29 Mehefin 2020

 

Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi enwau’r rhai a ddewiswyd i gymryd rhan yn Nosbarth 2020 yr Academi Amaeth.  

Mae ‘blwyddyn academaidd’ yr ymgeiswyr llwyddiannus o fentora dwys, teithiau astudio a gweithgareddau wedi gorfod cael ei ohirio oherwydd y sefyllfa bresennol, ond yn y cyfamser, maent yn edrych ymlaen am eu ‘cyfarfod’ cyntaf swyddogol trwy ‘Zoom’, pan fyddant yn dysgu pryd y gall y rhaglen gychwyn a beth fydd yn cael ei gynnwys.

Bydd y 24 o ymgeiswyr newydd yn cael eu rhannu yn gyfartal rhwng y rhaglen Busnes ac Arloesedd, dan arweiniad y dyn busnes a’r ffermwr o Ogledd Cymru, Llyr Jones a Rhaglen yr Ifanc, cynllun ar y cyd â CFfI Cymru, a fydd yn cael ei arwain gan y syrfëwr gwledig a chyflwynodd radio Aled Rhys Jones o Sir Gaerfyrddin. Mae’r ddau arweinydd yn alumni o’r Academi Amaeth eu hunain.  

Cytunodd y panel o feirniaid, oedd yn cynnwys cymeriadau blaenllaw o’r byd amaeth yng Nghymru, CFfI Cymru a Llywodraeth Cymru, y bu’n rhaid iddynt ddewis yr ymgeiswyr ‘o bell’ trwy broses ar-lein am y tro cyntaf erioed, bod yr ymgeiswyr a ddewiswyd eleni o unigolion brwd, deinamig, o safon uchel iawn unwaith eto.

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda dosbarth 2020 – maent yn grŵp talentog o unigolion gyda chroestoriad o gefndiroedd, diddordebau a syniadau.

“Y cyfan yn llysgenhadon i’n diwydiant, maent yn sicr yn rhai i’w gwylio yn y dyfodol!” dywedodd Aled Rhys Jones.  

Mae’r ymgeiswyr llwyddiannus eleni yn cynnwys ffermwyr, darpar gyfreithwyr, ac asiantau tir yn ogystal â myfyrwyr coleg ac ysgol y mae eu diddordebau yn amrywio o rygbi i ganu ac o fagu stoc pedigri i siarad cyhoeddus. 

I lawer o alumni yr Academi Amaeth, sydd, gan gynnwys ymgeiswyr llwyddiannus eleni, yn  gyfanswm  o 260 erbyn hyn, mae’r rhaglen ddwys o fentora, hyfforddiant a theithiau astudio wedi rhoi hyder iddynt a rhwydweithiau newydd sydd eisoes wedi eu helpu i gyflawni eu huchelgais bersonol a chreu cyfleoedd busnes newydd.

Gan longyfarch ‘Dosbarth 2020’, dywedodd Llyr Jones,  

“Mae’r Academi Amaeth yn cael ei chydnabod gan lawer o gyflogwyr fel ychwanegiad gwerthfawr at CV.  

“Yn flynyddol rydym yn gweld mwy o’r cyn-aelodau yn cael swyddi pwysig a dylanwadol, gan gyfrannu cymaint at wneud amaeth Cymru yn gynaliadwy, proffidiol a gwydn, sydd mor bwysig wrth i ni ymdopi ag effeithiau Covid-19 a pharatoi ar gyfer yr amodau masnachu ansicr a ddisgwylir wrth i ni adael yr UE.

“Maen nhw i gyd yn llysgenhadon rhagorol i’r Academi Amaeth ac yn dangos gwerth datblygiad proffesiynol parhaus.”

Mae Academi Amaeth Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei gyflwyno gan Menter a Busnes a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, yn cynnig rhaglen ddwys o fentora, cefnogaeth a hyfforddiant gan rai o arweinwyr a chymeriadau mwyaf llwyddiannus y diwydiant yn y Deyrnas Unedig a thramor.  

Roedd y ddwy raglen yn y gorffennol yn cynnwys nifer o ymweliadau a thaith astudio dramor, ond nes bydd y cyfyngiadau Covid-19 presennol yn cael eu newid, nid yw’n glir beth fydd rhaglen eleni yn ei gynnwys na phryd y bydd yn dechrau.

Gallwch weld dosbarth 2020 drwy fynd i’n gwefan yma.

Dyma beth sydd gan bedwar o'r ymgeiswyr llwyddiannus i’w ddweud... 

 

Laura Lewis, Llanbister - Rhaglen Busnes ac Arloesedd   

Mae’r athrawes gymwys, Laura Lewis, yn briod â ffermwr defaid ac mae gan y pâr ddau o blant ifanc.  Gyda day dŷ pen coeden hynod boblogaidd eisoes wedi rhoi’r busnes teuluol yn Llanbister ar y map twristiaeth, a chaniatâd cynllunio wedi cael ei dderbyn i adeiladu trydydd, mae Laura bellach wedi dechrau gweithio ar sail lawn amser yn marchnata ac yn hyrwyddo eu busnes. 

“Byddaf yn marchnata’r fenter gyfan fy hun at y dyfodol, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a derbyn archebion uniongyrchol ar lein. 

“Credaf y bydd cymryd rhan yn Rhaglen Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth yn rhoi’r hyder, y rhwydweithiau a’r sgiliau angenrheidiol i mi allu hyrwyddo ein brandiau ar gyfer y tai pen coed a’r wefan ar gyfer y cleientiaid yr ydym eisoes wedi dechrau cysylltu â nhw.” 

 

Tomos Huws, Llanrwst - Rhaglen Busnes ac Arloesedd 

Mae gan Tomos Huws radd mewn rheolaeth cefn gwlad, a dywed fod ei gefndir a’i fagwraeth ar fferm bîff a defaid y teulu, ynghyd â thaith i weithio i Seland Newydd, wedi ei berswadio ei fod eisiau bod yn ffermwr ymarferol.  

Yn ei swydd bresennol, mae’n rheoli buches laeth 300 o wartheg ger Llanrwst.   Mae ganddo feddwl agored ynglŷn â’r dyfodol, a’i brif uchelgais yw datblygu ei fusnes ei hun. 

“Rwy’n ffyddiog y bydd bod yn rhan o raglen Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth yn fy nghynorthwyo i symud ymlaen o fewn y diwydiant, drwy roi’r sgiliau angenrheidiol i mi allu creu busnes proffidiol a llwyddiannus.

“Rwy’n sicr y bydd ehangu fy rhwydwaith o gysylltiadau a mentoriaid yn fy nghynorthwyo i osod targedau realistig, agor drysau newydd ac yn rhoi syniadau newid i mi ynglŷn â sut i greu busnes llwyddiannus.”

 

Rhun Crimes, Ceredigion - Rhaglen yr Ifanc  

Mae Rhun yn fyfyriwr chweched dosbarth sydd ar hyn o bryd yn astudio cymwysterau Lefel AS a BTEC peirianneg yn Ysgol Aberaeron yng Ngheredigion.   Magwyd Rhun ar fferm bîff a defaid y teulu ym Mydroilyn, ac mae’n gobeithio mynd ymlaen i astudio amaeth yn y brifysgol. 

“Rwy’n credu y bydd bod yn rhan o Raglen yr Ifanc yr Academi Amaeth yn fy helpu i ddysgu mwy am ffermio modern a sut y mae angen i ni addasu i ymateb i newidiadau economaidd a gwleidyddol presennol ac at y dyfodol.  

“Rydw i’n edrych ymlaen at gyfarfod a dysgu gan bobl yr un oed â mi sy’n rhannu’r un diddordebau ffermio â mi.”

 

Elan Thomas, Sir Gâr - Rhaglen yr Ifanc  

Mae Elan Thomas yn fyfyrwraig yn Ysgol Dyffryn Taf yn Hendy-gwyn ar Daf. Cafodd ei magu ar y fferm laeth y teulu yn Sir Gaerfyrddin, ac mae'n mwynhau gweithio gyda'r lloi gartref ac ar fferm gyfagos, lle mae ganddi waith rhan amser yn gofalu am y stoc, a dangos yr anifeiliaid. 

Breuddwyd Elan yw cymhwyso fel cyfreithwraig a gweithio yn ei sir enedigol yn ogystal â chadw ei buches ei hun o wartheg Jersey pedigri.    

“Rwy'n credu y bydd bod yn rhan o Raglen yr Ifanc yr Academi Amaeth yn gwella fy natblygiad personol, yn datblygu fy hyder ac yn helpu i ategu fy ngwerthoedd craidd a'm cred mai ffermydd teuluol yw asgwrn cefn ein gwlad.” 

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu