Cwrs undydd a rhoddir tystysgrif presenoldeb yn dilyn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Bydd y cwrs yn eich galluogi i geisio sicrhau tîm llwyddiannus er mwyn cyflawni’r gwaith o fewn eich busnes fferm neu goedwigaeth. Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar yr hyn sy’n gwneud timau’n llwyddiannus, ac yn nodi pwysigrwydd sgiliau ac ymddygiad goruchwyliol allweddol. Bydd y gweithdy’n canolbwyntio’n bennaf ar weithio gyda phobl newydd er mwyn sicrhau eu bod yn integreiddio’n sydyn ac yn effeithiol i’r tîm, a rhoi cyfarwyddyd ymarferol effeithiol er mwyn sicrhau bod pobl yn gwneud yr hyn sy’n ddisgwyliedig ganddynt i’r safonau a nodir.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Datblygu Sgiliau Arwain a Sgiliau Pobl ar gyfer Busnes Llwyddiannus
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: