Yn fyw o Rhiwaedog, Y Bala, un o’n safleoedd arddangos cig coch. Mae gennym ddau brosiect cyffrous sydd ar y gweill yn Rhiwaedog ar hyn o bryd gan gynnwys:

  1. Gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd oddi ar y borfa.
  2. Gwerthuso buddion technoleg i ganfod pan fo buchod yn gofyn tarw i sicrhau ennillion o ran ffrwythlondeb y fuches sugno.

Trwy gydol y digwyddiad, mae arbenigwyr yn trafod:

  • Y prosiectau - beth rydym yn ei anelu i’w gyflawni?
  • Ffrwythlondeb y fuches - darparu cynnydd (Joe Angell, Milfeddygon y Wern)
  • Moocall Heat - sut mae’n gweithio?
  • Effeithlonrwydd glaswelltir - gwella cynhyrchiant o borfa (Chris Duller, arbenigwr glaswelltir annibynnol)
  • Prosiect stoc+ HCC - gwella iechyd eich buches.

Yn ogystal â thrafod y prosiectau, mae ein harbenigwyr yn cynnig  cyngor ac argymhellion cyffredinol, gyda’r nod o’ch helpu chi i wella eich busnes.

 

Cyrsiau e-ddysgu cysylltiedig:

  • Ymwrthedd Anthelminitig ar Ffermydd Defaid
  • Ffrwythlondeb y Fuches Biff
  • Meincnodi eich Fferm
  • Effeithlonrwydd Bwyd
  • Rheoli Pori
  • Rhywogaethau Glaswelltir
  • Systemau Pori
  • Gwella Iechyd Pridd
  • Atgenhedlu Tymhorol Mewn Mamogiaid

Related Newyddion a Digwyddiadau

GWEMINAR: Adolygiad Prosiect Porfa Cymru 2022
Prosiect Porfa Cymru - Adolygiad o'r Tymor Pori 2022 {"preview
GWEMINAR am wybodaeth grantiau: Cynllun Troi’n Organig - 12/07/2022
Siaradwr: Richard Evans, Llywodraeth Cymru Mae’r Cynllun Troi’n
GWEMINAR am wybodaeth grantiau: Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau a Buddsoddi mewn Rheoli Maetholion - 05/07/2022
Siaradwr: Richard Evans, Llywodraeth Cymru Mae Grantiau Bach –