20 Mai 2021

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Nod amaethyddiaeth gynaliadwy yw cynnal cynhyrchiant a lleihau allbynnau niweidiol ar yr un pryd ond fe all olygu gwahanol bethau i wahanol bobl
  • Er mwyn i amaethyddiaeth fod yn gynaliadwy rhaid cael cydbwysedd rhwng ystyriaethau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol
  • Mae yna bellach angen a ffocws cynyddol ar ddiffinio metrigau cynaliadwy a sut caiff y rhain eu mesur er mwyn gallu rhoi arferion deddfwriaeth a pholisïau ar waith

 

Beth yw amaethyddiaeth gynaliadwy

Mae cynaliadwyedd a datblygu cynaliadwy yn gysyniadau sy’n cael eu hystyried fwyfwy ar draws sectorau yn fyd-eang ac nid yw’r sector amaethyddol yn eithriad i hyn. Er bod y term yn gallu bod â gwahanol ystyron yn ddibynnol ar y cyd-destun, mae’r diffiniad mwyaf cyffredin o gynaliadwyedd o safbwynt amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd yn golygu bodloni anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i fodloni anghenion y dyfodol (yn ei hanfod – cydbwysedd rhwng gwytnwch a dycnwch). Fodd bynnag, gall fod yn anodd modelu a diffinio’r hyn sy’n peryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol ac, o’r herwydd, mae llawer yn ystyried bod unrhyw ymarfer sy’n cynnal cynhyrchiant a hefyd yn darparu nwyddau a manteision amgylcheddol cynyddol yn gynaliadwy (er, gan ystyried y boblogaeth sy’n bythol-dyfu, nid yw cynnal cynhyrchiant yn unig yn ddigonol). Tra bod y diffiniad hwn yn amlygu cynhyrchiant ac effeithiau amgylcheddol, mae’r rhan fwyaf o systemau yn cylchdroi o amgylch egwyddor y "sylfaen driphlyg" (TBL)) sy’n golygu rhoi ystyriaeth gyfartal i (1) yr amgylchedd (2) yr economi a (3) yr agweddau cymdeithasol ar amaethyddiaeth. Mae cynaliadwyedd yn dod yn fwyfwy pwysig oherwydd ei gysylltiad ag iechyd yr amgylchedd gan fod y dystiolaeth gyfredol yn awgrymu bod y Ddaear yn symud at bwynt tipio newid hinsawdd, gydag amaethyddiaeth yn gadael ôl-troed amgylcheddol aruthrol. O’r herwydd, er mwyn peidio â “pheryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol”, rhaid i systemau cynaliadwy symud at newidiadau sydd, fan leiaf, yn atal unrhyw ddifrod amgylcheddol pellach, neu’n ddelfrydol, yn mynd ati i ddechrau gwyrdroi’r difrod. Er y gallai effeithiau ymarferol newidiadau amgylcheddol ar y fferm (megis tymheredd cyfartalog uwch) fod o fantais mewn rhai sefyllfaoedd, bydd newidiadau parhaus yn debygol o arwain at dirweddau na allant gynnal cynhyrchiant bwyd-amaeth i’r dyfodol (sychdwr/llifogydd ac eithafion eraill). Ochr yn ochr â’r agweddau hyn, dylem fod yn gynyddol ymwybodol o natur derfynedig adnoddau sydd at ein defnydd, er enghraifft cronfeydd cerrig ffosffad, gallu biolegol ein hecosystemau a dŵr sy’n addas ar gyfer systemau planhigion ac anifeiliaid. Er gwaethaf effeithiau presennol amaethyddiaeth, fel sector, mae mewn sefyllfa unigryw i gynnig newidiadau cynaliadwy a allai liniaru’n bositif lawer o’i effeithiau ei hun ar yr amgylchedd yn ogystal, o bosibl, ag effeithiau sectorau eraill.

 

Metrigau cynaliadwy

Fel y nodir uchod, mae cynaliadwyedd yn ystyried tri maes craidd ac o’r herwydd, dylai’r metrigau a gesglir adlewyrchu pob un o’r rhain. Er y dadleuwyd bod gan fetrigau amrywiol ran i’w chwarae i ddeall cynaliadwyedd mewn amaethyddiaeth, ac maent yn gwneud hynny, fe allai un safbwynt cyfredol ar gyfer cynaliadwyedd amaethyddiaeth y Deyrnas Unedig ymwneud â sgorio'r cydbwysedd a'r cyswllt ar draws y deg maes yn y siart isod. Mae’n hysbys bod DEFRA yn ystyried systemau sgorio metrig o'r fath mewn cydweithrediad â’r Sustainable Food Trust gyda’r potensial o’u hymgorffori yn nodau’r cynllun ‘Rheoli Tir er lles yr Amgylchedd (ELM).

System sgorio enghreifftiol ar gyfer metrigau cynaliadwy sy’n seiliedig ar adnoddau’r Sustainable Food Trust lle caiff 10 maes eu sgorio gan roi iddynt ofynion a throthwyon lleiaf sy’n arwain at gymorthdaliadau cynyddol-Uchod, nid yw Fferm 1 yn bodloni’r gofynion lleiaf o ran cyfalaf cymdeithasol, bioamrywiaeth, dŵr, rheoli da byw ac iechyd cnydau. Yn seiliedig ar fetrigau allweddol wedi’u trosi yn system sgorio fympwyol.

 

Mae cynhyrchiant yn un metrig cyffredin mewn amaethyddiaeth ac mae’n un o’r prif ffactorau sy’n ysgogi proffidioldeb a datblygu a gwella perfformiad. Wrth ystyried cynaliadwyedd, gall wahanol fetrigau ddarparu stori wahanol. Er enghraifft, drwy gymharu cynhyrchiant methan (CH4) rhwng systemau ffermio, gallwn weld bod un system yn well na’r llall, ond gall asesu’r allbwn CH4 am bob kg o gynnyrch neu kg o brotein ddangos stori gynaliadwyedd wahanol.

Mae cyfalaf dynol yn cynnwys cyfleoedd cyflogaeth a rhwyddineb mynediad a chymorth i ddarparu sgiliau sy’n economaidd ymarferol i unigolion yn y diwydiant a chenedlaethau’r dyfodol. O’r herwydd, dylai metrigau fwrw cyfrif o raglenni hyfforddiant a phrentisiaethau i hwyluso cyfleoedd parhaus i ddysgu ac arloesi. Ymysg y sgiliau y gallent fod yn fwyfwy gwerthfawr mewn amaethyddiaeth y mae deall busnes a gwerthiannau, gwybodaeth am farchnadoedd a sgiliau technolegau gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh). Mae’r maes hwn hefyd yn cynnwys ystyriaethau ynglŷn â diogelwch a llesiant tyfwyr/ffermwyr.

Nod cyfalaf cymdeithasol yw gwerthuso’r manteision cymdeithasol sy’n gysylltiedig ag arferion amaethyddol a ffurfio, ac elwa oddi ar, grwpiau cymdeithasol amrywiol, sydd â ffocws ar werthoedd, ymddiriedaeth a chydweithrediad rhwng y grwpiau dan sylw. Gall hyn gynnwys darparu mannau cymdeithasol a nwyddau cyhoeddus eraill ar dir amaethyddol er mwyn i’r cyhoedd eu mwynhau gan wella iechyd meddwl a llesiant er enghraifft ond mae llawer o’r elfennau yn anodd eu harsylwi a'u hasesu.

Mae’n hysbys bod bioamrywiaeth yn dod dan ddylanwad amryfal arferion amaethyddol a hynny mewn ffyrdd cadarnhaol a negyddol. Wrth inni symud at safbwynt o ystyried gwasanaethau ecosystemau/amgylcheddol mae pennu metrigau ar gyfer bioamrywiaeth yn dod yn fwyfwy pwysig gan fod planhigion ac anifeiliaid yn cyfrannu at y meysydd hyn i raddau helaeth iawn.

Gall pridd, rheoli maeth, ac effeithlonrwydd adnoddau o safbwynt cynaliadwyedd fod yn rhyng-gysylltiedig mewn sawl ffordd. Mae adeiladwaith a phriodweddau pridd yn agweddau allweddol ar fertigau mesur cynaliadwy gan fod y rhain yn holl bwysig i asesu gallu cnydau, porfeydd a choedwigoedd i dyfu’n effeithiol heb orddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael (lle ceir dulliau rheoli maetholion integredig) na llygru na difrodi’r ecosystem o’u hamgylch. Yn holl bwysig, mae priddoedd hefyd yn faes enfawr ar gyfer gwella’r amgylchedd drwy fod â’r gallu i ddal a storio carbon ac mae’n chwarae ei ran mewn llwybrau cylchu maetholion, ac o’r herwydd maent yn cael effaith fawr ar allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG).

Mae dŵr yn aml yn cael ei ystyried fel yr adnodd pwysicaf ar gyfer cynaliadwyedd yn fyd-eang, ac mae’n cynnwys ystyriaethau ynglŷn â’i ddefnyddio fel adnodd (drwy systemau dyfrhau, er enghraifft) yn ogystal ag effeithiau amaethyddol ar gyrsiau dŵr drwy flocio, arallgyfeirio, lliniaru llifogydd a mewnbwn llygredd. Gall sawl elfen gael sgil-effaith ar yr agweddau cyfalaf cymdeithasol yn ogystal ag ar fioamrywiaeth.

Mae effeithlonrwydd ynni ac adnoddau yn cynnwys defnyddio gwrteithiau a’r maetholion sydd ar gael mewn priddoedd fel y nodir uchod yn ogystal â defnyddio tanwydd ffosil a ffynonellau pŵer amgen i leihau ffactorau niweidiol megis allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae hefyd yn arwain at ddefnyddio llai o fewnbynnau anadnewyddadwy mewn systemau sy’n arwain at effeithlonrwydd adnoddau hirdymor anghynaliadwy.

Mae dulliau rheoli da byw cynaliadwy yn gyffredinol yn asesu strategaethau i leihau allbynnau nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â da byw er mwyn gwella cynaliadwyedd hirdymor a chydbwyso perfformiad a llesiant parhaus systemau er mwyn sicrhau proffidioldeb. Yn enwedig oherwydd bod rhai arferion rheoli da byw penodol yn gallu cael effeithiau llesol ar fioamrywiaeth, iechyd planhigion a chnydau ac iechyd a swyddogaeth pridd/dŵr.

Mae cynaliadwyedd o ran cnydau ac iechyd planhigion yn cynnwys magu gwytnwch yn erbyn heriau ac amgylcheddau newidiol megis plâu ac afiechydon. Mae systemau cynaliadwy yn ymdrechu i ymgorffori afreidrwydd lle defnyddir, er enghraifft, gymysgeddau cnydau sy’n cynnwys rhywogaethau neu amrywiaethau sy’n cynnig amrywiol lefelau o oddefiant i eithafion amgylcheddol megis llifogydd neu sychdwr. Mae hyn yn symud ymaith oddi wrth systemau un rhywogaeth ac yn cynnig y potensial i redeg systemau bridio targededig neu addasu genetig i wella systemau ar gyfer defnydd cynaliadwy hirdymor. Ymysg yr arferion eraill sy’n syrthio i’r maes hwn y mae dulliau rheoli plâu integredig/biolegol a defnyddio llai o gemegion niweidiol.

 

Mesur cynaliadwyedd

Er bod y gwaith o ddiffinio metrigau allweddol sydd o ddiddordeb i sector amaethyddol y DU yn mynd rhagddo, mae sut gellir mesur y rhain yn ystyriaeth arall gwbl wahanol. Mae gan rai meysydd hanes o asesiadau drwy gynllun y taliad sylfaenol a chynlluniau grant eraill, fodd bynnag, mae targedau a ffocysau newydd gan gynnwys lefelau carbon mewn pridd ac allyriadau nwyon tŷ gwydr yn gwneud asesiadau manwl gywir yn fwyfwy cymhleth. Wrth fonitro a chymell cynaliadwyedd amaethyddol i’r dyfodol, mae’n debygol y bydd angen cael cydbwysedd rhwng defnyddio mesuriadau manwl gywir a modelau rhagweld llai cywir. Mae nifer o dechnolegau ar gyfer mesur metrigau’n fanwl gywir yn hynod sensitif (ac nid ydynt yn gweithio’n dda yn y maes) neu maent yn ddrud iawn ac o’r herwydd fe’u defnyddir yn gyffredinol i ddatblygu set o ystodau diffiniedig neu i asesu dirprwy-fesuriadau mewn senarios arbrofol. Gellir defnyddio’r dirprwyon a’r ystodau metrig hyn wedyn yn y maes drwy ddulliau llai cywir. Bu’n rhaid hefyd cael cydbwysedd ag ystyriaethau’n ymwneud â’r amrywiadau a geir ar draws systemau amaethyddol yn ogystal â newidynnau allanol (gan gynnwys patrymau tywydd blynyddol), a fyddai’n golygu, mewn byd delfrydol, fod metrigau yn cael eu hasesu fesul achos, fodd bynnag, prin bo hyn yn ymarferol yn weithredol nac yn economaidd gyda’r technolegau cyfredol. Mae esiampl i’w gweld mewn astudiaeth ddiweddar a ganfu mai’r mesuriadau pridd yr effeithir leiaf arnynt gan amrywioldebau oedd pH, lleithder pridd a dwysedd swmp, ond fod yr asesiadau carbon a nitrogen yn dal yn amrywio ar lefelau samplo arferol. Roedd yr amrywioldebau yn lleihau gyda 10 – 60 yn fwy o samplau ym mhob ardal ond mae hyn yn ychwanegu cost, llafur a chymhlethdod wrth uwchraddio canlyniadau ar draws y DU. Yn olaf, gyda llawer o ddeilliannau cynaliadwy mae’n cymryd llawer iawn o amser i ganlyniadau gael eu harsylwi gan ei gwneud yn anodd i ffermwyr weld manteision sy’n eu hannog i barhau i ddefnyddio arferion yn y tymor byr. Isod, nodir detholiad o’r technegau asesu a metrigau posibl, anaml y mae un mesur asesu ar gael ar gyfer unrhyw fetrig, ac mae hynny felly’n ychwanegu at yr amrywioldeb a’r lefelau cywirdeb sy’n bosibl yn enwedig wrth gymharu ar gyfer meincnodi rhwng methodolegau.

Metrig

Dulliau asesu

Metrig

Dulliau asesu

 

 

 

 

Iechyd planhigion

Offer sbectrol o ddronau neu loerenni – mynegai llystyfiant gwahaniaeth normaledig (NDVI), is-goch agos, sbectrwm coch, gwyrdd, glas gweladwy (RGB)  

Ansawdd dŵr

pH, dargludedd, lefelau ocsigen toddedig, synwyryddion optegol, afloywder, llif-fedrau, cromatograffi, sbectrometreg

Modelau rhagfynegi

Cynhyrchiant

Cofnodion y ffermwr (cnydau yn erbyn mewnbynnau)

Offer radar ar gyfer dronau neu loerenni (LiDAR ayb) – Lleithder planhigion, biomas coedwigoedd 

Cyfrifiadau awtomataidd drwy feddalwedd rheoli ffermydd

Lleithder pridd

Offer sbectrol gan ddronau neu loerenni (NDVI, is-goch agos (NIR), RGB)

Offer gweledol dronau neu loerenni ar gyfer cnydau a chnydau porfa

Gall mesuryddion lleithder (llaw neu ran o systemau manwl o bell) fod yn fesuryddion tyndra neu'n synwyryddion matrics gronynnog

Offer pwyso manwl (da byw)

Mapio dargludedd trydanol

Offer delweddu ar gyfer twf da byw

Offer radar ar gyfer dronau neu loerenni (LiDAR)

Data porthi a godro awtomataidd (da byw)

Dull calsiwm carbid

Modelau rhagfynegi

Sychu mewn popty

Offer radar ar gyfer dronau neu loerenni (LiDAR) – e.e. dadansoddiadau twf cnydau

Iechyd pridd

 

 

Dirprwyon (gan gynnwys: cymarebau bacteria/ffyngau, cynnwys Glomalin

Allyriadau nwyon tŷ gwydr

Modelau rhagfynegi

Dadansoddiad sbectrol o facrofaethynnau

Technegau siambr (nid yw bob amser yn golygu siambr go iawn - gall gynnwys er enghraifft fasgiau wyneb yn gwneud "siambr" o amgylch wyneb yr anifail neu fannau amgaeedig eraill)

Dargludedd pridd

Dull strategol o samplo pridd

Dirprwyon (gan gynnwys; olrheiniwr sylffwr hecsafflẅorid, sbectrosgopeg is-goch canolig llaeth (llaeth), proffilio microbiom)

Pridd K a P

Dulliau amsugno ac echdynnu cemegau

Cyfalaf dynol

Arolygon

Sbectroffotometreg

Asesiadau diogelwch ffermydd

Pridd N

 

 

Dulliau amsugno ac echdynnu cemegau

Cynlluniau sicrwydd (Mae gan y cynllun Tractor Coch feini prawf ar gyfer pryderon diogelwch bwyd a phobl er enghraifft)

Sbectroffotometreg

Cyfalaf cymdeithasol

Arolygon

Technegau hylosgi

Ansawdd aer

Sbectrometreg (er enghraifft technegau laser deuod tiwniadwy)

Dirprwyon (Gweithgareddau ensymau microbiom pridd)

Technegau siambrau

Pridd pH

 

mesuryddion pH (system electrodau calomel/gwydr)

Bioamrywiaeth

Arolwg o gefn gwlad

Dirprwyon (cyfansoddiad rhywogaethau llystyfiant, gweithgareddau ensymau microbiom)

Mynegai adar tir amaeth

Carbon pridd

 

 

 

Technegau hylosgi

Map gorchudd tir

Triniaethau asid

Datblygiadau dadansoddiadau synhwyro o bell â dronau neu loerenni

Prawf Walkley Black

Systemau adrodd[1]

Dirprwyon (carbon ocsideiddadwy permanganad, gweithgareddau ensymau microbiom)

Systemau adrodd[2]

Offer synhwyro o bell (lefelau cywirdeb isel yn dal i gael eu datblygu)

Offer radar ar gyfer dronau neu loerenni (LiDAR)

Nodiadau:

  • Yn y rhan fwyaf o achosion, gall arsylwadau tyfwyr hefyd chwarae rôl ond fe’u hystyrir yn amrywiadwy oherwydd eu natur oddrychol
  • Lle nodir offer ar gyfer dronau a lloerenni, gall y rhain hefyd fod yn offer llaw neu wedi’u gosod ar gerbyd ar gyfer asesu llai o blanhigion ar y tro ond yn fwy cywir
  • Gellir addasu metrigau ac asesiadau pridd i raddau helaeth er mwyn dadansoddi gwrteithiau organig at ddefnydd cynaliadwy
  • Mae gan y rhan fwyaf o fertigau fodel rhagfynegi ar ryw ffurf sy’n gysylltiedig er na chaiff ond llond llaw eu nodi uchod

Er gwaethaf y cymhlethdodau sy’n ymwneud â phennu ystodau metrig cynaliadwy cywir, mae cael rhyw fath o ystod a ofynion lleiaf i dyfwyr lynu wrthynt yn well na dim. Mae llawer o fesuriadau yn seiliedig ar fodelau mathemategol y mae ymchwil blaenorol yn dylanwadu arnynt ac o’r herwydd mae iddynt lefelau cywirdeb a chadernid amrywiol. Ymysg esiamplau o’r rhain y mae deddfwriaeth llygredd newydd Cymru lle caiff cynnwys maeth/llygredd tail anifeiliaid ei gyfrifo ar sail ffigurau cyfartalog. Er ei fod yn offeryn defnyddiol yn gyffredinol, fe allai arwain at amrywiaeth lle bo ffermwyr yn rhoi i dda byw ffynonellau porthiant newydd neu arbrofol, yn defnyddio technegau prosesu ar eu gwrtaith organig neu’n defnyddio bridiau anifeiliaid amrywiol er enghraifft.

 

Ymgyrch cynaliadwy mewn amaethyddiaeth

Mae llawer o’r elfennau cynaliadwy a drafodwyd yn syrthio i feysydd cymorth ariannol nwyddau cyhoeddus Deddf Amaethyddiaeth 2020 a 'Bil Amaethyddiaeth' Cymru ac maent o dan y chwyddwydr ar hyn o bryd. Mae’r cynllun ELM ar gyfer y dyfodol a fydd yn disodli taliadau uniongyrchol yn Lloegr yn canolbwyntio’n bendant ar leihau allyriadau, gwella amgylcheddau a gwella lles pobl ac anifeiliaid gyda gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu cynllun tebyg yng Nghymru. Mae hyn oll yn dangos ymrwymiad i amaethyddiaeth gynaliadwy i’r dyfodol. Yn yr un modd, gyda thrafodaethau ynglŷn â chynllun masnachu a threth garbon yn mynd rhagddynt mewn ymgais i gydbwyso’r dull ‘gwobrwyo a chosbi’ i gyrraedd targedau sero net y Deyrnas Unedig, bydd systemau ffermio cynaliadwy yn dod yn fwyfwy atyniadol. Gallai diffinio metrigau cynaliadwy i’r dyfodol fod yn holl bwysig i broffidioldeb ffermydd os daw’r symudiad at dreth garbon ar gynhyrchion sy’n allyrru llawer o nwyon tŷ gwydr, megis cig, llaeth a chaws i rym. Mae’n bosibl y byddai systemau yr ystyrir eu bod yn sefydlog a chynaliadwy yn elwa fwyfwy o werth credyd carbon fel sy’n cael ei ddangos drwy ddefnyddio tir ar gyfer plannu coed. Mae hefyd yn bwysig ystyried dadleuon eraill o amgylch strategaethau cynaliadwyedd. Un ystyriaeth a drafodwyd yn hir yw’r angen am newid yn arferion defnyddwyr er mwyn cael system gwir gynaliadwy. Gydag oddeutu traean o’r holl fwyd yn cael ei wastraffu yn fyd-eang ar hyn o bryd, ac anghydbwysedd rhwng gwledydd cyfoethocach yn gor-ddefnyddio tra bod gwledydd tlotach yn tan-ddefnyddio, mae angen rhoi mwy o sylw i’r agwedd hon er mwyn gwella cynaliadwyedd y cyflenwad bwyd-amaeth yn gyffredinol. At hynny, gellir dadlau bod sefydlogrwydd amgylcheddol mewn amaethyddiaeth yn gofyn am newid mewn arferion defnyddio tuag at lai o gynhyrchion protein anifeiliaid. Er bod y trafodaethau hyn yn gymhleth iawn i’w dadansoddi, maent yn debygol o gael eu cyfrif fwyfwy mewn ystyriaethau hirdymor am gynaliadwyedd yn y sector amaethyddiaeth.

 

Crynodeb

Mae cynaliadwyedd yn gysyniad cymhleth iawn mewn amaethyddiaeth a gall amrywio ar sail safbwynt y rhai dan sylw. Mae’n bosibl bod gwella manteision amgylcheddol mewn un fferm/wlad/sector yn ymddangos yn gynaliadwy ar ei ben ei hun, ond fe allai fod yn niweidiol wrth ystyried colledion mewn cnydau neu sgil-newidiadau mewn amgylcheddau cyfagos ar raddfa gyfannol fyd-eang. O’r herwydd, mae’n debygol y ceir nifer o lwybrau at sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol gydag atebion gwahanol mewn sefyllfaoedd gwahanol. I hwyluso hyn, mae bod â set ddiffiniedig o fetrigau cynaliadwy sy’n gweithredu ar lefel unigol ac yn gyfannol yn holl bwysig, ac fe ddylai fod yn ganolbwynt allweddol wrth i safbwyntiau cynaliadwy newydd gael eu datblygu. Cyfyd dryswch yn aml, ac fe allai hynny guddio cysyniadau amaethyddiaeth gynaliadwy ar lefel y fferm hyd at lefel polisïau gan fod nifer o ‘opsiynau’ amgen yn gysylltiedig â’r un thema ac mae gan bob un o’r rheini eu grwpiau eiriol (megis amaethyddiaeth atgynhyrchiol, amaeth-ecoleg, permaddiwylliant, ffermio gwydn, economi gylchol a bioeconomi).  O’r herwydd, mae’n bwysig mai hanfod pam bod y cysyniadau hyn yn bodoli (i leihau effaith niweidiol pobl gan gynnal ein gallu i ffynnu ar yr un pryd) yw’r ffocws, yn hytrach na’r system ei hun. Er na thrafodir y rhain yn yr erthygl hon, mae llawer o arferion yn bodoli y gallai tyfwyr eu defnyddio i wella cynaliadwyedd. Mae llawer o’r rhain wedi cael eu hamlygu gan Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio ac mae detholiad o erthyglau i’w gweld isod;

Defnyddio codlysiau, rheoli tail ac allyriadau amonia, rheoli da byw o safbwynt allyriadau amonia, lliniaru allyriadau dofednod, cynaliadwyedd yr ucheldir, defnyddio nano-ronynnau, bio-olosg, rheoli tail moch, rheoli dŵr ar ffermydd, technegau dal a storio carbon a glaswelltir sy'n gyfoeth o rywogaethau

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth