18 Chwefror 2022
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyrraedd allyriadau sero-net erbyn 2050 (cydbwysedd rhwng cyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir a chyfanswm yr allyriadau a ddiddymir o’r atmosffer). Cydnabyddir bod gan bob sector, gan gynnwys amaethyddiaeth, rôl i’w chwarae wrth leihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir. Fodd bynnag, mae gan systemau ffermio hefyd y gallu i atafaelu (amsugno) carbon o’r atmosffer.
Gall priddoedd fod yn suddfannau carbon (atafaelu carbon) neu ffynonellau carbon (rhyddhau carbon), gan ddibynnu ar nifer o ffactorau, megis defnydd tir, ymarferion rheolaeth, hinsawdd a’r math o bridd. Mae newidiadau mewn stoc carbon pridd yn digwydd yn raddol dros nifer o flynyddoedd, ac mae croniad dros amser yn cyrraedd ecwilibriwm. O ganlyniad, mae meintioli gwaelodlin gyffredin mewn stociau carbon pridd yn sialens. Er hyn, mae meintioli a deall stociau carbon pridd wedi ennyn diddordeb o fewn y sector amaethyddol yn ystod y blynyddoedd diweddar.
Mae mesur a monitro manwl cynnwys carbon o fewn priddoedd yn darparu ffigyrau defnyddiol ar gyfer meincnodi trwy asesu lefelau carbon pridd yn y dyfodol. Hefyd, i ddeall pwysigrwydd rheoli priddoedd mewn dull fydd yn cael effaith bositif ar iechyd pridd, actifedd microbaidd, cyflenwad maetholion a chynnyrch cnwd.
Mae rhwydwaith arddangos Cyswllt Ffermio yn cynnwys safleoedd arddangos traws-sector sydd yn amrywio o ran eu systemau ffermio, lleoliad, hinsawdd a math o bridd. Bydd y prosiect hwn yn cael ei ailadrodd ar yr holl safleoedd arddangos er mwyn darparu cronfa ddata o ffermydd gwahanol.
Nod y prosiect hwn yw darganfod stoc carbon pridd caeau amryfal o systemau ffermio amrywiol. Wrth wneud hyn, y nod yw darparu mewnwelediad i’r potensial ar gyfer atafaeliad carbon ac iechyd y pridd ar hyn o bryd o ganlyniad i wahaniaethau mewn mathau o briddoedd a’u priodweddau, yn ogystal â defnyddio a rheoli’r tir.
Dyma amcanion y prosiect:
- Cynnal archwiliad carbon pridd ar gyfran o gaeau’r fferm (caeau sy’n amrywio o ran y math o bridd/priodweddau a sut y cânt eu defnyddio/rheoli)
- Asesu actifedd microbaidd y pridd drwy gladdu defnydd cotwm a mesur sut mae’n dadelfennu dros amser
Bydd y data manwl a gesglir fel rhan o’r prosiect hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darparu mewnwelediad i stociau carbon pridd ar draws systemau ffermio gwahanol. Bydd hefyd yn dangos sut y gall stoc carbon pridd wahaniaethu o fewn system ffermio unigol, yn ogystal â rhwng systemau ffermio amrywiol, gan ddibynnu ar ddefnydd y tir a’r ymarferion rheoli a weithredir (a cheisio egluro hyn).