1 Medi 2020

 

Mae technoleg sy’n canfod pan fo buchod yn gofyn tarw yn golygu bod fferm bîff yn gallu rheoli ffrwythlondeb y fuches sugno.

Mae cyfnod lloia’r 70 o fuchod ym muches gwartheg duon Cymreig teulu Jones yn ymestyn o fis Ionawr i fis Hydref. Maen nhw am leihau hyn yn sylweddol ac maen nhw’n gweithio gyda Cyswllt Ffermio ar brosiect i gyflawni hyn.

Un o'r mesurau y maen nhw wedi'i gymryd yn eu rôl fel safle arddangos Cyswllt Ffermio yw gosod coleri sy’n canfod pan fo buchod yn gofyn tarw ar eu dau darw – tarw Du Cymreig a tharw Charolais - a thagiau ar y buchod; mae'r rhain yn rhoi gwybod i’r ffermwr am weithgarwch bridio.

Dywedodd Aled Jones, sy'n ffermio gyda'i dad, Emyr, a'i frawd, Dylan, wrth ffermwyr oedd yn gwylio darllediad digidol byw Cyswllt Ffermio o Rhiwaedog ei bod yn ymddangos bod y system yn gweithio'n dda.

"Rydyn ni'n derbyn neges destun bob tro y mae buwch yn gofyn tarw ac mae ap yn cadw cofnod o bob buwch sy'n dangos arwyddion o ofyn tarw,'' eglurodd.

Roedd tarw newydd wedi'i ddefnyddio eleni ac roedd y dechnoleg wedi rhoi sicrwydd ei fod yn gweithio am ei fod yn dangos nad oedd buchod yn ail-ofyn ar ôl tair wythnos.

"Yn y gorffennol rydym wedi troi'r teirw allan ym mis Mai ac wedi gobeithio am y gorau ond mae Moocall HEAT yn golygu bod gennym reolaeth ac mae’n tynnu sylw at unrhyw broblemau,'' meddai Aled.

Mae'r dechnoleg hefyd yn cynhyrchu rhestr bob tair wythnos o wartheg sydd wedi ail-ofyn ac mae hyn yn caniatáu ymyrraeth gynnar.

Rhoddir ymchwiliad milfeddygol i fuchod nad ydynt wedi cymryd tarw a gosodir dyfais CIDR (dyfeisiau yn y groth sy'n rhyddhau progesteron) i gyd-fynd ag ofyliad y fuwch. O'r pedwar anifail y  gosodwyd dyfeisiau CIDR ynddynt, dim ond un oedd wedi ail-ofyn tarw.

Y mynegai lloia cyfartalog yn y fuches hyd yma eleni yw 376 diwrnod ond bydd y ffigur hwn yn cynyddu gydag ychydig o fuchod ar ôl i loia.

“Y nod yw gorffen lloia erbyn diwedd Mehefin bob blwyddyn felly gobeithio y bydd Moocall HEAT yn ein helpu i gyflawni hyn,'' meddai Aled.

Mae'r dechnoleg yn costio £1,095 heb gynnwys TAW ar gyfer coler a 50 o dagiau gyda ffi flynyddol o £255 i gadw'r system yn gysylltiedig â'r rhwydwaith ffonau symudol.

Does dim modd ailddefnyddio tagiau gan fod pob un yn cynnwys microsglodyn gyda manylion adnabod wedi'i neilltuo i fuwch benodol.

Dywedodd y milfeddyg Dr Joe Angell, o Filfeddygon Wern, sy'n gweithio gyda'r teulu Jones ar y prosiect, y byddai patrwm lloia tynn yn fanteisiol.

Yn Rhiwaedog, roedd y cyfnod lloia estynedig wedi achosi problemau o ran rheoli lloia ac o ran grwpio gwartheg stôr i’w gwerthu.

"Pan fydd cyfnod lloia'n cael ei ymestyn, mae'r fuwch honno'n golygu bod costau i'r busnes a pho hiraf fo’r bwlch rhwng lloia yr anoddaf yw ei chael yn gyflo,'' meddai Dr Angell.

Mae mwy o debygolrwydd hefyd y bydd yn mynd yn dew ac yn cael anawsterau wrth fwrw llo.

"Mae budd ariannol ac i iechyd a lles yn sgil trefnu bod gwartheg yn lloia o fewn y cyfnod gorau posibl,'' cynghorodd Dr Angell.

Yn y darllediad byw o’r Fferm Arddangos, tynnwyd sylw at fanteision Stoc+, menter a gynhelir gan Hybu Cig Cymru sy'n rhoi cyngor un-i-un i ffermwyr gyda milfeddyg.

Dywedodd John Richards o Hybu Cig Cymru fod dros 50% o'r ffermwyr a oedd wedi cofrestru, wedi gwneud hynny oherwydd problemau ffrwythlondeb yn eu buches.

"Gall yr elw a geir am wartheg bîff fod yn eithriadol o dynn, y ffigur delfrydol ar gyfer cyfnod lloia yw 365 diwrnod ond os gellir ei ostwng i cyn ised â 400 yna mae'r fuches mewn gwell sefyllfa,'' meddai.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut gwnaeth sicrhau mentor rymuso tyddynwyr gydag arweiniad a gwybodaeth
27 Mawrth 2024 Fel recriwtiaid newydd i amaeth-goedwigaeth a
Fferm Laeth Cwmcowddu yn Gwella Effeithlonrwydd Porthiant, gan Hybu Proffidioldeb a Chynaliadwyedd
25 Mawrth 2024 Mae Cwmcowddu, fferm gymysg yn Llangadog yng
Gall cyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio helpu i gyflawni datblygiad personol a chryfhau arferion fferm
21 Mawrth 2024 Enillodd Julie Davies, sy’n bartner gweithredol yn