8 Rhagfyr 2022

 

Mae mynd y tu hwnt i’r targedau ar gyfer effeithlonrwydd mamogiaid a chyfraddau twf ŵyn yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i ddod yn fwy carbon-effeithlon.

Mae Hendre Ifan Goch, safle arddangos Cyswllt Ffermio ger Blackmill, Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynhyrchu cig oen o ddiadell o 540 o ddefaid, croes Texel a Miwl yn bennaf.

Yn 2022, fe fagodd y ddiadell honno 1.65 o ŵyn y famog i gyfartaledd o 30.5kg adeg diddyfnu; mae hyn yn rhoi effeithlonrwydd mamogiaid o 76% - y targed oedd 65%.

Mae’r ffermwyr, Rhys Edwards a’i rieni, Russell ac Eira, yn defnyddio’r data effeithlonrwydd diddyfnu hwn i fonitro perfformiad mamau yn y ddiadell ac i arwain penderfyniadau rheoli diadell a bridio.

Mae penderfyniadau i fwydo adeg ŵyna, pori padogau, diddyfnu’n gynnar a didol-borthi wedi’u llywio gan edrych ar ddata effeithlonrwydd mamogiaid ynghyd â sgôr cyflwr corff ac argaeledd glaswellt, dywedwyd wrth ffermwyr mewn diwrnod agored Cyswllt Ffermio ar y fferm yn ddiweddar.

Gydag argaeledd glaswellt yn brin yn ystod yr haf poeth a sych, roedd yr ŵyn yn cael eu didol-borthi er mwyn lleihau’r pwysau ar bori.

Defnyddiwyd data gan GrassCheck ac Agrinet i lywio'r penderfyniad hwn.

Er nad yw’r teulu Edwards fel arfer yn didol-borthi, pan fo glaswellt yn gyfyngedig, mae’n effeithio ar gynhyrchiant llaeth mamogiaid sydd, yn ei dro, yn peryglu perfformiad yr ŵyn.

Gydag ŵyn ar eu mwyaf effeithlon o ran trosi llaeth yn gilogramau o bwysau byw, dywedodd Rhys ei bod yn gwneud synnwyr ariannol i fwydo’r ŵyn i besgi a’u cael oddi ar y fferm.

Roedd wedi costio £2/oen i besgi’r 300 o ŵyn cyntaf i bwysau ar y bachyn o 18-20kg a, thrwy eu pesgi’n gynnar, cawsant bris gwerthu uwch.

Mae dewis geneteg ardderchog a ffocws ar iechyd yn ei helpu i leihau nifer y dyddiau y mae ŵyn ar y fferm.

Mae effeithlonrwydd diadelloedd yn allweddol i sicrhau enillion effeithlonrwydd carbon - un o’r nodau roedd y teulu Edwards wedi’u gosod iddyn nhw eu hunain yn eu gwaith prosiect Cyswllt Ffermio.

Ar hyn o bryd mae gan y fferm stoc o 1.2 uned da byw yr hectar - 4 mamog/erw.

Dywedodd yr arbenigwr defaid a chig eidion annibynnol Dr Liz Genever, sydd wedi gweithio gyda’r teulu Edwards ar eu prosiectau Cyswllt Ffermio, fod model Farmax yn dangos y gallai’r busnes gynyddu nifer ei famogiaid 12%, pe bai’r holl ŵyn ac eithrio rhai cyfnewid yn cael eu gwerthu erbyn mis Medi.

Byddai hyn yn dal elw gros ychwanegol o £89/ha, cyfrifodd.

Ymhlith y cyfleoedd eraill a nodwyd gan Dr Genever i gynyddu incwm mae buddsoddi mewn uned fatri ar gyfer gwaith pŵer trydan dŵr 5.5kW y fferm er mwyn caniatáu cyfnodau brig o ran cynhyrchu ynni, neu fuddsoddi mewn system hydro fwy.

Mae gan Hendre Ifan Goch briddoedd gyda lefelau uchel o ddeunydd organig - 10-14% - a allai fod yn storio tua 150 tunnell o garbon yr hectar.

Mae’n fferm sero net gyda data o’r Farm Carbon Toolkit yn 2021 yn dangos ei bod yn allyrru 283 tunnell sy’n cyfateb i CO2 y flwyddyn ac yn dal 480 tunnell o CO2e.

Dywedodd Dr Genever, siaradwr yn y diwrnod agored, fod y ffigurau hyn yn rhoi cydbwysedd o 190 tunnell o CO2e neu 2.1 tunnell yr hectar (0.9 tunnell yr erw).

Yn y dyfodol, gallai carbon gael ei brisio ar tua £50 y dunnell fetrig felly awgrymodd y gallai gwerthu rhywfaint o hwn gynhyrchu ffynhonnell incwm bellach.

Mae Hendre Ifan Goch yn fferm dwysedd isel gyda 80% o’r tir yn seiliedig ar borfa. Mae'n cynhyrchu dim mwy na 100kg o N/ha/blwyddyn fel tail organig a hyd at 90kg/N/ha mewn nitrogen artiffisial.

Mae wedi lleihau ei defnydd o nitrogen artiffisial ar dir pori, yn bennaf oherwydd pris, gyda pheth tail dofednod yn cael ei ddefnyddio yn lle hynny.

Fel rhan o’i nod ar gyfer casglu enillion effeithlonrwydd carbon, cynhaliwyd archwiliad elfennau hybrin fel rhan o’r gwaith prosiect Cyswllt Ffermio.

Roedd hwn yn archwilio’r cyflenwad o elfennau hybrin dros gyfnod o 12 mis, gan gynnwys cyflenwad dŵr, samplau porthiant, porthiant atodol, blociau llyfu, drenshis a bolysau, a chyfateb hynny i anghenion diadelloedd.

Ni ddangosodd yr archwiliad hwnnw unrhyw bryder sylweddol gyda chyflenwad y rhan fwyaf o facromineralau, ond dangosodd y samplau glaswellt nad oedd y lefelau ïodin yn bodloni gofynion dietegol.

Er bod y mamogiaid yn cael bolws elfen hybrin sy’n rhyddhau’n araf, nid yw’r bolws hwnnw’n cynnwys ïodin felly yn 2022 cyflwynwyd drensh yn cynnwys ïodin bythefnos cyn hwrdda.

“Ni fyddwn yn gwybod pa mor fuddiol fu hyn i ffrwythlondeb mamogiaid tan i ni sganio ond gallwn fod yn hyderus bod y mamogiaid wedi’u bodloni o ran eu holl anghenion elfennau hybrin,” meddai Rhys.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint