Mae teulu ffermio Cymreig sydd wedi creu menter prosesu coed gwerth £2 filiwn gydag arweiniad a chefnogaeth gan Cyswllt Ffermio yn dweud bod cyfleoedd cyffrous ar gael o fewn y sector i ffermwyr sy’n edrych i greu incwm cynaliadwy ar gyfer eu busnesau.

huw owen and geraint jones with newly planted tree
Creodd Huw a Sian Owen gwmni Wood Energy Wales ar fferm Garthmyn Isaf, ger Llanrwst, er mwyn sicrhau dyfodol ar gyfer eu fferm deuluol.

Mae saith deg y cant o’r tir sy’n weladwy o’r cyn fferm ddefaid yn goetir, felly pan oedd y cwpwl yn edrych ar gyfleoedd arallgyfeirio, roedd cynhyrchu biomas  a sglodion pren i’w weld yn ddewis amlwg.

Cawsant arweiniad gan Geraint Jones, Swyddog Technegol Coedwigaeth Cyswllt Ffermio, ac aethant ati i greu cynllun busnes a ariannwyd 80% gan raglen Cyswllt Ffermio.

Dywedodd Mr Owen wrth ymwelwyr a ddaeth i ddiwrnod agored Cyswllt Ffermio ar fferm Garthmyn Isaf bod ei ymchwil cychwynnol wedi canfod adnodd heb ei archwilio’n llawn ar gyfer cynhyrchu sglodion pren o’r ansawdd uchaf posibl. Ar yr adeg honno, roedd hi’n anarferol i gyflenwyr sglodion pren i gynhyrchu sglodion gyda chynnwys lleithder dan 35% - roedd y teulu Owen yn anelu at gynhyrchu cynnyrch gyda lefel lleithder o 20%.

“Roeddwn i’n gwybod pe gallem sychu’r sglodion hyd at 20% y byddai marchnad ar eu cyfer, oherwydd po isaf yw’r cynnwyd lleithder, y mwyaf effeithlon y bydd y boeler yn gweithredu,” meddai Mr Owen.

“Yn ein cynllun busnes, roeddem yn rhagweld y byddem yn gwerthu 500 tunnell yn ystod ein blwyddyn gyntaf, ond mewn gwirionedd fe werthwyd 1500 tunnell, ac yn yr ail flwyddyn, tyfodd y ffigwr hwnnw i 4,000 tunnell, 2,500 tunnell yn fwy na’r disgwyl.’’ Mae 600,000 tunnell o goed wedi cael eu prosesu ers sefydlu’r busnes dair blynedd a hanner yn ôl.

Dywedodd Geraint Jones ei fod yn amlwg o’r cychwyn bod digon o gyflenwad o goed ar gyfer y busnes, ynghyd â digon oalw am y sglodion pren ar y farchnad.

“Roeddem ni’n gwybod bod llawer o goetir nad oedd wedi’i reoli’n llawn a oedd angen ei deneuo a bod nifer o foeleri biomas yn cael eu gosod, ond nad oedd cyflenwad cyson o sglodion pren ar gael. Roedd hi’n dipyn o ras i sefydlu’r fenter.’’

Mae Mr a Mrs Owen, a’u mab, Carwyn, sy’n gweithio yn y busnes, yn cael eu coed o goetir sy’n berchen i Gyfoeth Naturiol Cymru a ffermydd o fewn pellter o 30 milltir o’r fferm, gan ei brosesu’n sglodion pren ar gyfer cwsmeriaid gan gynnwys meithrinfa blanhigion, ffermydd a warws storio llyfrau.

“Rydym yn sicrhau ein bod yn prynu ein holl goed o ffynonellau cynaliadwy, mae’n hanfodol bod y coed yr ydym yn eu gwerthu fel tanwydd yn cael eu tyfu a’u cynaeafu yn y ffordd iawn,” meddai Mr Owen.

“Wrth brynu coed yn lleol a defnyddio contractwyr lleol, mae gennym berthynas dda iawn gyda chleientiaid. Mae hynny, ynghyd â menter plannu newydd er mwyn diogelu’r adnodd ar gyfer y dyfodol, yn cyfrannu’n helaeth at wella perfformiad economaidd ac amgylcheddol y busnes, sydd yn ei dro yn rhoi hwb i’r economi leol.”

Gall gymryd rhwng 9-18 mis i sychu coed yn naturiol, ond mae lloriau sychu ar fferm Garthmyn Isaf yn gorfodi aer cynnes drwy’r sglodion pren er mwyn cyflymu’r broses sychu.

Llynedd, gosodwyd peiriant Gwres a Phŵer Cyfunedig (Combined Heat and Power CHP) ar fferm Garthmyn Isaf. Mae hwn yn defnyddio tair tunnell o sglodion pren yn ddyddiol ac mae ganddo gapasiti i gynhyrchu 49kW bob awr, gydag oddeutu 30 kW o hwnnw’n cael ei werthu i’r Grid Cenedlaethol.

Mae twf y busnes at y dyfodol yn cynnwys gweithio gyda Cyswllt Ffermio i ymchwilio ac i dreialu’r defnydd o sgil gynhyrchion y broses o gynhyrchu sglodion pren fel deunydd i’w roi dan wartheg a cheffylau.

 

Cynhyrchu sglodion pren o ansawdd uchel

Mae sglodion pren a gynhyrchir ar fferm Garthmyn Isaf wedi’i ardystio gan y cynllun sicrhau ansawdd tanwydd pren, Woodsure.

Dywedodd Mr Owen bod yr ardystiad wedi cynorthwyo’r twf mewn gwerthiant gan fod cwsmeriaid yn gwybod eu bod yn cael cynnyrch o ansawdd.

“Wrth sicrhau’r ansawdd cywir, fe sylweddolom y dylem ddefnyddio Woodsure ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’n gwerthiant.’’

Dywedodd Helen Bentley-Fox, cyfarwyddwr Woodsure, a fu’n siarad yn ystod y diwrnod agored Cyswllt Ffermio, bod samplau’n cael eu cymryd er mwyn profi’r cynnwys lleithder a maint y sglodion er mwyn sicrhau nad oes unrhyw halogiad. “Mae’n rhaid i’r cynnwys lleithder fod yn gyson er mwyn i foeleri redeg yn effeithlon.”

Mae ardystiad hefyd yn rhoi elfen o gefnogaeth i’r cyflenwr pe byddai cwsmer yn cwyno am yr ansawdd. “Rydym yn profi’r sglodion pren ac os bydd yr ansawdd fel y dylai fod, mae’n darparu’r dystiolaeth i’r cyflenwr,” meddai Ms Bentley-Fox.

 

Cydymffurfio â rheoliadau

Mae angen trwydded cwympo coed os bydd mwy na phum metr ciwbig o goed yn cael eu cwympo o fewn chwarter blwyddyn - dau fetr ciwbig os bydd y coed yn cael ei werthu’n fasnachol.

Cynghorwyd ymwelwyr yn ystod y diwrnod agored Cyswllt Ffermio y byddai’n cymryd hyd at dri mis i Gyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi trwydded, ond os bydd yr holl wybodaeth a’r mapiau gofynnol yn cael eu darparu, gallai’r drwydded gael ei chyhoeddi o fewn 10 wythnos.

Mae ambell i gais yn cael eu gwrthod os oes pryderon yn ymwneud â’r amgylchedd a bywyd gwyllt, megis erydiad pridd neu ddinistrio cynefinoedd.

 

Grantiau

Plannwyd 87,000 o goed llydanddail ar 34 hectar ar fferm Garthmyn Isaf eleni gyda chefnogaeth Grant Creu Coetiroedd Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr Owen, a dderbyniodd gymorth yn ystod y broses ymgeisio gan Coed Cymru, mai ei uchelgais ar gyfer y busnes oedd iddo gwblhau’r gylchred gyfan o ran cynhyrchu coed.

“Roeddem ni eisiau darparu ffynhonnell gynaliadwy o goed ar gyfer y dyfodol,” meddai.

Mae wedi plannu 600 o goed ychwanegol o gwmpas yr iard goed.

Disgwylir i gyfnod ymgeisio newydd ar gyfer y Grant Creu Coetiroedd agor ym mis Awst 2017.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf codlysiau yn helpu i lywio uchelgeisiau caffael bwyd yn y sector cyhoeddus
10 Hydref 2024 Bydd y gwersi a ddysgwyd yn dilyn y tymor cyntaf o
Mae fferm laeth yng Nghymru yn tyfu blodau’r haul gyda india-corn fel cnwd cyfatebol i leihau ei chostau protein a brynir i mewn.
25 Medi 2024 Mae Dyfrig ac Elin Griffiths a'u mab, Llyr, yn
Y ffermwr defaid Richard Wilding yn croesawu dysgu gydol oes ar gyfer dyfodol mwy effeithlon
23 Medi 2024 Richard Wilding, ffermwr defaid ucheldir o Lanandras