12 Tachwedd 2021

 

Mae coleg Glynllifon yn treialu dull newydd ac arloesol o leihau allyriadau carbon a defnydd tanwydd un o'u tractorau fferm gyda chymorth Cyswllt Ffermio. Mae’r cwmni newydd o Dde Swydd Efrog, Water Fuel Systems, wedi datblygu dull cost isel o leihau allyriadau egsôst peiriannau fferm hyd at 80% ac yn honni bod y defnydd o danwydd yn cael ei leihau o 20%.

Mae'r blwch trawsnewid hydrogen bach yn cynnwys cronfa o ddŵr distyll a dyfais electroleiddio sy'n hollti'r dŵr i hydrogen ac ocsigen drwy yrru cerrynt trydanol drwy'r tanc.

Mae'r ocsihydrogen sy'n deillio o hyn yn cael ei chwistrellu i'r injan ddiesel gonfensiynol ar gyfradd o oddeutu 6%. Mae’r gwneuthurwyr hefyd yn honni bod tanwydd yn ‘llosgi’n well’, sy’n arwain at injan lanach, gan olygu bod angen ailosod hidlwyr gronynnol diesel yn llai aml.

Gwelodd myfyrwyr peirianneg amaethyddol Glynllifon o lygad y ffynnon sut cafodd y dechnoleg newydd hon ei hôl-osod ar dractorau hŷn presennol, a byddant yn monitro'r defnydd o danwydd ac allyriadau wrth i'r John Deere 6630 ymgymryd â gwaith fferm dros fisoedd y gaeaf. Mae'r coleg wedi dod o hyd i ddŵr distyll o safle cyfagos Halen Môn, sy'n sgil-gynnyrch o gynhyrchu halen môr. Dywedodd Gareth Williams, darlithydd peirianneg yng ngholeg Glynllifon, “Mae'n wych gallu treialu'r darn newydd hwn o offer gyda chefnogaeth Cyswllt Ffermio i ddangos i'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr a chontractwyr fod dulliau ffermio carbon isel yn bosibl gyda pheiriannau sydd eisoes i’w cael ar y fferm ac sy’n fforddiadwy”.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â: -

Simon Pitt, Cyswllt Ffermio           simon.pitt@menterabusnes.co.uk

Rhys Davies, Cyswllt Ffermio        rhys.davies@menterabusnes.co.uk

 

Llun: myfyrwyr Glynllifon a’r blwch Electroleiddio Hydrogen wedi’i osod.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint