Cynaliadwyedd

Wheat

Mae Cymru yn addas ar gyfer cynaliadwyedd

Mae datblygu cynaliadwy wrth wraidd ein deddfwriaeth yma yng Nghymru. Dyma ein pwynt gwerthu unigryw, a gallwn sicrhau busnesau y byddwn yn glynu wrth yr egwyddorion hyn mewn hinsawdd economaidd sy’n newid ym mhob cwr arall o’r byd. 

Mae sawl ffactor ar waith: patrymau cyfnewidiol y bwyd a fwyteir; newid hinsawdd; amrywiadau mewn prisiau tanwydd, a chyfraddau arian. Ond gall Cymru gynhyrchu mwy o amrywiaeth o fwyd, a allai leihau pa mor ddibynnol yw'r DU ar allforio. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni sicrhau cydbwysedd rhwng bwydo ein poblogaeth ein hunain a’n huchelgais o ran allforio – a chofio am yr ystyriaethau amgylcheddol bob amser.
 


Y targed o ran twf

Rydym yn anelu i ddatblygu'r sector bwyd a diod yng Nghymru 30% i £7 biliwn erbyn 2020, gan godi proffil ac enw da’r sector. Dyma’r targed a nodir yn Tuag at Dwf Cynaliadwy: 99 Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020.

Mae’r sector yn cael effaith sylweddol ar economi Cymru ac ar draws cymdeithas Cymru yn ehangach, gan ddylanwadu ar iechyd a lles ein cymunedau, adfywio economaidd, seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd, yr amgylchedd, addysg a thrafnidiaeth.

Mae dros 170,000 o bobl yn gweithio yn y gadwyn gyflenwi bwyd a diod, ac mae cyfanswm gwerth y sector i economi Cymru drwyddi draw, ac ystyried y sectorau amaethyddol, prosesu a manwerthu, dros £1 biliwn y flwyddyn. Mae ein polisi yn cynnwys Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod er mwyn darparu cyfeiriad clir i’r diwydiant dyfu’n gynaliadwy ac yn broffidiol dros y blynyddoedd nesaf.
 


Dyfodol Bwyd

Dyfodol Bwyd o fusnes fel arfer i fusnes anarferol yw adroddiad newydd WRAP sydd wedi torri tir newydd gan ddadansoddi 15 o feysydd hollbwysig yn system fwyd y DU, o'r fferm i'r fforc, ac sy’n amlinellu argymhellion ar gyfer camau gweithredu allweddol gan y diwydiant a'r Llywodraeth. 

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i weld yr adroddiad (Saesneg yn unig)