28 Mai 2019

 

ilan hughes 0
Mae Ilan Hughes yn ffermwr ifanc ac yn treulio’r rhan fwyaf o’i amser yn gofalu am 600 o ddefaid mynydd Swaledale ar Ystâd adnabyddus Rhug yn Sir Ddinbych sy’n 6,000 o erwau.

Mae Ilan yn gweithio fel bugail llawn amser i un o’r mentrau ffermio mwyaf ac uchaf ei fri yng Nghymru, gyda’i gynnyrch Cymreig organig enwog yn cael ei werthu i fwytai seren Michelin a phrynwyr o fri drwy Ewrop

Dechreuodd Ilan weithio yn fferm Rhug yng Nghorwen pan oedd ond yn 16 oed, fel rhan o leoliad gwaith a drefnwyd gan Goleg Llysfasi. Parhaodd y cysylltiad tra bu’n astudio am HND ym Mhrifysgol Aberystwyth a chyn mynd ar ymweliad â Seland Newydd lle bu’n gweithio ar un o ffermydd eidion a defaid mwyaf y wlad.

“Yn y blynyddoedd wedyn, treuliais bob gwyliau’n helpu yn Rhug, gan ddysgu popeth a allwn am gynhyrchu Cig Oen PGI i’r safon uchaf posibl.”

Talodd yr holl brofiad gwaith ar ei ganfed ac mae Ilan wrth ei fodd â’i swydd. Fel unrhyw fugail arall, dywed Ilan mai’r pethau pwysicaf yn y gwaith, ochr yn ochr â phrofiad gwaith ymarferol a chymryd balchder yn ei waith, yw ci defaid ufudd a cherbyd ATV wedi’i gynnal yn dda!

Yn ffodus i Ilan, mae’r busnes byd-enwog hwn yn credu bod diogelwch eu holl staff yn ganolog i’w menter. Y llynedd, anfonodd y cwmni Ilan i un o gyrsiau hyfforddi Cyswllt Ffermio am ddeuddydd yng Ngholeg Cambria Llysfasi. Yno, ochr yn ochr a bugail ifanc arall, dysgodd sut i leihau’r perygl o ddamweiniau wrth yrru ar gefn cerbyd pob tirwedd (ATV) gyda llwythi a threlar y tu ôl iddo. Roedd yn gwrs ymarferol iawn a wnaeth iddo oedi a meddwl bob tro cyn mynd ar gefn unrhyw gerbyd fferm yn y Rhug, lle mae’r borfa doreithiog yn amrywio rhwng 500 a 1,500 troedfedd o uchder.

“Roedd rhan fawr o’r hyfforddiant yn canolbwyntio ar sicrhau bod y cerbyd yn cael ei gynnal yn dda a’i fod yn addas i’r diben bob amser, felly bellach, fel mater o drefn, rwy’n archwilio pethau fel pwysedd y teiars, y breciau, lefelau olew a’r throtl o leiaf unwaith yr wythnos a bob amser cyn teithio ar dir uwch am gryn bellter.

“Treuliwyd amser yn dysgu sut i leihau’r perygl o droi drosodd, yn arbennig ar lethrau neu dir anwastad ac am bwysigrwydd sicrhau bod unrhyw lwythi fel pyst ffensio neu fagiau porthiant wedi’u gosod yn gytbwys.”

Dywed Ilan fod taflenni hyfforddiant yn ffordd ddefnyddiol i atgoffa eich hun, er bod gwisgo helmed ATV gymeradwy, arfer gweithdrefnau Stopio Diogel drwy’r amser a gwybod ei fod yn erbyn y gyfraith i gario unrhyw un arall ar gerbydau ATV, yn ail natur iddo bellach fel nad oes angen iddo edrych ar y taflenni!

“Buaswn yn annog unrhyw un sy’n defnyddio ATV neu gerbydau fferm eraill i gael hyfforddiant.

“Efallai eich bod yn meddwl eich bod yn gyrru’n ddiogel ac yn gwybod beth ydych yn wneud ond trwy fynd ar gwrs Cyswllt Ffermio rwy’n sylweddoli mor hawdd y gall damwain ddigwydd ac mor hanfodol yw cynllunio ymlaen llaw am bob digwyddiad, neilltuo amser a pharatoi bob amser.

Mae Ilan, sy’n aelod o CFfI Uwchaled ac yn bêl-droediwr brwd sy’n chwarae i Glwb Pêl-droed Rhuthun, yn agosáu at adeg prysuraf y flwyddyn. Mae eisoes yn rhoi help llaw yn ystod cyfnod wyna’r mamogiaid sydd ar dir isel, cyn paratoi ei ddiadell o ddefaid mynydd fydd yn wyna ganol Ebrill.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am hyfforddiant Cyswllt Ffermio, wedi’i ariannu hyd at 80% ar gael i ffermwyr a choedwigwyr cymwys, yn ystod y cyfnod ymgeisio, cliciwch yma.

Cyn y gallwch gyflwyno ffurflen gais am hyfforddiant ar-lein, rhaid cofrestru gyda Chyswllt Ffermio, rhoi cyfeiriad e-bost unigryw a chofrestru gyda gwefan BOSS Busnes Cymru  lle gallwch gael mynediad at eich cynllun datblygu personol (PDP) ar-lein, gweld dewis o gyrsiau e-ddysgu wedi’u hariannu’n llawn, y ffurflen gais am nawdd a gweld cofnod o’ch gweithgaredd datblygiad proffesiynol parhaus. Neu, os oes angen cyngor arnoch ynglŷn â pha hyfforddiant fyddai’n fwyaf addas i’ch anghenion, neu gyfarwydd ar sut i gwblhau PDP, cysylltwch â’ch swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.

Mae rhestr o holl gyrsiau hyfforddi achrededig Cyswllt Ffermio, ynghyd â rhestr o ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy a chyfarwydd ar sut i gwblhau PDP ar gael yma.

Mae cyfnod ymgeisio sgiliau Cyswllt Ffermio yn agored hyd at ddydd Gwener 28 Mehefin 2019.

Ariennir Cyswllt Ffermio gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint