Fferm Gelli Goll, Y Bont Faen

Prosiect Safle Ffocws: Canfod statws heintiad llyngyr mewn cynefinoedd malwod ar y fferm fel modd o reoli llyngyr yr iau

Nodau'r prosiect: 

  • Malwoden y llaid (Galba truncatula) yw’r lletywr canolradd ar gyfer llyngyr yr iau a llyngyr y rwmen
  • Maent i’w canfod yn bennaf mewn ardaloedd gwlyb megis pyllau, ymylon nentydd, ffosydd ac ardaloedd o dir gwlyb a mwdlyd.
  • Mae parasit llyngyr yr iau yn gadael y falwen yn ystod y cyfnod sercaria yn ei gylchred bywyd ac yn aros ar lystyfiant a borir gan dda byw, felly mae’r cynefinoedd yma’n faes allweddol ar gyfer heintiad ar unrhyw fferm. 
  • Fodd bynnag, nid oes malwod yn byw ym mhob cynefin addas a dim ond rhai o’r malwod fydd wedi’u heintio â llyngyr yr iau.
  • Mae’r prosiect hwn yn anelu at glymu gwerthusiad i ddefnyddioldeb darparu’r wybodaeth yma i’r ffermwr trwy gyfres o arolygon malwod o fewn y cynefinoedd ar y fferm.
  • Datblygiad parhaus o brofion eDNA ar gyfer malwoden y llaid a’r parasit llyngyr yr iau a allai weithredu fel sylfaen i brofion mwy hir dymor a hygyrch o lefelau heintiad mewn cynefinoedd.

Cliciwch yma am drosolwg o'r prosiect a'r canlyniadau.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Cefngwilgy Fawr
Gareth, Edward a Kate Jones Cefngwilgy Fawr, Llanidloes Meysydd
Pantyderi
Wyn a Eurig Jones Pantyderi, Boncath, Sir Benfro Meysydd
Llysun
Llysun, Llanerfyl, Y Trallwng Prif Amcanion Datblygu