Da Byw

Cows
0
Nifer yr unigolion a gwblhaodd fodiwlau e-ddysgu yn ymwneud â da byw
0
Nifer yr unigolion a gwblhaodd hyfforddiant yn ymwneud â da byw
0
Nifer y digwyddiadau yn ymwneud â da byw
Gyda'i safonau lles rhagorol, ei hanes amgylcheddol cryf a'i werth i'n heconomi, mae sector da byw Cymru yn arwain y byd. Cynhyrchu defaid, bîff a llaeth yw'r systemau mwyaf cyffredin, ond mae diddordeb mewn dofednod, moch a systemau da byw eraill ar gynnydd.

Tystebau:

Dylan Morgan
“Diolch i fy ngwybodaeth a sgiliau newydd a thrwy weithredu rhai o’r systemau newydd rydym wedi dysgu amdanynt trwy Cyswllt Ffermio, rydym bellach yn bwydo’r stoc yn llawer mwy effeithlon. Mae hyn wedi lleihau ein mewnbynnau’n sylweddol wrth wella perfformiad stoc a chynhyrchiant ac rydym hefyd wedi lleihau lefelau cloffni.”
Dylan Morgan
Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin
Meirion
“Mae defnyddio ystod eang o wasanaethau trwy Cyswllt Ffermio wedi fy helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r heriau ar y fferm. Mae hyn wedi fy ngalluogi i wneud penderfyniadau rheoli mwy gwybodus a all helpu i wella perfformiad anifeiliaid a chynhyrchiant y busnes.”
Meirion Rees
Eglwyswrw, Sir Benfro
Gwion Jenkins
“Roedd y cwrs iechyd, lloches a rheoli lloi yn fuddiol iawn. Roedd yn cynnwys gwybodaeth am sut i sicrhau bod lloi yn cael dechrau da mewn bywyd, sut i leihau’r defnydd o wrthfiotigau a lleihau costau magu.”
Gwion Jenkins
Clunderwen
Beccie Williams
“Rydw i wedi gorfod dysgu llawer iawn, yn gyflym iawn, am sut i reoli a rhoi’r gofal gorau posibl i 16,000 o ieir dodwy, ond mae Cyswllt Ffermio wedi fy helpu bob cam o’r ffordd.”
Beccie Williams
Llanbister, Llandrindod
Bridget Barnes
"Roeddwn yn gweld y gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid a fynychais wedi’u cyflwyno’n dda iawn ac yn addysgiadol. Teimlais fy mod yn dysgu rhywbeth newydd bob tro ac os mai ond ffordd wahanol o wneud rhywbeth ymarferol oedd o, roedd o werth yr amser. Erbyn hyn, rwy’n gwneud ychydig o bethau’n wahanol, yn enwedig adeg ŵyna, ac rwyf hefyd wedi dysgu am afiechydon newydd i gadw golwg amdanynt."
Bridget Barnes
Y Fenni
Tom Evans
'Mae'r manteision ariannol o ddilyn trefniant pori mewn cylchdro ar gyfer ein diadell o 500 o famogiaid yn sylweddol – i ni wedi haneru ein defnydd o ddwysfwyd, ers rannu'r caeau yn badogau a symud y defaid o gwmpas, i ni'n tyfu un rhan o dair yn fwy o borfa mewn blwyddyn. Byddwn yn annog unrhyw ffermwr sy'n ystyried y dyfodol i fynychu rhaglen Rhagori ar Bori.'
Tom Evans
Pendre, Aberystwyth
cattle
“Bydd dysgu sut i ofalu am draed gwartheg o fudd mawr i’r stoc. Esboniodd yr hyfforddwr bopeth yn drylwyr iawn ac fe wnaethon ni i gyd ddysgu llawer."
Adam Bowen
Powys
Richard Downes
“Roedd gennym ni ein syniadau ein hunain, ond roedd ein mentor eisoes wedi rhoi cynnig ar rai o’r rhain o fewn ei system ei hun, ac nid oeddent wedi bod yn llwyddiannus, felly diolch i’r cyngor hwn, fe wnaethom ni osgoi gwneud yr un camgymeriadau.”
Richard Downes
Ceredigion
Phil Cowcher
“Mae cyfrifo manylion ariannol fel elw fesul awr a weithiwyd neu elw fesul hectar (ha) wedi rhoi gwell dealltwriaeth i mi o’r hyn sy’n gwneud fferm bîff a defaid broffidiol. Mae hyn yn caniatáu i ni gymharu ein perfformiad â busnesau tebyg, gyda'r nod o ganfod meysydd i'w gwella.''
Phil Cowcher
Llandysul
Wyn Williams
“Ar ôl cwblhau fy nghwrs e-ddysgu cyntaf ar atgenhedlu tymhorol mewn mamogiaid mewn llai nag awr, a oedd yn cynnwys cwis byr i asesu beth oeddwn i wedi ei ddysgu, roeddwn wrth fy modd. Mae’n ffordd mor hawdd o gael mwy o wybodaeth, wedi ei gyflwyno ar yr union lefel gywir ac rydych yn dysgu ar eich cyflymder eich hun.”
Wyn Williams
Llanfair Caereinion

| Astudiaethau Achos
Mae cofnodi perfformiad wedi helpu fferm fynydd yng Nghymru i gael pris uwch o £6/fesul oen.
13 Mawrth 2026Daeth Iwan Davies a'i rieni, Brian a Nicky, yn ffermwyr newydd ddyfodiaid yn 2013 pan…
| Newyddion
Curwch y cnoiad a brechwch yn gynnar, gweithredwch nawr i amddiffyn eich stoc rhag y Tafod Glas!
11 Mawrth 2026Gyda'r misoedd cynhesach yn agosáu, anogir ffermwyr da byw i weithredu nawr a brechu…
| Newyddion
Tyfu codlysiau gyda india-corn i gynyddu lefelau protein
Growing beans and sunflowers in its crop of forage maize has seen a Pembrokeshire dairy farm raise…
| Newyddion
Astudiaeth Cyswllt Ffermio yn taflu goleuni newydd ar statws iechyd y pridd mewn caeau tir âr
03 Mawrth 2026Mae nifer o gaeau sy'n cael eu ffermio mewn cylchdro tir âr yng Nghymru wedi dangos…
| Podlediadau
Rhifyn 128- Mantais Amaethgoedwigaeth – lloches, pridd a da byw
Gwrandewch i ddarganfod pam mae mwy a mwy o ffermwyr yn plannu coed er lles eu stoc, eu pridd, a’u…
| Newyddion
Mae profion genomig yn datgloi potensial llawn buches groesfrid yng Nghymru
26 Chwefror 2026Mae profi heffrod croesfrid a buchod sy’n llaetha am y tro cyntaf yn genomig wedi…

Events

18 Maw 2026
Maelor Forest Nurseries Study Visit: Propagation, Sustainability & Nursery Innovation
Bronington
 Join us for a tour of the Maelor Forest nurseries...
23 Maw 2026
Plant Propagation for Market gardens
Carmarthen
Join us at  Bremenda  Isaf for a practical...
24 Maw 2026
Hungry Gap and Tunnel Rotations
Carmarthen
Tunnels play  a very important  role in extending...
Fwy o Ddigwyddiadau