20 Mawrth 2019

 

 

mastergrassweb 1

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfle i ffermwyr Cymru fireinio eu harbenigedd rheoli porfa drwy gyfres o gyrsiau penodol.

Mae Meistr ar Borfa Cymru yn helpu ffermwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau rheoli porfa, gan roi’r sgiliau ymarferol a’r hyder iddynt wneud newidiadau ar eu ffermydd eu hunain.

Mae’r gweithdai porfa lefel uwch yn benodol ar gyfer pob sector - llaeth, bîff a defaid - a byddant yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru, yng Ngholeg Gelli Aur, Sir Gâr ar 8, 9 a 10 Ebrill (Llaeth), Coleg Meirion-Dwyfor, Glynllifon ar 15 a 16 Mai ac yng Ngholeg Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr ar 2 a 3 Gorffennaf (ar gyfer Bîff a Defaid).

Yn ystod y rhain, bydd ffermwyr yn dysgu am ddewis a sefydlu rhywogaethau ac amrywiaethau glaswellt addas ar gyfer pori cylchdro dwys.  Ceir ffocws hefyd ar isadeiledd pori a rheoli’r pridd, yn ogystal â mesur a dehongli mesuriadau twf glaswellt i ddarparu gwybodaeth sylfaenol i wneud penderfyniadau ynglŷn â phori da byw.

Mae’r borfa erbyn hyn yn sylfaen i’r systemau ar nifer o ffermydd llaeth, bîff a defaid yng Nghymru diolch i nifer o fentrau Cyswllt Ffermio, gan gynnwys cyfarfodydd grwpiau trafod, clinigau ar themâu penodol a phrofi pridd cymorthdaledig.

Mae Dafydd Jones o Gorwen, a fu’n mynychu’r cyrsiau Meistr ar Borfa diweddaraf ar gyfer bîff a defaid wedi mynd ymlaen i weithredu’r hyn a ddysgwyd ganddo ar ei fferm ei hun.

“Rhoddodd y cwrs Meistr ar Borfa’r hyder i mi weithredu system bori cylchdro ar y fferm deuluol, ac mae wedi cynyddu fy ymwybyddiaeth o’r posibilrwydd o gynnwys y system yn ein menter ddefaid.”

Ac mae Dyfrig Davies, a fu’n mynychu’r cwrs Meistr ar Borfa llaeth y llynedd, yn nodi bod y cwrs wedi bod yn ddefnyddiol iawn a’i fod yn bwriadu symud ymlaen i ddilyn y cwrs Meistr ar Briddoedd eleni.

“Rhoddodd y cwrs yr hyder a’r sicrwydd i mi fy mod yn defnyddio’r system addas ar eich cyfer.  Gall pob un ohonom droi’r gwartheg allan, ond bydd gwybod bod yr hyn sydd o’u blaenau’n addas yn rhoi tawelwch meddwl i chi.”

Dywed Dewi Hughes, Rheolwr Datblygu Technegol Cyswllt Ffermio, y gallai ffermydd ddefnyddio’r wybodaeth hon i gynyddu eu cynnyrch llaeth a’u cynnydd pwysau byw o’r borfa a phorthiant, a lleihau costau mewnbwn cyffredinol.

“Mae angen i ni sicrhau ein bod yn parhau i gynnig gwybodaeth briodol i barhau i ddatblygu ein dealltwriaeth.  Mae Meistr ar Borfa yn cynnig hyfforddiant ar lefel uwch er mwyn sicrhau bod gwelliant parhaus ar gael i ffermwyr tir glas arbenigol,” meddai.

Am ragor o fanylion neu i ymgeisio ar gyfer y cwrs, cysylltwch â Cyswllt Ffermio neu cliciwch yma am ffurflen gais.  Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ac mae’n rhaid cwblhau’r ffurflen gais berthnasol i wneud cais.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o