11 Rhagfyr 2023

 

Mae pys a ffa sy’n llawn protein yn cymryd lle dwysfwydydd yn nogn gaeaf defaid a gwartheg ar fferm yn Sir Faesyfed.

Roedd Robert Lyon wedi bod yn cymysgu dogn TMR deiet cyflawn gan ddefnyddio india-corn, soia a silwair glaswellt ar gyfer ei famogiaid cyfeb yn Fferm Lower House Farm, sy’n un o ffermydd ‘Ein Ffermydd’ Cyswllt Ffermio, ger Llandrindod.
 
Ond er mwyn cynyddu gwydnwch a lleihau ôl troed carbon ei fferm, mae Robert eisiau tyfu cymaint o’r porthiant ar y fferm â phosibl.

Mae Robert bellach wedi rhoi cychwyn ar un o brosiectau ‘Ein Ffermydd’ Cyswllt Ffermio i werthuso sut y gallai pys a ffa ei helpu i gyrraedd y nod hwnnw.

Gellir defnyddio'r codlysiau hyn yn neiet anifeiliaid cnoi cil fel ffynhonnell ddefnyddiol o brotein sy’n ddiraddiadwy yn y rwmen, a gallent ddarparu datrysiad.

Mae gan bys tua 26% o brotein crai ar sail deunydd sych, ac mae gan ffa oddeutu 29%.  

Gan ddarparu rhwng 13.6 a 14 MJ/kgDM, â thros 40% o starts, mae’r ddau’n ffynonellau bwyd sy’n cynnwys llawer o egni. 

Y gaeaf hwn, bydd pys a ffa a brynir i mewn yn cael eu cynnwys yn neiet hyd at 600 o famogiaid a 150 o heffrod Belgian Blue a bydd y lefelau’n cael eu harwain gan ddadansoddiad o’r porthiant a fydd yn cael ei roi iddynt.

Yn 2024, bydd Robert yn tyfu ei gnwd deuol ei hun i’w gynnwys yn nognau 2024/25. 

Dywed y bydd yn gweddu’n dda fel cnwd toriad mewn cylchdro â’r 3.6 hectar (ha) o haidd mae’n eu tyfu bob blwyddyn. 

Gan fod pys a ffa yn gnwd sy’n sefydlogi nitrogen, bydd yn golygu na fydd angen iddo roi gwrtaith nitrogen synthetig ar y cnwd sy’n ei ddilyn, ac mae’n gobeithio y bydd eu gwreiddiau tap yn dda ar gyfer strwythur y pridd hefyd.

Bydd Cyswllt Ffermio yn dadansoddi perfformiad y mamogiaid a’r gwartheg ac effaith ariannol ac ôl troed carbon pys a ffa o’i gymharu â deiet rheoledig sy’n cynnwys soia.

Mae'r gwahaniaeth o ran cost rhwng prynu pys a ffa a'u tyfu ar y fferm hefyd yn cael ei asesu.

Dywed Dafydd Owen, Swyddog Sector Ffermydd Cymysg Cyswllt Ffermio, sy'n goruchwylio'r prosiect, fod rhesymau da pam y dylai mwy o ffermydd ystyried tyfu mwy o borthiant cartref.

“Gall defnyddio mwy o borthiant cartref leihau costau porthiant dros y gaeaf a dibyniaeth ar soia wedi’i fewnforio, a gwella ôl troed carbon y fferm,” meddai.

Mae hefyd yn lleddfu’r risg o gynnydd sydyn mewn prisiau mewn porthiant a brynir, a dibyniaeth ar wrtaith cemegol.

“Gall cyflwyno cnwd toriad o godlysiau weddu’n dda mewn cylchdro; gan ei fod yn gnwd sefydlogi nitrogen, nid oes angen gwrtaith nitrogen ar gyfer y cnwd dilynol,” meddai Mr Owen.

Gallai ysgogi’r gwelliannau hyn mewn cynaliadwyedd yn Lower House Farm arwain at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy pwysig hefyd, trwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, sicrhau bod cymaint o garbon â phosibl yn cael ei storio a’i atafaelu, a gwella ecosystem y fferm, yn ogystal â chyfrannu at lefelau uchel o iechyd a lles yn y ddiadell a’r fuches.

I ffermwyr eraill sydd hefyd yn awyddus i dyfu cnydau protein, neu wndwn cymysg a grawnfwydydd heb eu chwistrellu, mae ffenest newydd ar gyfer grant Tyfu er mwyn yr Amgylchedd Llywodraeth Cymru ar agor tan 15 Rhagfyr.

Yn benodol, mae'r ffenestr ymgeisio hon yn cefnogi’r broses o sefydlu cnydau sydd wedi'u hau yn y gwanwyn a'r haf a all wella perfformiad amgylcheddol busnes fferm.

Gellir gweld y rhestr lawn o gnydau cymwys a gofynion, ynghyd â chyfraddau talu, yn https://www.llyw.cymru/tyfu-er-mwyn-yr-amgylchedd-y-llyfryn-rheolau-cyf… 
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint