11 Rhagfyr 2020

 

Os yw coronafeirws wedi chwalu eich cynlluniau i wneud eich siopa Nadolig, peidiwch â phoeni! Mae’n bosibl bod gan grŵp o ferched ifanc o Ogledd Cymru yr ateb perffaith ichi. Os yw eich teulu a’ch ffrindiau chi’n gweithio yn y byd ffermio neu faterion gwledig, beth am brynu copi o’r ‘Dyddiadur Amaeth 2021 Agricultural Diary’ iddynt?  

Dyma’r chweched flwyddyn i’r dyddiadur gael ei gynhyrchu, ac mae’n dangos llwyddiant un o grwpiau Agrisgôp Cyswllt Ffermio a ddaeth at ei gilydd i ddechrau yn 2014. Am £7.99 yn unig, gall y dyddiadur A4 hwn fod yn anrheg berffaith. Gyda’i glawr caled gwyrdd, mae’n llawn manylion cysylltiadau gwledig defnyddiol, a hefyd yn cynnwys tudalennau at y pwrpas i storio eich cofnodion fferm a data defnyddiol eich busnes! 

Mae’r cylch bychan o ffrindiau o ardal Penllyn y Bala, yn rhoi’r clod i gefnogaeth Agrisgôp, sef cynllun dysgu gweithredol Cyswllt Ffermio, ac yn benodol i’w harweinydd Lowri Rees Roberts, am roi iddynt yr hyder a’r cysylltiadau yr oedd arnynt ei angen i ddatblygu eu menter lwyddiannus.  

Dywed Lowri ei fod yn brawf o allu’r grŵp i gyfathrebu’n agored, o’u parodrwydd i ymchwilio i’r prosiect yn drylwyr a’u proffesiynoldeb, gan eu helpu i droi ‘syniad da’ yn stori lwyddiant sydd bellach yn hunangynhaliol yn ariannol.

“Cymerodd y dyddiadur ddwy flynedd o waith cynllunio, gan gynnwys y gwaith o gasglu cysylltiadau ar gyfer gwerthiant – gwneir hyn yn bennaf drwy farchnata’n uniongyrchol mewn digwyddiadau gwledig ac mewn siopau llyfrau Cymraeg – a hysbysebu, cyn i’r 1,000 o gopïau o ddyddiadur 2016, a gyhoeddwyd gan y Lolfa, fynd ar werth ac, yn wir, fe werthodd pob un.

“Ers hynny, mae’r grŵp wedi gweithio’n ddiflino gyda’i gilydd fel tîm i raddol ddatblygu eu sylfaen cwsmeriaid ffyddlon iawn; yn wir eleni byddant yn cyhoeddi 2,000 o ddyddiaduron,” meddai Lowri.

Ochr yn ochr â’r refeniw gwerthiant, sy’n cynnwys llawer o fusnesau Cymreig sy’n eu prynu i’w staff, mae’r ystod eang o hysbysebwyr gwledig nawr yn cynyddu o un flwyddyn i’r llall, sy’n golygu bod elw iach yn cael ei fwydo’n ôl i’r busnes. Er bod y pandemig wedi rhoi pen ar lawer o weithgareddau wyneb yn wyneb y grŵp, gan gynnwys gwerthu’n uniongyrchol mewn sioeau amaethyddol, drwy gadw mewn cysylltiad o bell a drwy gael mwy o archebion ar-lein, maent yn hyderus na fyddant yn methu’r targed eleni.

Fel llawer o ferched a mamau ifanc, roedd y grŵp yn gwerthfawrogi treulio amser gyda’i gilydd, yn enwedig gan fod ganddynt oll ffermio a theuluoedd ifanc yn gyffredin.   

Mae Rachael Madeley-Davies, sy’n ymgynghorydd ffermio, yn fargyfreithiwr hyfforddedig, ac yn fam i ddwy ferch fach, hefyd yn helpu ar y fferm gwartheg bîff a defaid organig y mae’n ei rhedeg mewn partneriaeth â’i gŵr Geraint. Dywedodd Rachael, sy’n un o’r ‘grŵp o chwech’ gwreiddiol, fod Agrisgôp wedi rhoi iddynt garreg gamu hanfodol yn ôl yn y dyddiau cynnar hynny. 

“Roedd troi’r sgyrsiau anffurfiol ‘amser fi’ wythnosol hynny dros baned, yn fenter fusnes go iawn, yn fonws ardderchog na fyddem erioed wedi meddwl amdani nes i Lowri awgrymu y dylem geisio cefnogaeth drwy gynllun Agrisgôp Cyswllt Ffermio,” meddai Rachael.  

Er bod gan y rhan fwyaf o aelodau’r grŵp yrfaoedd annibynnol yr oeddent yn eu cydbwyso â theuluoedd a ffermio, roeddent i gyd yn gwerthfawrogi’r cyfle i gyfarfod yn rheolaidd, yn aml gyda babanod neu blant bach wrth eu traed, ac yn fuan iawn roeddent yn berwi â brwdfrydedd dros eu menter gyhoeddi newydd sydd, fel eu cyfeillgarwch, wedi sefyll prawf amser ac wedi ffynnu.    

“Fe wnaethom sylweddoli, er bod gan bawb fynediad rhwydd at ffôn symudol a chalendr ar gyfrifiadur, ein bod yn dal i ddibynnu ar post-its, darnau o bapur sgrap, llyfrau nodiadau poced a llawer o systemau eraill y mae’n hawdd iawn eu colli, ac roedden ni’n sicr y byddai dyddiadur desg A4 o ansawdd da, wedi’i wneud yn arbennig i ffermwyr, yn cael croeso cynnes gan lawer o unigolion prysur fel ni!” 

“Caiff yr holl hysbysebion eu grwpio gyda’i gilydd mewn adran arbennig, sy’n golygu bod ein hysbysebwyr yn gwybod eu bod yn weladwy ac yn hawdd eu cyrraedd i gynulleidfa darged allweddol gydol y flwyddyn, ac mae hyn hefyd yn golygu ein bod yn ei gwneud yn hawdd i ffermwyr ddod o hyd i bwy neu beth maent eisiau yn gyflym,” meddai Rachael. 

Gyda thudalennau ychwanegol ar gyfer cadw cofnodion ar ddefaid, gwartheg a moch, tablau trosi metrig ac wrth gwrs digon o le ar gyfer apwyntiadau busnes a rhai cymdeithasol, gallai’r dyddiadur hwn fod yn anrheg i’w chroesawu mewn llawer o hosanau Siôn Corn y Nadolig hwn! 

Mae’r Dyddiadur Amaeth 2021 Agricultural Diary (£7.99, Y Lolfa) ar werth yn awr yn y rhan fwyaf o siopau llyfrau da yng Nghymru neu drwy fynd i www.ylolfa.com.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio