Mae’r cwrs hwn yn cael ei ddarparu dros dri diwrnod gydag asesiad ar ddiwedd y cwrs. Rhoddir tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Ydych chi’n rheoli neu’n rhedeg busnes yn ymwneud â bwyd ar eich fferm neu fel rhan o fenter arallgyfeirio? Bydd y cwrs hwn yn sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd y canlynol: cydymffurfio gyda deddfwriaeth diogelwch; gweithredu a monitro arferion hylendid da, sut i weithredu gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd, a gweithredu a monitro arferion da yn ymwneud â halogi, microbioleg a rheoli tymheredd.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:
Nodwch gall Coleg Sir Gar a Chanolfan Bwyd Cymru gyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.