8 Gorffennaf 2022

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae bioamrywiaeth yn cyfrannu buddion na ellir eu gweld ac mae’n hanfodol ar gyfer dyfodol cynaliadwy
  • Mae gwerthuso bioamrywiaeth mewn ffyrdd traddodiadol yn cymryd amser, yn gostus ac anodd ei gynyddu i raddfa fwy
  • Gallai technolegau helpu i goladu ac awtomeiddio gwerthuso bioamrywiaeth
  • Gallai offer o’r fath wella arferion rheoli tirwedd sy’n rhoi pwyslais ar fioamrywiaeth

 

Pwysigrwydd bioamrywiaeth

Bioamrywiaeth yw un o’r pethau mwyaf hanfodol i ddynoliaeth a llwyddiant economaidd. Mae’n rhoi llu o fanteision uniongyrchol ac anuniongyrchol a gwasanaethau ecosystem a heb y rhain byddem yn marw oherwydd diffyg ffynonellau maetholion, ymhlith amrywiaeth o bethau eraill fel y dangosir yn y diagram isod.

 

Mae bioamrywiaeth yn chwarae rhan allweddol o ran gweithrediad yr ecosystem sydd yn ei thro yn chwarae rhan mewn cylchedau biolegol hanfodol, fel y gylched garbon (gan hwyluso’r atmosffer cywir i ni ei anadlu a storio carbon fel ffynhonnell bwyd trwy ffotosynthesis), y gylched dŵr a’r gylched nitrogen. Ers cyn belled yn ôl â’r 80au, mae ymchwil wedi bod yn gwerthuso data sy’n awgrymu bod y blaned yn mynd trwy gyfnod difodiant, sydd, mae’n debyg, o ganlyniad i effeithiau dynoliaeth. Trwy ddefnyddio data cofnodion ffosiliau, gallwn weld bod y gyfradd o ddifodiant rhywogaethau 1000 os nad yn 10,000 gwaith yn uwch nag y bu yn y gorffennol. Mae hyn yn digwydd, nid yn unig gyda rhywogaethau y gallwn eu gweld (macrosgopig) ond hefyd gyda rhywogaethau na fyddwn yn eu gweld (microsgopig). Er gwaethaf y ffaith eu bod mor fach, mae’r rhywogaethau hyn yn chwarae rhan bwysig o ran gweithrediad yr ecosystem (pethau fel y bacteria rhizobia wrth sefydlu nitrogen i gnydau a phorfeydd). Mae cynnal a gwella lefelau bioamrywiaeth yn hanfodol gan na fydd unrhyw rywogaeth unigol yn goroesi ar ei phen ei hun, mae pob un yn ddibynnol ar rywogaethau eraill i hwyluso gwahanol agweddau ar eu goroesiad. Mae’r systemau mor gymhleth fel ei bod yn anodd i wyddonwyr ddiffinio pryd y mae colledion bioamrywiaeth yn arwain at chwalu’r ecosystem. Felly, er mwyn osgoi ansefydlogrwydd ecosystem a chwalfa bosibl fe ddylem fod yn gwneud popeth allwn ni i wella bioamrywiaeth yn awr.

Mae’n hanfodol i hyn gael ei ddeall yn y sector amaethyddol gan, yn ei hanfod, bod amaethyddiaeth yn cystadlu am dir a lle gyda bioamrywiaeth, gan ei wneud yn un o’r cyfranwyr mwyaf at golli bioamrywiaeth ynghyd â threfoli a chludiant. Amcangyfrifwyd bod newidiadau yn y gorchudd tir ar ei ben ei hun wedi achosi colledion o £3.5 - £16.5 triliwn y flwyddyn mewn llai o wasanaethau ecosystem. Cysylltir colli bioamrywiaeth trwy amaethyddiaeth â rheoli gweithredol, sydd yn aml yn golygu cael gwared ar rywogaethau cynhenid â’u cyfnewid am gnydau a phorfeydd cyfyngedig o ran amrywiaeth y rhywogaethau (ungwnd yn aml). Yn yr un modd, mae rheoli i gael mwy o gynnyrch yn arwain at ychwanegu pethau yn gynyddol at y dirwedd, fel gwrtaith, tail a phlaleiddiaid a all lygru amgylcheddau gan effeithio ar amrywiaeth rhywogaethau lleol yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Yn ddiweddar, daeth bioamrywiaeth yn amlwg ar lawer o agendâu amaethyddol byd-eang oherwydd y pwysau o ran cynaliadwyedd a newid hinsawdd. Bwriedir i reoliadau a chymorthdaliadau trwy’r Deyrnas Unedig ganolbwyntio ar arferion sy’n lleihau’r colli ar fioamrywiaeth mewn  ymgais i frwydro yn erbyn y duedd hanesyddol tuag i lawr. Gall hyn weithredu fel cyfle i ffermwyr gael eu gwobrwyo am gymryd rhan weithredol wrth wella systemau, gan fod mwy o werth yn cael ei roi i fioamrywiaeth mewn cysyniadau fel cyfalaf naturiol  a nwyddau cyhoeddus. Er bod nifer o strategaethau amaethyddol yn ceisio lleihau faint o fioamrywiaeth a gollir (gan gynnwys amaethyddiaeth adfywiol, gwndwn llawn rhywogaethau, stribedi blodau gwyllt, neulltir, gwrychoedd, cnydau gorchudd a chylchdroi cnydau  i beillwyr), ni fydd y rhain yn cael eu trafod yn uniongyrchol yn yr erthygl hon. Yn hytrach byddwn yn canolbwyntio ar bennu pa arferion sy’n gweithredu’n llesol o ran bioamrywiaeth. Er mwyn gwneud hyn mae arnom angen ffyrdd manwl gywir o fesur bioamrywiaeth.

Gwelodd amaethyddiaeth gynnydd yn y rhai sy’n defnyddio technolegau manwl gywir blaengar a all gynnig nifer o fanteision a chaniatáu i ddata gael ei gasglu 24/7 gan fesur nifer o newidion. Er bod y prif gyfraniad gan dechnolegau yn y sector ar hyn o bryd yn ymwneud â monitro a gwerthuso priddoedd, cnydau a da byw, yn bennaf o ran cynhyrchiant, awgrymwyd hefyd bod ganddynt gyfraniad posibl o ran monitro cadwraeth bioamrywiaeth.

 

Yn draddodiadol mae llawer o’r dadansoddi ar fioamrywiaeth yn ddibynnol ar arsylwi uniongyrchol a thrapio gan weithwyr maes, ynghyd â dadansoddiad mewn labordy o feysydd penodol yr ymchwilir iddynt. Mae i’r rhain broblemau  o ran maint y sampl y gellir ei chyflawni, safoni'r dulliau mesur, costau llafur a’r amser sydd ei angen (ynghyd â’r amrywiaeth o ran sgiliau'r unigolion sy’n cyflawni’r gwerthuso yn cael effaith ar gywirdeb a gwrthrychedd). Felly, fe fyddwn yn archwilio sut y gall technolegau chwarae rôl wrth liniaru rhai o’r problemau hyn yn y dyfodol.

 

Delweddau o Bell a Bioamrywiaeth

Er mwyn mesur bioamrywiaeth ar raddfa fawr, rhaid i’r data a gesglir gwmpasu ardaloedd mawr yn ddaearyddol yn rhwydd. Llwyddwyd i wneud hyn i lefelau amrywiol trwy arsylwi ar y ddaear gan ddefnyddio offer synhwyro o bell sydd wedi eu hymgorffori mewn lloerennau, awyrennau a cherbydau awyr heb yrwyr (UAV). Dangoswyd bod gan synhwyro o bell, ymhlith cyfraniadau eraill, botensial o ran gwerthuso’r rhyngweithio rhwng rhywogaethau a’r amgylchedd ar y cyd gyda data symudiadau anifeiliaid. Mae iddo botensial o ran canfod rhywogaethau mewn ecosystemau coedwigoedd cymysg a photensial sylweddol wrth werthuso iechyd coedwigoedd, a rhan wrth leihau’r colledion bioamrywiaeth tymor hir trwy ddadansoddi tueddiadau sbectraidd.

Gall offer delweddau fel mynegai llystyfiant gwahaniaeth wedi ei normaleiddio (NDVI), a ddefnyddir yn aml i werthuso cynnyrch cnydau o bell, gael ei ddefnyddio hefyd i asesu cynnyrch llystyfiant gwyllt er mwyn gwerthuso llwyddiant planhigyn a bioamrywiaeth. Yn yr un modd gall NDVI helpu i fapio ardaloedd porthi tebygol ar gyfer gwahanol infertebratau ac oblygiadau eraill o ran bioamrywiaeth anifeiliaid.

Lloerennau

Mae gan ddelweddau lloeren synhwyro o bell y potensial i arsylwi yn gyson ar ardaloedd daearyddol mawr dros amser. Mae’n bwysig nodi bod synhwyro o bell yn offeryn digyswllt ac nad yw dadansoddi yn y ffordd hon yn amharu ar rywogaethau mewn amgylchedd. Dangoswyd bod gan offer synhwyro lloeren o bell botensial o ran asesu dethol porthiant/adnoddau bywyd gwyllt  trwy LiDAR i asesu llwyddiant poblogaeth neu ei dirywiad dros amser. Gall hefyd werthuso lledaeniad planhigion ymledol dros amser. Mae ei gyfyngiadau a phroblemau yn codi o ran pa mor hir y mae data yn cael ei gadw mewn cronfeydd data (er mwyn gallu gwneud cymariaethau hanesyddol a dadansoddi), faint mae’n ei gostio i gael mynediad at y data a pha mor rhwydd neu addas yw’r data i’w gael allan, ei ddadansoddi a’i ddefnyddio. Mae rhai problemau hefyd gan ddibynnu ar y synhwyrydd o bell a ddefnyddir, o ran bod gorchudd o gymylau yn effeithio ar ganlyniadau.

 

UAV

Dro ar ôl tro rhoddwyd y farn bod gan UAV botensial sylweddol o ran defnydd cadwraeth bioamrywiaeth y gellir ei ailadrodd ac sy’n rhad. Noda nifer o astudiaethau bod UAV ar lefel is yn rhoi gwell data na thechnegau delweddau lloeren ond bod angen rhagor o ymchwil i’r uchder y mae UAV yn hedfan er mwyn sicrhau eu bod yn canfod lefelau bioamrywiaeth i’r safon gorau. Mewn adolygiad a gynhyrchwyd yn 2020, dangoswyd y gallai UAV fod yr un mor llwyddiannus â dulliau eraill o asesu bioamrywiaeth. Er bod rhai anfanteision o ran manylder a chywirdeb y canlyniadau a geir, mewn cymhariaeth â dadansoddi ar y ddaear, mae ardaloedd llawer mwy yn cael eu hasesu yn gyflymach. Yn bwysig, fe wnaeth yr adolygiad hwn ddadansoddi systemau UAV hawdd eu defnyddio syml coch/gwyrdd/glas (RGB), a fyddai’n cynnig data llawer rhatach a mwy hygyrch na lloerennau.

Gall ymgorffori delweddau mwy cymhleth, fel is-goch, UV a systemau aml-sbectrwm ar UAV, wella’r potensial monitro bioamrywiaeth yn sylweddol. Er enghraifft, gallai delweddau thermal ar gyfer ffenoteipio planhigion, helpu i fonitro lefelau straen y rhywogaethau planhigion allweddol ond gallai gyfrannu at ddulliau dynodi i bennu lefelau bioamrywiaeth yn y dyfodol. Dangoswyd bod gan ddelweddau UAV ar gyfer gwerthuso amrywiaeth planhigion ran wrth werthuso rhywogaethau ymledol a chwyn, amrywiaeth rhywogaethau mewn ardaloedd anodd mynd iddynt (fel clogwyni ar yr arfordir) a mapio amrywiaeth mewn porfeydd. Gall yr amrywiaeth o blanhigion hefyd gael ei ddefnyddio i werthuso poblogaeth o infertebratau sy’n hanfodol ar gyfer gwasanaethau ecosystem.

Yn yr un modd, dangoswyd bod gan UAV y potensial i asesu iechyd y pridd a all helpu wrth siapio arferion i wella’r adnodd hanfodol hwn ar gyfer rheoli ecosystem. Mae gan UAV botensial sylweddol hefyd ar gyfer canfod rhywogaethau o anifeiliaid mewn amgylchedd yn uniongyrchol dros ardaloedd mwy, yn gyflymach gan amharu llai nag offer ymchwilio eraill. Gallai hyn chwarae rhan wrth wella ein dealltwriaeth o gynefinoedd ac ecosystemau gyda photensial da i systemau adenydd sefydlog olrhain rhywogaethau mwy dros ardaloedd agored a systemau aml-rotor â photensial ar gyfer rhywogaethau llai, anos eu gweld. Gallai cyfuno’r delweddau gydag algorithmau a deallusrwydd artiffisial arwain at ganfod rhywogaethau yn fwy awtomataidd gan leihau’r amser a roddir i arolygon a pha mor anodd yw eu cyflawni.

 

Synwyryddion ac offer eraill

Mae ein rhywogaethau o infertebratau llai hefyd yn bryder oherwydd eu heffeithiau allweddol ar ecosystemau trwy eu rhan yn peillio, diraddio  ac fel plâu ymledol. Mae gwahanol systemau trapiau camera yn cael eu datblygu gan ddefnyddio dadansoddi gwrthrych i adnabod pryfed mewn trapiau. Mae’r systemau yma yn gweithio yn yr un ffordd â thrapio pryfed traddodiadol lle gall nifer o fannau samplo data gael eu cyfuno i roi darlun cywir o amlygrwydd y rhywogaeth. Gall arbenigwyr/algorithmau ddefnyddio amlygrwydd a chyfansoddiad rhywogaeth i wneud tybiaethau am weithrediad yr ecosystem o’r data. Agwedd sydd o fwy o ddiddordeb i ffermwyr yw bod rhywogaethau o blâu yn gallu cael eu hadnabod a gallai’r rhain gael eu hymgorffori mewn dulliau rheoli plâu cynaliadwy trwy reolaeth plâu integredig a dulliau rheoli biolegol, neu o leiaf gynorthwyo wrth roi plaleiddiaid yn fwy penodol i leihau effeithiau ar fioamrywiaeth nad yw’n cael ei dargedu. Yn yr un modd, mae synwyryddion acwstig  yn cael eu datblygu i bennu rhywogaethau o bryfed, adar, ymlusgiaid a hyd yn oed ystlumod ar sail eu sain gan adael i’r cyhoedd recordio seiniau gyda’u ffonau i adnabod rhywogaethau yn awtomatig i roi adroddiadau gwell am fioamrywiaeth.

 

Mae’r offer eraill yn cynnwys defnyddio data o dechnolegau fel trapiau camera ecolegol. Er bod trapiau camera eisoes yn ffynhonnell wybodaeth hanfodol ar gyfer gwerthuso ecoleg a bioamrywiaeth, mae eu dadansoddi wedi cymryd llawer iawn o amser yn y gorffennol ac felly yn ddrud (pan fydd angen gweithwyr arbenigol). Gall pori trwy’r darluniau gyda thechnolegau adnabod gwrthrychau algorithmig mwy newydd a systemau Deallusrwydd Artiffisial, ddod yn llawer cyflymach ac wedi ei awtomeiddio. Gall systemau tebyg hefyd gael eu defnyddio trwy flychau nythu Rhyngrwyd o Bethau i gynnal arolwg ar rywogaethau adar. Yr allwedd i ddeallusrwydd artiffisial adnabod rhywogaethau oddi wrth ddelweddau yw hyfforddi trwy gannoedd ar filoedd o ddelweddau “ymarfer”. Mae cyfoeth o ddelweddau ymarfer yn cael eu creu gan y cyhoedd trwy ffotograffiaeth ar gyfryngau cymdeithasol. Nid yn unig gall y cronfeydd yma o ddelweddau gael eu defnyddio ar gyfer hyfforddi, ond maent yn aml hefyd yn cael eu cysylltu â geo-dagiau a gwelwyd bod ganddynt y potensial i gael eu cynnwys mewn algorithmau mapio bioamrywiaeth. Mae gan ddeallusrwydd artiffisial hefyd y potensial ar gyfer dysgu ei hun, canfod patrymau heb reolau wedi eu gosod ymlaen llaw. Oherwydd hyn gall deallusrwydd artiffisial oresgyn problem allweddol mewn ecoleg a elwir yn ‘ddiffyg Linnean’. Mae’r diffyg hwn yn digwydd gan mai dim ond cyfran fechan o rywogaethau’r blaned sydd wedi cael eu disgrifio’n wyddonol, oherwydd hyn dim ond rhywogaethau sydd wedi eu disgrifio fyddai yn y setiau data a ddefnyddir i hyfforddi systemau deallusrwydd artiffisial. Trwy ddysgu ei hun, gallai deallusrwydd artiffisial lunio disgrifiadau newydd yn amlygu rhywogaethau heb eu disgrifio o’r blaen gan ychwanegu at ein dealltwriaeth o fioamrywiaeth. 

 

Mae gwyddoniaeth y bobl eisoes yn offeryn arolygu bioamrywiaeth grymus gydag astudiaeth ddiweddar yn canfod dros 500 o brosiectau unigol yn casglu data tacsonomig trwy 1.3 - 2.3 miliwn o wirfoddolwyr. Rhoesant werth ar y data a gynhyrchir gan gynlluniau o’r fath o rhwng £530 miliwn a £2 biliwn y flwyddyn. Mae’r offer gwyddoniaeth y bobl cyffredin sy’n cael eu datblygu yn dueddol o ddefnyddio gallu ffonau clyfar ac apiau i drosglwyddo data (delweddau, sain, adroddiadau) i weinyddwyr er mwyn eu casglu yn y modd gorau i’w dadansoddi ymhellach. Mae offer fel inaturalist, Floraincognita, Seek (gan ffederasiwn bywyd gwyllt y byd wedi ei gysylltu â chronfeydd data inaturalist), ShroomID, Picture insect & spider ID  a llawer o rai eraill i gyd yn enghreifftiau o offer sy’n gadael i aelodau’r cyhoedd ddynodi rhywogaethau yn fwy cywir, llawer ohonynt yn cymryd data GPS yn awtomatig o’r ap i lunio mapiau bioamrywiaeth. 

Er bod gwyddoniaeth y bobl yn offeryn grymus mae gwendidau iddo gan nad yw’r cyhoedd yn ymweld â phob ardal i’r un graddau, felly, mae data dwysach, gyda thuedd yn cael ei gasglu mewn ardaloedd a ffafrir oherwydd ffactorau eraill sy’n ymwneud â thwristiaeth. Yn yr un modd mae gan bobl lefelau gwahanol o arbenigedd a gwybodaeth ac felly, gallant gam-gofnodi un rhywogaeth gan roi gogwydd o ran cywirdeb. Un ffordd o gyfyngu ar ddata anghywir yw offer adnabod delweddau.   

 

Dadansoddi’r data a gasglwyd

Mae’r holl dechnolegau a drafodwyd yn gadael i wyddonwyr amgylcheddol ac ymarferwyr eraill sy’n ymwneud â chadwraeth bioamrywiaeth gasglu llawer iawn o ddata  yn llawer cyflymach ac yn rhatach yn aml iawn. Ond nid yw data ar ei ben ei hun yn werth dim ac mae angen ei ddadansoddi i roi allbwn ystyrlon ar gyfer trawsnewid pellach i newidiadau rheoli ymarferol ddigwydd. Mae hwn yn faes lle gall dysgu peiriannau (ML) /Deallusrwydd artiffisial (AI) fod â rhan oherwydd eu gallu i awtomeiddio dadansoddi setiau data mawr, yn arbennig am ein bod yn sôn am ddadansoddi petabytau (PB) o ddata yn flynyddol wrth i brosiectau ddod yn fwy eang. Trafodwyd datblygiadau fel cyfrifiadura ‘edge’ (a all helpu i gyflymu prosesu data) o ran ei allu i brosesu setiau data mawr (trwy AI) mewn amaethyddiaeth  a systemau eraill, gallant chwarae rhan allweddol i’r un graddau o ran cadwraeth bioamrywiaeth. Nododd llu o astudiaethau ac adolygiadau'r potensial i wahanol fathau o ddeallusrwydd artiffisial weithio trwy ddata i ganfod patrymau mewn ffyrdd gwahanol gyda’r enghreifftiau yn cynnwys;

  • Dadansoddi adnabod llais i ddosbarthu rhywogaethau yn awtomatig a’u cyfri
  • Dadansoddi delweddau neu sain i ganfod rhywogaethau prin ac sydd mewn perygl
  • Dadansoddi poblogaethau anifeiliaid dros amser
  • Dadansoddi presenoldeb rhywogaethau ymledol (anifeiliaid a phlanhigion)
  • Dadansoddi cyfansoddiad coedwigoedd a phorfeydd o ran y rhywogaethau sydd yno
  • Dynodi unigolion yn y fasnach fywyd gwyllt anghyfreithlon trwy fynd trwy bostiadau cyfryngau cymdeithasol
  • Defnyddio patrymau dysgu eich hun gyda data anifeiliaid i amlygu gwybodaeth newydd a all gael effaith ar ystyriaethau diogelu bioamrywiaeth

Yn y dyfodol, gellid disgwyl i ddadansoddi data o’r fath gael ei feddiannu gan berchenogion tir a chyrff y llywodraeth i asesu a meincnodi eu lefelau bioamrywiaeth  yn well. Wrth fynd â hyn ymhellach eto, gellid datblygu awgrymiadau rheoli penodol ar y cyd ag arbenigwyr, neu hyd yn oed yn awtomatig trwy algorithmau a allai hwyluso’r ffordd i dirfeddianwyr wneud newidiadau i gael effaith ar y fioamrywiaeth o’u cwmpas yn fwy effeithlon. 

 

Datblygiadau yn Nhechnoleg Labordai

Er nad yw technoleg labordai yn agored i’r cyhoedd yn gyffredinol a gall olygu costau nad yw tirfeddianwyr/ffermwyr yn dymuno eu tynnu, mae’n werth tynnu sylw at rym technolegau newydd o’r fath. Mae gan offer DNA fel metafarcodio a dadansoddi eDNA botensial sylweddol ar gyfer gwerthuso marcwyr ar gyfer rhywogaethau lluosog mewn un cynefin. O ran DNA, yn y rhan fwyaf o enghreifftiau mae’n dirywio yn eithaf cyflym mewn amgylchedd, ond mae gwerthusiadau a gyflawnir ar DNA yn rhoi darlun da o fioamrywiaeth ar bwyntiau penodol mewn amser. Er bod dadansoddi yn gymhleth ac yn cymryd cryn amser y gwerth a gyflawnir yw bod un sampl, o bwll o ddŵr dyweder mewn cae, neu ysgarthion, neu bridd, yn cynnwys DNA cannoedd o rywogaethau yn yr amgylchedd hwnnw. Gall hyn weithredu’n dda ar y cyd ag arolygon traddodiadol/arsylwi gan y gall DNA amlygu presenoldeb rhywogaethau allweddol a thrwy hynny adael i arolygon chwilio’n benodol am y rhain.

 

Crynodeb

Y mae datblygiad sylweddol tuag at ddefnyddio technoleg i wella ein gallu i ganfod, adnabod a rheoli lefelau bioamrywiaeth ar draws lefelau tacsonomig amrywiol mewn gwahanol gynefinoedd. Er nad yw’r rhan fwyaf o’r offer presennol wedi eu hanelu at ddefnydd perchenogion tir a ffermwyr yn eu hanfod, gallai eu hegwyddorion gael eu hymgorffori yn y dyfodol mewn systemau UAV, camerâu clyfar/trapiau sain a ffonau clyfar y gellid eu defnyddio i gynorthwyo tirfeddianwyr wrth feincnodi a rheoli eu lefelau bioamrywiaeth yn fwy effeithiol. Gallai’r dechnoleg hyd yn oed gael ei hymgorffori mewn dulliau mesur i ffermwyr a thirfeddianwyr i fod yn dystiolaeth o effeithiau bioamrywiaeth er mwyn cael cymhorthdal yn y dyfodol, os bydd offer yn cael eu datblygu’n gywir. Yn ychwanegol, gallai cronfeydd data monitro bioamrywiaeth sydd eisoes yn dibynnu ar wyddoniaeth y bobl (sy’n aml yn cael ei gefnogi trwy apiau ffonau clyfar neu systemau pori) wneud rhagor i annog ffermwyr i fod yn rhan o’u cynlluniau’n uniongyrchol. Dylai cynlluniau o’r fath hefyd amlygu  monitro rhagor ar fioamrywiaeth mewn rhanbarthau lle mae tir amaethyddol a thwristiaeth yn gorgyffwrdd (er enghraifft arwyddbyst amaeth-dwristiaeth a byrddau gwybodaeth ar gyfer llwybrau sy’n defnyddio tir sy’n berchen i ffermydd yn annog y cyhoedd i ddefnyddio apiau adnabod wrth iddynt archwilio natur), gan roi gweithgareddau i dwristiaid a chynyddu cywirdeb proffiliau bioamrywiaeth i dirfeddianwyr i’w hymgorffori mewn penderfyniadau rheoli. Gallai dewisiadau o’r fath, os rhoddir cymhelliant ar eu cyfer helpu i roi hwb i werthuso bioamrywiaeth trwy dirfeddianwyr a’r cyhoedd a bwydo i mewn i ystyriaethau arallgyfeirio i ffermwyr.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth