29 Gorffennaf 2020

 

Ymunwch â ni yn fyw o gysur eich cartref eich hun, lle bydd ein ffermwyr arddangos dangos, o’u profiad personol, sut mae technoleg newydd a gwahanol dechnegau rheoli yn newid y ffordd maen nhw’n ffermio. Byddwn yn ateb eich cwestiynau yn fyw gyda’r ffermwyr a’r panel o arbenigwyr ym mhob digwyddiad.

Mae Fferm Arddangos Rhiwaedog yn fferm fynydd o 142 hectar (ha) ac mae’n gweithio fel fferm bîff a defaid. Bydd y digwyddiad yma yn canolbwyntio ar wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd oddi ar y borfa a gwerthuso buddion technoleg i ganfod pan fo buchod yn gofyn tarw i sicrhau ennillion o ran ffrwythlondeb y fuches sugno.

Trwy gydol y weminar fyw, bydd ystod eang o arbenigwyr yn trafod:

  • Y prosiectau - beth rydym yn ei anelu i’w gyflawni?
  • Ffrwythlondeb y fuches - darparu cynnydd (Joe Angell, Milfeddygon y Wern)
  • Moocall Heat - sut mae’n gweithio?
  • Effeithlonrwydd glaswelltir - gwella cynhyrchiant o borfa (Chris Duller, arbenigwr glaswelltir annibynnol)
  • Prosiect stoc+ HCC - gwella iechyd eich buches.

Yn ogystal â thrafod y prosiectau, bydd ein harbenigwyr yn cynnig cyngor ac argymhellion cyffredinol, gyda’r nod o’ch helpu chi i wella eich busnes.

*Bydd y webinar yma neu ran ohono yn y Gymraeg felly bydd yna wasanaeth cyfieithu ar gael.

Er mwyn cymryd rhan yn y weminar yma, ebostiwch gwawr.hughes@menterabusnes.co.uk

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllidodrwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru -Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi
Bwydo glaswellt trwy'r dail yn rhoi hwb i borthiant india-corn mewn cyfnod o sychder, yn ôl arbrawf fferm
Bu i ddefnyddio’r dull bwydo drwy’r dail ar india-corn a oedd yn