Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif presenoldeb yn cael ei chyhoeddi ar ôl cyflawni’r gweithdy. Caiff y gweithdai eu darparu gan filfeddygfeydd lleol ledled Cymru.
Bydd y rhai sy’n bresennol yn dysgu am y sefyllfa bresennol o ran y clafr, gan gynnwys yr effaith ar les a’r effaith economaidd. Bydd y cylch bywyd a’r arwyddion clinigol sy’n gysylltiedig â'r clafr, llau a llyngyr yr iau yn cael eu trafod. Bydd y gweithdai’n canolbwyntio’n bennaf ar fioddiogelwch effeithiol, dewisiadau triniaeth priodol, a phwysigrwydd ymgynghori â milfeddyg o ran diagnosteg ac wrth lunio cynlluniau rheoli parasitiaid ar gyfer ffermydd unigol. Caiff y peryglon o bori tir comin ac ymwrthedd i driniaeth eu hamlygu.
I weld dyddiadau nesaf y gweithdy hwn, cliciwch yma i fynd i’r dudalen ‘Digwyddiadau’.