16 Hydref 2020

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae’r symudiad mewn arferion amaethyddol tuag at ddod yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol yn gofyn am well ddewisiadau porthiant amgen
  • Mae cyfnodau o bridd noeth a nodweddion topograffigol fel llethrau’r ucheldir yn cynyddu dŵr ffo ac effeithiau amgylcheddol negyddol cysylltiedig
  • Mae gwella cynaliadwyedd yn golygu ystyried iechyd y pridd yn ofalus a’r ffordd gall gwahanol systemau ryngweithio gyda dulliau o reoli’r pridd

 

Cyflwyniad

Mae arferion amaethyddol yn newid yn barhaus i gynnig gwell ddarpariaeth o ‘nwyddau cyhoeddus’, gan gynnwys arferion ffermio sydd o fudd i’r amgylchedd ac sy’n gwella cynaliadwyedd yn y tymor hir. Fel y nodir mewn deddfwriaeth amaethyddol ddiweddar, bydd grantiau a chymorthdaliadau yn canolbwyntio fwyfwy ar ffermydd sy’n gallu rhoi’r strategaethau hyn ar waith, a’r ffermydd hynny sy’n gallu sicrhau’r cydbwysedd gorau rhyngddynt, gan gynnal cynhyrchedd uchel ar yr un pryd, fydd yn debygol o wneud yr elw mwyaf. Mae dylanwadau posibl newid hinsawdd eisoes i’w gweld ar ffurf patrymau tywydd anwadal sy’n fwy anodd eu rhagweld/modelu, gan gynnwys sychder difrifol a llifogydd mwy eithafol. Mae’r cyfuniad o’r ffactorau hyn yn gwneud cynhyrchu âr a phori da byw, mewn ardaloedd sydd eisoes yn anodd fel yr ucheldir, hyd yn oed yn fwy cymhleth eu rheoli. Er gwaethaf yr anawsterau sy’n gysylltiedig â rheoli’r ucheldiroedd ym Mhrydain, mae’r rhain yn suddfannau carbon pwysig, ac mae bron i draean o garbon organig pridd (SOC: soil organic carbon) y Deyrnas Unedig yn yr ucheldiroedd; hefyd, maent yn chwarae rôl bwysig i liniaru llifogydd gan fod o fudd i’r cyhoedd. Ar hyn o bryd, ar draws y Deyrnas Unedig, defnyddir tua 41% o dir pori amaethyddol ar gyfer pori garw (wedi’i rannu rhwng tir comin a thir mae gan unigolion hawl i’w ddefnyddio) a 9% yn unig sy’n cael ei ystyried yn dir dros dro, ac mae’r 50% sy’n weddill yn dir pori porthiant parhaol dros 5 mlwydd oed. O’u cymharu â phori garw, mae systemau dros dro a pharhaol yn addas i gael eu rheoli mewn ffyrdd mwy penodol yn seiliedig ar anghenion y fferm. Gall hyn gynnwys amrywio’r cylchredau pori, dwysedd stocio da byw, cyfansoddiad rhywogaethau gwyndonnydd a strategaethau hau /plannu sy’n gallu effeithio ar gynhyrchedd y tiroedd yn ogystal â’u cynaliadwyedd. Yn yr achosion lle ystyrir strategaethau plannu, mae ymchwil yn cydnabod yn gyffredinol bod paratoi tir mewn ffordd sy’n amharu arno neu ddefnydd gormodol o beiriannau trwm, fel aredig, yn niweidiol i’r amgylchedd. Ar ben hyn, mae canfyddiadau yn ymwneud ag effeithiau negyddol gwyndonnydd ungnwd, gan gynnwys y ffaith nad ydynt yn dda iawn am addasu a’u gofynion uwch o ran maetholion, yn cynyddu’r diddordeb mewn defnydd o amlgnydau ac opsiynau o ran planhigion lluosflwydd hirdymor. Trafodwyd addasiadau amgylcheddol eraill ar ffermydd mewn erthyglau technegol blaenorol a gellir eu rhoi ar waith ar draws yr holl systemau ffermio yn ogystal â systemau pori’r ucheldir. Mae’r addasiadau hyn yn cynnwys; lleiniau clustogi neu byffer llysieuol, coedborfeydd, cnydau gorchudd gaeaf a gwneud mwy o ddefnydd o gnydau lluosflwydd. Mae gwneud y defnydd gorau posibl o borthiant i wella effeithlonrwydd wrth gynhyrchu da byw yn allweddol i wneud y mwyaf o’r ehangdir sydd ar gael, gan leihau effeithiau amgylcheddol. Yn ystod cyfnodau’r hydref a’r gaeaf yn enwedig, gall dewisiadau porthiant amgen leihau’r costau ac effeithiau sy’n gysylltiedig â chadw da byw da do yn hirach a darparu porthiant atodol.

Adeiledd ac iechyd pridd

Mae iechyd pridd mewn systemau amaethyddol yn bwnc sy’n cael llawer mwy o sylw. Mae targedau o ran y defnydd cynaliadwy o ategolion pridd (ffynonellau N a P organig ac anorganig, ac ati), yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael a phryder cynyddol am yr effaith niweidiol ar yr amgylchedd yn sgil colli maetholion, oll yn faterion o bwys. Mae lefelau cludiant gwaddodion ac erydiad pridd yn uwch ar lethrau bryniau a thiroedd wedi’u trin o’u cymharu â phorfeydd a choetiroedd. Mewn arbrawf diweddar, nodwyd pa mor bwysig yw newidiadau dulliau rheoli tir a gwelwyd bod hyd at 40% yn llai o waddodion yn cael eu colli  yn sgil cynnwys lleiniau clustogi o goetiroedd torlannol. Gwelwyd gostyngiad pellach o dros 50% yn sgil trosi caeau âr yn borfeydd parhaol a defnyddio ymylon caeau gwair mewn caeau wedi’u torri, yn enwedig wrth eu cyfuno â chnydau gorchudd gaeaf. Yn achos pori da byw, yn wahanol i systemau âr, awgrymir bod llai o fanteision i bresenoldeb gweddillion cnydau i ddychwelyd maetholion i’r pridd a lleihau effeithiau erydiad pridd oherwydd y gwynt a dŵr. Er bod porwyr yn trosi porthiant yn wrtaith, nid yw’r system hon yn darparu’r un math o faetholion ac mae effaith gorchudd ffisegol uniongyrchol gweddillion cnydau yn llai. Awgryma hyn fod buddion posibl i ystyried dewisiadau eraill yn hytrach na phori da byw o ran yr effeithiau ar yr amgylchedd. At hyn, mae unrhyw system sy’n golygu bod pridd yn noeth neu bron yn noeth yn ystod misoedd y gaeaf yn llawer mwy tebygol o gael ei difrodu gan ddŵr ffo a cholli maetholion, ac mae paratoi’r tir ar gyfer cnydau grawnfwyd y gaeaf a chnydau gorchudd i lenwi bylchau cyn ailhau ar ben cnydau gorchudd brassica sy’n cael eu pori yn enghreifftiau cyffredin. Wrth ystyried defnyddio brassica fel cnwd pori, awgrymir bod rhywogaethau cnydau gorchudd sydd â gwreiddiau ffibrog yn llawer gwell i reoli erydiad pridd na rhywogaethau â phrif wreiddiau fel maip sofl. Fodd bynnag, yn ddiddorol, nid oes llawer o ymchwil uniongyrchol wedi’i wneud i gymharu rhywogaethau brassica a chnydau gorchudd gwahanol o ran eu heffeithiau amgylcheddol. Oherwydd hyn mae Dolygarn, fferm arddangos Cyswllt Ffermio yn edrych ar gymharu rhywogaethau porthiant gwahanol i werthuso adeileddau gwreiddiau mwy ffibrog yn ogystal â rhywogaethau sydd â’r potensial i aildyfu. Mae’r fferm fynydd bîff a defaid hon yn gobeithio gallu dangos bod llai o ddŵr ffo a llai o effeithiau andwyol ar yr amgylchedd, ac y gall gynnal cynhyrchedd ei systemau pori ar yr un pryd. Hefyd, defnyddir dulliau hau uniongyrchol sy’n cael llai o effaith er mwyn helpu i leihau’r effeithiau andwyol a achosir yn sgil amharu’n ormodol ar y tir.  

 

Porthiant rhywogaethau cymysg

Mae porthiant rhywogaethau cymysg, mewn system optimaidd, yn cynnwys nifer o gnydau cyflenwol a ddewiswyd yn ofalus (fel arfer 6 + o rywogaethau) sy’n cyfuno rhywogaethau ar gyfer ystyriaethau uwchben ac o dan y ddaear. Mae’r ystyriaethau hyn hefyd yn cynnwys rhyngweithiau ailgylchu’r maetholion, eu gwydnwch a’u gallu i addasu i newidiadau yn yr amgylchedd. Nodwyd eu bod yn gallu addasu i newidiadau yn y tywydd, effeithiau plâu ac  effeithiau clefydau a bod cystadlu rhwng chwyn-cnydau yn digwydd yn aml, gan arwain at gynnydd yn y bioamrywiaeth a welir mewn system gymysg. O safbwynt yr amgylchedd, pan fydd systemau rhywogaethau cymysg wedi’u cynllunio’n dda yn arwain at gydbwysedd yn y galw am faetholion gan achosi ‘cyfatebolrwydd cilfachau’ (niche complementarity), mae hyn fel arfer yn golygu bod angen ychwanegu llai o faetholion nag mewn systemau ungnwd. Ochr yn ochr â’r gwell defnydd o faetholion, mae’r ymchwil yn awgrymu bod systemau rhywogaethau cymysg yn cynhyrchu biomas uwch na chnydau ungnwd, er y nodwyd bod yr effaith hon yn fwy mewn gwyndonnydd cymysg gyda mwy na 2 neu 3 rhywogaeth yn unig. Mae cynnwys rhywogaethau codlysiau fel meillion yn ychwanegu protein a gallant sefydlogi nitrogen yn y pridd gan leihau’r angen am wrtaith N a gwella effeithlondeb y defnydd o nitrogen mewn stociau pori. Mae hyn yn lleihau’r effeithiau sy’n gysylltiedig â N ar newid hinsawdd, llygredd pridd/dŵr ffo a thrwytholchi. Mae codlysiau yn cael eu defnyddio’n gyffredin mewn cymysgeddau hadau porthiant oherwydd hyn, fodd bynnag, mae gwaith ym Mhwllpeirian, llwyfan ymchwil yr ucheldir Prifysgol Aberystwyth, yn nodi bod amrywogaethau codlysiau presennol yn ddiffygiol o ran gwneud y defnydd gorau ohonynt ar gyfer heriau amgylcheddol penodol yr ucheldir. Oherwydd hyn, gallai bridio planhigion o’r fath gyda phwyslais ar gynhyrchedd yn yr ucheldir chwarae rhan bwysig i wella llwyddiant rhywogaethau cymysg, ochr yn ochr ag amrywogaethau cnydau mwy unigryw fel pysen-y-ceirw (Lotus corniculatus) sydd wedi cael ei dreialu. Mae newidiadau hinsawdd a thywydd eithafol yn debygol o gael rhagor o effaith ar ddulliau rheoli pori a phorthiant yn y dyfodol. Yn y dyfodol, mae’n bosibl bydd angen ystyried cyfuniadau wedi’u targedu o rywogaethau ar gyfer defnydd penodol, er enghraifft, lle gallai dwy rywogaeth o gnydau wrthdaro fel arfer oherwydd cystadleuaeth o dan amodau dŵr arferol, mewn cyfnodau o sychder neu lifogydd, gall cymysgeddau o rywogaethau penodol wella eu nodweddion ar gyfer goroesi.

 

Cnydau porfa parhaol

Gall defnydd cynyddol o gnydau parhaol neu luosflwydd hirdymor ddod â llawer o fanteision i ardaloedd pori gyda’r fantais ychwanegol o leihau costau llafur blynyddol neu dymhorol, y defnydd o beiriannau a defnyddiau i’w cynnal. Un agwedd allweddol ar borfeydd parhaol yw’r ffaith bod presenoldeb gorchudd pridd cyson ac angoriad y pridd yn well na systemau blynyddol (oni bai fod y rhain yn cynnwys cnydau gorchudd y gaeaf sy’n cael eu rheoli’n dda). Dangoswyd bod newid o rawnfwydydd gaeaf blynyddol i laswellt gorchudd parhaol wedi lleihau’r risg o erydiad pridd mewn 30% o safleoedd a oedd yn destun arolwg o ffermdiroedd yn y DU lle mae risg uchel o erydiad. Mae porfeydd parhaol hefyd wedi cael eu cysylltu â gwell lefelau carbon pridd a dal a storio carbon o’u cymharu â systemau mwy dwys. Mae’r prif newidiadau i briodweddau pridd yn dod yn sgil amharu llai ar y pridd, defnyddio mwy o fater organig fel gwreiddiau a’r ffaith bod rhisobacteria cysylltiedig yn sefydlu’n well o’u cymharu â chnydau unflwydd. Ymhlith y dewisiadau a astudiwyd fwyaf ar gyfer eu cynnwys mewn systemau pori parhaol mae rhywogaethau glaswellt lluosflwydd a chodlysiau lluosflwydd yn cynnwys miloedd o rywogaethau yn fyd-eang gyda gorchudd arwyneb gwahanol, morffoleg gwreiddiau a dyfnderoedd gwreiddio y gellir eu defnyddio i gyfateb i sefyllfaoedd ac amgylcheddau unigol. O ran eu gallu i addasu, mae systemau fel gorchudd lluosflwydd yn erbyn porthiant tymhorol wedi dangos, er bod cynhyrchiant porthiant wedi cynyddu gyda phorthiant tymhorol, mae amrywioldeb systemau lluosflwydd lawer yn llai yn ystod y flwyddyn oherwydd lefelau gwahanol o lawiad. Awgryma hyn fod yr ansicrwydd cynyddol ynglŷn â’r hinsawdd yn ffafrio cnydau parhaol lluosflwydd sydd wedi ennill eu plwyf ac sy’n llai agored i amrywioldeb amgylcheddol.

 

Crynodeb

Mae sawl dewis ar gael o ran systemau pori amgen, yn enwedig ar gyfer ardaloedd sy’n parhau i ddefnyddio porfeydd ungnwd. Er bod cymysgeddau hadau rhywogaethau lluosog yn dod yn fwy cyffredin, maent yn aml yn gyfyngedig i 3 neu 4 rhywogaeth a gall hyn leihau eu heffeithiau cadarnhaol posibl. At hyn, gwelir bod iechyd a sefydlogrwydd pridd yn elfennau creiddiol i sicrhau buddion amgycheddol fel dal a storio carbon a lleihau trwytholchi a llygredd cyrsiau dŵr. Un fethodoleg nodedig ar gyfer gwella iechyd pridd yw cynnwys systemau cnydu lluosflwydd hirdymor i sefydlu isadeiledd gwreiddiau cynhwysfawr o dan y ddaear nad ydynt yn cael eu amharu arnynt. Gallai defnyddio mwy o rywogaethau o gnydau gorchudd a dewis cnydau parhaol, yn ogystal â chyfuniadau o’r ddau, gael effeithiau amgylcheddol buddiol ar yr holl systemau ffermio gan gynnwys yn ardaloedd yr ucheldir. Cyn belled ag y bydd y dulliau gorau posibl yn cael eu defnyddio gyda strategaethau amgen ar sail tebyg i systemau traddodiadol (priddoedd tebyg, amodau llethrau, y defnydd o faetholion, ac ati) a’u bod yn cael eu teilwra ar gyfer yr amgylchedd penodol, awgrymir bod eu heffeithiau yr un fath os nad yn well ar gynhyrchedd cyffredinol cnydau a da byw sy’n pori. At hyn, mae’n bosibl y gallai ffermwyr yr ucheldir roi mwy o ystyriaeth i arallgyfeirio gan symud i ffwrdd o bori da byw gan fod cynlluniau grantiau newydd yn cynnig mwy o gymhellion. Gallai’r rhain gynnwys y defnydd o dir ymylol i gynhyrchu biodanwyddau neu ddarparu nwyddau cyhoeddus i’r cyhoedd gan gynnwys; mynediad at fannau agored, bioamrywiaeth, amddiffyn/gwella pridd ac ansawdd dŵr neu aer.

 

Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r erthygl hon.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Working Towards a More Sustainable Future: Breeding Sheep for Resistance and Resilience to Gastrointestinal Nematodes
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth Rhagfyr 2023 Gall
Cyfleoedd ar gyfer y dyfodol ym maes geneteg defaid yng Nghymru: Bridio ar gyfer gwlân o ansawdd uwch
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth