29 Tachwedd 2019

 

Drwy gydweithredu, mae tri bridiwr gwartheg Bîff Byrgorn yng ngorllewin Cymru yn ychwanegu gwerth i’w gwartheg drwy werthu cig yn uniongyrchol i gwsmeriaid.

Mae Hywel ac Emma Evans, sy’n rhedeg buches Derw yn Wernynad, ger Aberteifi, wedi ymuno â’u cyd-fridwyr gwartheg Bîff Byrgorn, Brian ac Eiryth Thomas ac Alma James ac Anthony James, i ffurfio Welsh Shorthorn Beef, sef busnes sy’n gwerthu cig eidion mewn bocsys.

Fe ddaethant ynghyd fel aelodau o Grŵp Agrisgôp Cyswllt Ffermio dan ofal yr hwylusydd Lilwen Joynson.

Roedd gan yr holl ffermwyr ddiddordeb mewn ychwanegu gwerth at y cig a gynhyrchir gan eu gwartheg Byrgorn Bîff pedigri – brîd sy’n enwog am freuder a gwead marmor ei gig.

Cyswllt Ffermio sy’n gyfrifol am Agrisgôp sy’n rhaglen datblygu rheolaeth a ariennir yn llawn. Ei nod yw dwyn ynghyd unigolion a theuluoedd i drafod a datblygu syniadau busnes, a bu’n blatfform da i’r ffermwyr hyn bwyso a mesur gwahanol ddewisiadau.

Gyda chymorth Lilwen, aeth y Grŵp Gwartheg Bîff Byrgorn ati i ddysgu drwy weithredu er mwyn datblygu syniadau, meithrin hyder personol a sgiliau cyfathrebu. Buont yn ymweld â chwmnïau pecynnu cig, yn mynychu cyfarfodydd â siaradwyr, lle trafodwyd materion a oedd yn berthnasol i’w cynlluniau; ac ymysg y siaradwyr yr oedd arbenigwyr marchnata a brandio a logisteg cynhyrchu a dosbarthu bocsys cig eidion. Drwy’r cynllun hefyd maent wedi llwyddo i feithrin eu sgiliau cydweithredu a chydweithio.

Mae ffurfio’r cwmni Welsh Shorthorn Beef yn galluogi iddynt gael cyfran fwy o werth marchnad y gwartheg y maen nhw wedi’u pesgi.

Fel unigolion, ni fyddent wedi gallu cyflenwi digon o wartheg i fodloni galw cynllun bocsys, ond fel grŵp, gallant fodloni’r galw hwnnw.  

“Fel grŵp, rydyn ni’n cyflenwi o leiaf ddau anifail i’r busnes bocsys cig eidion bob mis,” meddai Hywel, a oedd wedi rhedeg ei fusnes saer ei hun cyn ymddeol i fferm 34 erw ym Mhenparc.

Mae Brian ac Eiryth yn rhedeg buches Frenni yn Llanfyrnach tra bo buches Lamboro Alma ac Anthony wedi’i lleoli yn Clarbeston Road.

Fe wnaeth ymchwil marchnad y Grŵp, a oedd dan ofal merch Hywel ac Emma, Rebecca Andrew, sef ysgrifennydd a gweinyddwr y grŵp, amlygu galw am gig eidion o safon uchel mewn bocsys.

“Roedden ni eisiau canolbwyntio ar flas ac ansawdd y cig, er mwyn troi cefn ar y cysyniad bod cig eidion yn gynnyrch sydd yn union yr un fath ym mhob man,” esbonia Hywel. 

Mae’r tair fferm yn cynhyrchu cig eidion drwy ddulliau traddodiadol – mae’r gwartheg yn cael eu bwydo ar borfa ac ni ddefnyddir systemau dwys i’w pesgi.

“O’r ymchwil marchnad a wnaethom, gwelsom fod ansawdd cig eidion yn bwysig iawn i bobl,” meddai Emma.

Rydyn ni’n gwerthu’r cig eidion mewn bocsys o ddau faint - 10kg ac 8kg.

Caiff y gwartheg eu lladd naill ai yn lladd-dai Tregaron neu Cross Hands a chaiff y cig ei hongian am 21 diwrnod a’i fwtsiera gan Martin Lloyd yn Abergwaun. 

Dywed y ffermwyr bod Agrisgôp wedi eu gwthio ymlaen â’u cynlluniau.

“Heb Lilwen, byddai’r grŵp wedi dod i ben ers tro; ffermwyr ydy ffermwyr, a heb rywun i’n harwain, byddai wedi bod yn anodd symud pethau ymlaen,” cyfaddefa Hywel.

Anogodd pobl eraill i geisio cymorth drwy Cyswllt Ffermio.

“Mae Cyswllt Ffermio yn debyg i archfarchnad. Dydy chi ddim yn mynd i’r archfarchnad i brynu popeth; rydych chi’n dewis beth rydych chi eisiau, ac mae’r un peth yn wir am Cyswllt Ffermio. Mae yna lawer ar gael a gallwch ddethol yr hyn sydd fwyaf perthnasol i chi.”

Mae’n credu bod ychwanegu gwerth at y cynnyrch yn gallu gwneud pob ffermwr yn gryfach.

“Rhaid inni ddechrau sefyll ar ein traed ein hunain drwy werthu’r hyn sydd gennym yn uniongyrchol i’r cyhoedd.”

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o