09 Hydref 2023
Mae dosbarth meistr a grëwyd i roi sgiliau a gwybodaeth ddefnyddiol i ffermwyr dyfu, cynnal a phori gwndwn llysieuol yn cael ei lansio gan Cyswllt Ffermio.
Bydd Meistr Gwndwn Llysieuol, y diweddaraf mewn cyfres o ddosbarthiadau meistr rhad ac am ddim a gynhelir gan Cyswllt Ffermio, yn arwain tyfwyr ar sut i sefydlu a rheoli cymysgedd amrywiol sydd o fudd i dda byw, iechyd y pridd a’r amgylchedd, ac i wneud hynny’n llwyddiannus.
Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y cwrs undydd yn cael cyfle i ddysgu sut i asesu iechyd y pridd yn weledol er mwyn deall y ffactorau sy'n cyfyngu ar gynhyrchiant a byddant yn cael gwybod sut y gellir gwella'r sefyllfa trwy gyflwyno rhywogaethau amrywiol gan gynnwys glaswellt, codlysiau a pherlysiau.
Ymdrinnir hefyd â sut i gynllunio system gwndwn llysieuol sy'n briodol i weithrediad ffermio.
Unwaith y bydd gwndwn wedi'i sefydlu mae'n rhaid eu rheoli felly bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael arweiniad gan arbenigwyr ar strategaethau pori sy'n gwneud y gorau o berfformiad anifeiliaid a hirhoedledd planhigion.
Cynhelir y cwrs yn Y Drenewydd ar 26 Hydref 2023 ac yn Abergele ar 27 Hydref 2023, rhwng 10.30am a 3.30pm.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23 Hydref am 10.30am a gofynnir i ymgeiswyr ddarparu ystod o wybodaeth gyda'u cais i ganiatáu i'r cwrs gael ei deilwra i ofynion penodol.
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio.
Am ragor o wybodaeth, Cliciwch yma