Hysbysiad Preifatrwydd – Bwyd a Diod Cymru

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Fwyd a Diod Cymru, ac yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR y DU), rydym wedi creu'r hysbysiad preifatrwydd hwn. Dylech ymgyfarwyddo â'r ddogfen hon gan ei bod yn nodi pam yr ydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch.

Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer gwybodaeth bersonol a brosesir gan Bwyd a Diod Cymru. 

Ffurflen Cysylltu â Ni Bwyd a Diod Cymru

Pan fyddwch yn defnyddio ffurflen Cysylltu â Ni Bwyd a Diod Cymru, rydym yn gofyn ichi roi’ch enw, eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn. Rydym yn prosesu'r wybodaeth bersonol hon er mwyn cofnodi'ch ymholiad a sicrhau eich bod yn cael y cymorth priodol oddi wrth ein timau gwasanaethau. 

Mae’ch gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu er mwyn inni arfer ein hawdurdod swyddogol fel Llywodraeth Cymru i gefnogi ac i hyrwyddo lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol Cymru.

Caiff y data hyn eu rhannu gyda sefydliadau sy'n cael eu contractio gan Lywodraeth Cymru a'u caffael gan y Fframwaith Bwyd a Diod i’n helpu i roi cefnogaeth ichi. Bydd yr wybodaeth a rennir ar gael i weinyddwyr technegol ein system ac i reolwyr prosiectau sy'n gweithio ar y system TG. Ni fydd gweinyddwyr y system yn defnyddio'ch manylion mewn unrhyw ffordd

Ni fyddwn yn cadw’r wybodaeth bersonol sy'n gysylltiedig â'ch ymholiad am fwy na 12 mis, a hynny yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru ar Gadw Data.

E-fwletin Newydd sy’n Canolbwyntio ar Dfefnyddwyr Bwyd a Diod Cymru  

Os ydych yn tanysgrifio i gael E-fwletin newydd sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr Bwyd a Diod Cymru, mae angen inni brosesu gwybodaeth bersonol amdanoch (eich enw, eich e-bost a'ch cod post). Mae angen yr wybodaeth hon arnom er mwyn anfon yr E-fwletin atoch yn electronig ac er mwyn deall cyrhaeddiad daearyddol yr E-fwletin. 

Er mwyn inni gael anfon yr E-fwletin atoch, mae'n ofynnol inni gasglu a chofnodi’ch caniatâd penodol i wneud hynny. Ni fyddwn yn anfon yr E-fwletin atoch oni bai eich bod wedi rhoi’ch caniatâd inni wneud hynny, a gallwch ddewis roi’r gorau i gael yr E-fwletin ar unrhyw adeg drwy ddatdanysgrifio yma.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol a roddwch.  Trydydd parti a benodir o dan gontract gan Lywodraeth Cymru fydd y prosesydd data ar gyfer rheoli E-fwletin newydd sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr Bwyd a Diod Cymru (gan ddefnyddio Moosend). Mae rhagor o wybodaeth am Moosend ar gael yma: Polisi Preifatrwydd Moosend

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gweld y data personol a gedwir gan Lywodraeth Cymru
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (mewn rhai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (mewn rhai amgylchiadau) i'ch data gael eu 'dileu'
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Manylion Cyswllt

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Tŷ Wycliffe
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk  

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r uchod, cysylltwch â Llinell Gymorth Busnes Cymru 03000 6 03000 (Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg). neu defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni https://businesswales.gov.wales/cy/cysylltwch-a-ni. Gallwch hefyd gysylltu â Bwyd a Diod Cymru drwy’r e-bost: FoodDivisionalBusiness@llyw.cymru  

I gael rhagor o wybodaeth am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru ac am sut y mae’n cael ei defnyddio, neu os ydych yn dymuno arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Cyfeiriad e-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru 

Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a Gwybodaeth amdanoch

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i'r cyhoedd ofyn am gael gweld gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae’n bosibl y bydd yr wybodaeth a roddwch inni yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o'r cyhoedd. Byddem yn ymgynghori â chi i ofyn eich barn cyn ymateb i gais o'r fath.

Newidiadau i'r polisi hwn

Gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Bydd newidiadau'n cael eu postio yma a byddant yn cael eu gweithredu ar unwaith. Pan fydd newidiadau'n cael eu gwneud i'r polisi hwn, byddwn yn cysylltu â chi gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost yr ydym wedi'i gofnodi yn eich cyfrif er mwyn ichi gael bwrw golwg dros y fersiwn newydd.