30 Hydref 2023
Bydd nod uchelgeisiol Cymru o gyrraedd sero net erbyn 2050 yn gofyn am rai newidiadau i arferion amaethyddol, gan gynnwys gwella iechyd, perfformiad a chynhyrchiant y fuches a diadelloedd.
Gyda hynny mewn golwg, mae Cyswllt Ffermio yn cynnal gweithdai wedi’u hariannu’n llawn, sy’n cael eu darparu gan filfeddygon lleol i baratoi ar gyfer yr adeg y bydd Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) blaenllaw newydd Cymru yn cael ei gyflwyno.
Bydd y rhain yn helpu ffermwyr bîff, llaeth a defaid ddeall y prif gamau y gallant eu cymryd i gyflawni targedau allyriadau.
Bydd pob un o’r tri gweithdy’n canolbwyntio ar y Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid (AHIC) – proses sydd wedi’i chynllunio i lywio cynhyrchiant, proffidioldeb a chynaliadwyedd busnes da byw drwy sicrhau iechyd a lles anifeiliaid.
Bydd ganddynt thema ganolog o ran sut y gellir defnyddio’r gwaith casglu data a meincnodi i asesu cynnydd, a sut y gall hyn helpu ffermwyr leihau eu hôl troed carbon.
Bydd cydweithio rhwng y ffermwr a’i filfeddyg a sut y gall hyn fod yn allweddol i lwyddiant hefyd yn cael ei archwilio, meddai Becky Summons, Rheolwr Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio a Rheolwr E-ddysgu.
“Bydd y rhai sy'n mynychu'r gweithdai hefyd yn dod i ddeall manteision amgylcheddol rheoli’r fuches a’r ddiadell yn dda,”meddai.
Mae’r gweithdai hyn wedi’u hariannu’n llawn, ond i fod yn gymwys am y cyllid hwnnw, rhaid i bawb sy’n mynychu fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio a chwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP).
Bydd presenoldeb yn y gweithdy’n cael ei gofnodi ar ‘Gofnod DPP ’ Storfa Sgiliau’r rhai sy’n bresennol a byddant yn cael tystysgrif presenoldeb’ Gwobrau Lantra.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol neu edrychwch ar wefan Cyswllt Ffermio.