd yn creu argraff ar unrhyw ddarpar gyflogwyr a sicrhau’r cyfweliad neu’r cyswllt dilynol hollbwysig hynny!

“Mae hi mor hawdd defnyddio’r fformat mwyaf sylfaenol, rhestru’r hyn yr ydych chi wedi’I wneud, ond os byddwch chi’n gwneud hynny, ni fydd pobl yn gwerthfawrogi’r sgiliau penodol y gallwch eu cynnig ar gyfer y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.

“Mae gweld pa mor drefnus a llawn gwybodaeth yw fy cv newydd wedi rhoi mwy o hyder i mi yn fy ngallu a’m sgiliau fy hun.

“Rwy’n credu y byddai unrhyw gyflogwr yn teimlo eu bod yn gwybod yr hyn yr wyf yn gallu ei wneud ac y byddent yn gallu gwneud penderfyniad deallus ynglyˆn â sut y buaswn yn gweddu i’w gweithle.”

Mae Sue Lloyd-Jones yn Bennaeth Ysgol, Arlwyo, Lletygarwch ac Amaeth yng Ngholeg Y Drenewydd. Dywed Sue nad oes un dull penodol sy’n addas i bawb er mwyn llunio cv da, ac mae’n cynghori y dylech ymchwilio’n fanwl.

“Mae dull Cyswllt Ffermio’n rhoi arweiniad a chyngor cynhwysfawr sy’n eich annog I ganolbwyntio ar sgiliau trosglwyddadwy a allai fod o fudd i ddarpar gyflogwr.

“Mae hwn yn adnodd defnyddiol iawn a ellir ei addasu ar gyfer sawl lefel.

“Bydd cwblhau’r cv yn cymryd mwy o amser, ond dylai eich ysbrydoli i edrych y tu hwnt i’r fersiynau ‘hawdd’ a gobeithio y bydd yn eich cynorthwyo i gyflawni eich nodau personol.”

Er mwyn cael mynediad at ganllawiau a thempledi cv Cyswllt Ffermio, ewch i’r dudalen ‘Sgiliau aHyfforddiant’.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

 

Elin Orrells:

 

Nia Powell:

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o