Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020

Food prep

Eich helpu chi i helpu Cymru i dyfu

Ein nod yw cynyddu gwerthiant yn y sector bwyd a diod yng Nghymru 30% i £7 biliwn erbyn 2020.

Rydym wedi llunio Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 fel rhan fawr o’n Cynllun Gweithredu ar gyfer y diwydiant bwyd a diod, er mwyn eich cefnogi chi a'ch busnes i fod yn rhan o'r uchelgais honno.

Gallai’r Rhaglen ddarparu £953m o arian Ewrop a Llywodraeth Cymru i ardaloedd gwledig Cymru rhwng 2014 a 2020. Bydd hyn yn galluogi’r diwydiannau bwyd, ffermio a choedwigaeth i wella cynhyrchedd, amrywiaeth ac effeithlonrwydd, a hybu twf economaidd cryf a chynaliadwy yn yr ardaloedd gwledig yn ogystal â datblygiadau dan arweiniad y gymuned.  Mae’r blaenoriaethau’n cynnwys meithrin y prosesau o drosglwyddo gwybodaeth ac arloesi, rhoi hwb i gystadleurwydd, hyrwyddo cadwyni bwyd a gwella ffyniant a datblygiad economaidd. Mae pwyslais ar annog rheoli tir yn gynaliadwy, defnyddio adnoddau naturiol yn effeithlon, a chamau gweithredu ar gyfer yr hinsawdd i warchod yr amgylchedd.

Y Cynllun Buddsoddi Busnes Bwyd fydd un elfen benodol o’r rhaglen hon. Bwriad y cynllun yw helpu cynhyrchwyr cynradd cynnyrch amaethyddol yng Nghymru i ychwanegu gwerth i’w cynnyrch drwy gefnogi'r busnesau hynny sy'n gyfrifol am weithgareddau prosesu cam un a/neu gam dau. Mae hefyd wedi’i ddylunio i wella perfformiad a chystadleurwydd eu busnesau; i ymateb i’r galw gan ddefnyddwyr; i hybu arallgyfeirio ac i ganfod, datblygu a gwasanaethu marchnadoedd sydd eisoes yn bodoli a rhai newydd.

Mae’r Cynllun Buddsoddi Busnes Bwyd yn ymwneud â buddsoddiadau cyfalaf mewn offer prosesu ynghyd â rhai costau cysylltiedig. Mae’n cefnogi prosiectau sy’n cynnig manteision clir a mesuradwy i gynhyrchwyr cynradd, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn y sector amaethyddiaeth sy’n darparu’r deunyddiau crai.

Mae’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig - BWYD (RBISF) yn buddsoddi cyfalaf i helpu prosiectau sy'n dod â manteision clir a mesuradwy i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Mae'r cynllun yn cael helpu cwmnïau prosesu a chynhyrchu bwyd a diod micro a bach, hen a newydd ledled Cymru. ( ar hyn o bryd nad ydynt yn gymwys o dan y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd).

Cliciwch yma am rhagor o wybodaeth a manylion 

Mae'r Cynllun Buddsoddi Busnes Bwyd wedi cynnal adolygiad yn ddiweddar, gellir gweld cyhoeddi'r adroddiad ymchwil yma.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau hyn, cysylltwch â ni ar FoodBIS@llyw.cymruRBISfood@llyw.cymru neu ffoniwch 0300 060 3000.