4 Ebrill 2022

 

Mae fferm ddefaid yng Nghymru wedi gostwng ei chostau am ddeunydd dan y defaid o 75%, a lleihau faint o gloffni y mae’r mamogiaid yn ei ddioddef ers newid o wellt i lawr delltog.

Ôl-osodwyd llawr delltog plastig mewn sied yn Hendre Ifan Goch, safle arddangos Cyswllt Ffermio ym Melin Ifan Ddu, ger Pen-y-bont ar Ogwr, ar gost o £18,000 (heb y llafur a’r peiriannau).

Mae’r teulu Edwards - Russell ac Eira, a’u mab, Rhys - yn cadw diadell o 530 o famogiaid Miwl Cymreig yn bennaf a 180 o ŵyn benyw. Fe wnaethant newid i’r llawr delltog oherwydd bod dod o hyd i wellt yn heriol ac oherwydd ei bris, a hefyd i leihau’r llafur a’r cloffni oedd yn digwydd wrth roi’r defaid dan do.

Ers hynny, mae prosiect Cyswllt Ffermio wedi ei ddylunio gan yr ymgynghorydd defaid annibynnol Liz Genever wedi gwerthuso cost a pherfformiad y llawr delltog mewn cymhariaeth â gwellt gwenith a barlys, llwch llif a gwastraff papur. Yn ystod digwyddiad ‘Fferm Arddangos Fyw’ Cyswllt Ffermio yn ddiweddar yn Hendre Ifan Goch, dywedodd Dr Genever ar 3c/y dydd (gan gynnwys dibrisiant), mai cadw mamogiaid ar lawr delltog oedd y dewis rhataf. 

Gwastraff papur ar £186/tunnell oedd ddrytaf ar 32c/y dydd/y famog, gan gynnwys llafur. Dywedodd Dr Genever eu bod wedi stopio ei ddefnyddio bum wythnos i mewn i’r cynllun treialu oherwydd nad oedd yn gwneud y gwaith. Cost defnyddio gwellt gwenith a barlys (a brynwyd am £100/y dunnell), oedd 12c/y dydd/y famog, gan gynnwys llafur. Roedd llwch llif, oedd yn costio £20/y dunnell, yn 4c/y dydd, ond roedd angen llawer mwy i gadw mamogiaid yn lân a sych mewn cymhariaeth â gwellt. 

Aseswyd pa mor lân oedd y mamogiaid ar bob math o ddeunydd hefyd. Y mamogiaid ar wastraff papur oedd futraf, yna’r llwch llif, oedd yn dirywio’n gyflymach na’r mathau eraill o ddeunydd. Roedd y mamogiaid ar wellt gwenith a barlys yn lanach, ond y rhai glanaf un oedd y rhai ar lawr delltog.

Cafwyd bod wyth o famogiaid yn gloff yn ystod y cyfnod dan do, ac roedd y mwyafrif o’r rhain (chwech) yn rhai oedd wedi bod ar wellt gwenith. Ni chafwyd cloffni o gwbl ar y llawr delltog. Ers y cynllun treialu ni ddefnyddiwyd gwellt gwenith o gwbl, ond defnyddir gwellt barlys (am £80/y dunnell) yn y corlannau unigol wrth ŵyna, gan na ellir rhoi mamogiaid sy’n ŵyna ar loriau delltog am resymau lles.

Defnyddir llwch llif (am £7/y dunnell) dan ŵyn benyw a’r mamogiaid cyn ŵyna. Oherwydd ei fod yn gost effeithiol, fe’i defnyddir fel sail dan haen o wellt ar gyfer mamogiaid ac ŵyn o’r grŵp sy’n ŵyna’n gynnar, gan fod y rhain yn aros dan do nes bydd y tywydd a’r glaswellt yn caniatáu iddynt fynd allan. 

Dywedodd Rhys wrth y ffermwyr oedd yn gwrando ar ddigwyddiad Cyswllt Ffermio ei fod yn hapus iawn ar berfformiad y lloriau delltog. Yr unig beth yr oedd yn edifar amdano oedd na fyddai wedi gosod rhagor, ac wedi lleihau’r bwlch troedfedd rhwng y bar porthi a’r lloriau delltog – sefyllfa a orfodwyd arno i raddau trwy orfod gweithio o fewn isadeiledd y sied fel yr oedd.

Mae Rhys hefyd wedi bod yn gweithio ar astudiaeth gyda Philippa Page, ymgynghorydd milfeddygol defaid yn Flock Health Ltd, i sefydlu pa heriau iechyd a maeth sy’n amharu ar gyfraddau twf ŵyn.  

Dywedodd Ms Page wrth y digwyddiad mai yn anaml y mae un ffactor yn effeithio ar gyfraddau twf; roedd yn aml oherwydd cyfuniad o resymau, yn amrywio o ddiffygion elfennau hybrin a’r baich o barasitiaid i ddwyster y stocio ac iechyd yr anifeiliaid. Fel y cyfryw, mae’r ffactorau hyn i gyd yn cael sylw yn Hendre Ifan Goch. 

Hyd yn hyn, mae dadansoddiad o statws elfennau hybrin wedi dynodi diffyg sylweddol o ran ïodin yn y mamogiaid a’r ŵyn. Dywedodd Ms Page nad oedd un o’r triniaethau elfennau hybrin a ddefnyddiwyd yn cynnwys ïodin – felly fe ellid gwneud addasiad i greu newid ar unwaith.

Bydd rhagor o ddadansoddiadau elfennau hybrin yn cael eu cynnal eleni ar samplau o ardaloedd pori, a bydd samplau gwaed yn cael eu cymryd gan ŵyn ar y cyfraddau tyfu targed, i asesu lefelau’r elfennau hybrin.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint