19 Gorffennaf 2021
Gyda chyfyngiadau COVID-19 yn dod i rym ar ddechrau 2020, fel amryw o weithgareddau eraill ledled y wlad daeth Teithiau Astudio Cyswllt Ffermio i stop. Gorffennaf yma, mae'r broses ymgeisio yn ailddechrau.
Ers 2015, mae Cyswllt Ffermio wedi rhoi’r cyfle i ffermwyr a choedwigwyr yng Nghymru ymweld â mentrau amaethyddol a choedwigaeth eraill ar draws y DU a allai fod o fudd i'w systemau ffermio/coedwigaeth eu hunain adref.
Gall grwpiau o ffermwyr a choedwigwyr cymwys wneud cais am uchafswm o £3,000 i bob grŵp er mwyn ariannu 50% o’r gost i ymweld ag unrhyw le o fewn y DU am gyfnod o hyd at bedwar diwrnod.
Gyda chyfyngiadau COVID-19 yn llacio, mae’r broses ymgeisio wedi ail-agor ac mae gan unigolion cofrestredig gyda Cyswllt Ffermio nes dydd Gwener 30 Gorffennaf i wneud cais. Bydd rhaid i’r ymgeiswyr llwyddiannus ymgymryd â’u teithiau rhwng 20 Awst a 30 Tachwedd 2021.
Mae Einir Davies, sy’n gweithio i Cyswllt Ffermio fel Rheolwr Datblygu a Mentora, yn annog ffermwyr i ystyried y buddion posibl nid yn unig i'w busnes ond hefyd i'w cydbwysedd gwaith a bywyd.
“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd i bawb, ond fel gweithwyr allweddol, mae ffermwyr wedi parhau i weithio’n ddiflino i fwydo’r genedl yn ystod amgylchiadau anodd dros ben. Nawr, gyda’r cyfyngiadau yn llacio, gall Cyswllt Ffermio gynnig, a fydd i lawer o ffermwyr, y cyfle cyntaf iddynt gymryd amser i ffwrdd o'r fferm ers dechrau'r pandemig.
“Mae Teithiau Astudio yn galluogi pobl â’r un diddordebau i ddod ynghyd ac yn ffordd werthfawr i ganfod dulliau gwell o weithio, i weld arfer dda ar waith ac i ddod â syniadau newydd adref er mwyn datblygu arloesedd yn eich menter,” dywed Einir.
Mae teithiau’r gorffennol wedi gweld ffermwyr yn teithio i bob cornel o’r Deyrnas Unedig, gyda llawer yn dewis gwneud taith sy’n eu galluogi i ymweld â sawl busnes wrth deithio ar draws eu gwlad(gwledydd) dewisol.
Ym mis Medi 2018, teithiodd aelodau Grŵp Gwartheg Dyffryn Conwy ar draws de yr Alban, o Selkirk yn Ffiniau’r Alban i Sanquhar, sef tref farchnad fach yn Dumfries a Galloway.
Un fenter nodedig y gwnaethon nhw ymweld â hi oedd Ystâd Bowhill, un o ystadau gwledig mwyaf godidog yr Alban. Yno, cafodd y grŵp daith o amgylch mentrau gwahanol yr ystâd oddi wrth y Cymro, Sion Williams, sydd wedi gweithio fel Rheolwr Fferm Bowhill Farming Ltd ers 2004.
Hefyd, rhoddodd y cynllun Teithiau Astudio cyllid i grŵp Merched mewn Amaeth Llambed i deithio i Lundain am ddeuddydd i fynychu cynhadledd Meat Women in Business. Eu bwriad oedd hybu eu dealltwriaeth o’r diwydiant yn ogystal â rhwydweithio â merched ar draws y DU oedd yn rhannu’r un anian.
Gyda COVID-19 yn parhau i beri risg ar draws y pedair gwlad yn y Deyrnas Unedig, bydd dilyn canllawiau Llywodraeth/Llywodraethau yn bwysig ofnadwy pan fydd y teithiau astudio ar y gweill.
Felly, er bod y teimlad o gyffro yn dychwelyd wrth i fywyd ddechrau dychwelyd i’r arferol, bydd iechyd a lles y mynychwyr yn parhau i fod o bwysigrwydd mawr yn y broses gynllunio, a gellir gweld canllawiau manwl ar wefan Cyswllt Ffermio.
Rhaid i'r rhai sydd â diddordeb wneud cais erbyn dydd Gwener 30 Gorffennaf 2021 trwy lawrlwytho'r ffurflen gais ar wefan Cyswllt Ffermio.
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.