8 Hydref 2020

 

Mae menter magu a phesgi lloi llaeth ar gyfer bîff yn defnyddio’r borfa yn fwy effeithlon ac yn cynnal ansawdd y borfa yn well ers dechrau defnyddio system bori cylchdro.

Roedd Neil Davies a'i deulu wedi bod yn cadw menter magu gwartheg bîff sugno ar fferm 105 hectar Cefnllan, un o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio yn Llangammarch, Powys.

Er mwyn newid cyfeiriad, mae’r fuches bellach wedi cael ei lleihau ac mae’r busnes erbyn hyn yn cynhyrchu bîff o loi llaeth Angus croes a brynir i mewn.

Er mwyn sicrhau’r elw gorau posibl, mae’r gwartheg yn cael eu pesgi ar laswellt a phorthiant a gynhyrchir gartref ac maen nhw’n cyflawni cyfraddau twf da.

Cawsant eu pwyso ddiwedd mis Awst ac roedd y 99 o loi iau, rhwng 7 ac 8 mis oed, yn pwyso 245kg ar gyfartaledd ar ôl ennill 0.8-0.9kg y dydd ers iddynt gyrraedd y fferm ddiwedd mis Ebrill.

Yn 18 mis oed, mae'r 36 o loi hŷn yn pwyso 470kg ar gyfartaledd ar ôl sicrhau cynnydd pwysau byw dyddiol (DLWG) o 1.2kg/dydd.

Mae Mr Davies yn pwyso ei loi bob mis i fonitro eu cynnydd pwysau byw dyddiol – mae tagiau electronig wedi cael eu gosod i sicrhau eu bod yn cael eu monitro’n fanwl pan gânt eu pwyso.

Rhan ganolog o ddull Mr Davies o reoli glaswelltir yw’r system bori cylchdro, a sefydlwyd gyda chyngor gan Precision Grazing, sy’n arwain gwaith ar y prosiect Cyswllt Ffermio ar fferm Cefnllan.  

Mae pori cylchdro yn seiliedig ar yr egwyddor sylfaenol o ‘bori a gorffwys’, felly unwaith mae padog wedi cael ei bori, mae’n cael cyfnod i orffwys er mwyn adfywio’r dail cyn cael ei bori eto. 

Mae hyn yn arwain at gynnyrch uwch - mae ymchwil wedi dangos bod padogau pori cylchdro yn cynhyrchu tua 20% yn fwy o laswellt. 

Mae hyn, ynghyd â'r ffordd gywir o ddyrannu glaswellt yn ôl math o stoc, yn arwain at ddefnyddio mwy o’r glaswellt.

Ar fferm Cefnllan, mae hyn yn golygu y gellir trosi mwy o'r glaswellt a dyfir i gynhyrchu cig eidion.

Mae Neil yn defnyddio mesurydd plât i fesur gorchudd fferm ar draws y fferm bob pythefnos er mwyn sicrhau'r defnydd gorau posibl o laswellt ar draws yr ardal bori.

Defnyddir meddalwedd AgriNet i reoli glaswellt ac mae meddalwedd Farmax yn darparu sylfaen ar gyfer helpu i wneud penderfyniadau.

Cynhaliodd Precision Grazing asesiad sylfaenol o'r fferm a'r fenter gan fwydo’r data hwn ar Farmax - defnyddiwyd y feddalwedd hon i greu map o fferm Cefnllan.

Bydd y prosiect yn helpu i greu templed ar gyfer busnesau fferm eraill sy’n ystyried newid o gadw buchod sugno traddodiadol i besgi lloi llaeth, yn ôl Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio, Elan Davies, sy’n goruchwylio’r prosiectau ar fferm Cefnllan.

"O'r data a gasglwyd, gallwn weld yn glir fod y fenter magu a phesgi lloi ar system bori cylchdro yn defnyddio’r glaswellt mewn ffordd fwy effeithlon, yn ogystal â chynnal ansawdd y borfa, o’i gymharu â’r fenter buchod sugno ar system stocio sefydlog,” meddai.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint