1. Trosolwg

Mae dewis enw i'ch busnes yn broses greadigol a phleserus. Mae hefyd yn broses y mae'n rhaid i chi ei gwneud yn gywir. Gall cwsmeriaid ddod i sawl casgliad ar sail enw eich busnes ac mae argraffiadau cyntaf yn bwysig.

Er y gall fod yn demtasiwn rhoi eich marc personol ar enw eich busnes, mae sawl mater arall i'w hystyried. Gall bod yn wrthrychol a dewis enw sy'n adlewyrchu eich strategaeth fusnes fod yn fwy gwerthfawr, yn enwedig wrth i'ch busnes ddatblygu.

Mae'r canllaw hwn yn dangos i chi sut i greu'r argraff gywir, arddangos enw eich busnes, ystyried p'un ai enw eich busnes fydd eich brand a rhoi eich enw ar y we. Mae hefyd yn amlinellu'r rheolau penodol y mae'n rhaid i chi lynu wrthynt wrth ddewis enw cwmni ar gyfer cwmni cyfyngedig, unig fasnachwr neu bartneriaeth.

2. Dewis enw busnes er mwyn creu'r argraff gywir

Pan fyddwch yn meddwl am syniadau ar gyfer enw busnes, efallai y byddwch am ganolbwyntio ar ddewisiadau personol yn gyntaf. Fodd bynnag, bydd meddwl yn wrthrychol yn eich galluogi i ystyried y cwsmer yn gyntaf.

Cofiwch mai enw eich busnes fydd conglfaen eich brand. Dylai weithio'n dda ble bynnag rydych yn ei ddefnyddio - ar y ffôn, yn eich logo, ar arwyddion, deunydd swyddfa, hysbysebion, gwefan, gwisg ac unrhyw gyfrwng arall rydych am ei ddefnyddio i gyrraedd y farchnad. 

Pwyntiau i'ch helpu i benderfynu ar enw ar gyfer eich busnes

Wrth ddewis enw ar gyfer eich busnes, mae angen i chi ystyried y canlynol:

  • a ydych am i'r enw adlewyrchu'r hyn mae eich busnes yn ei wneud - cludo, glanhau, adeiladu? Neu a fyddai rhywbeth mwy haniaethol yn addas?
  • a fyddai'n syniad da cynnwys eich enw?
  • a ydych am gael enw traddodiadol, sy'n cyfleu gwydnwch a gwerthoedd hen ffasiwn, neu enw modern, sy'n cyfleu agwedd newydd ac arloesol?
  • meddyliwch am y dyfodol - ceisiwch osgoi geiriau neu ymadroddion sy'n debygol o ddyddio'n gyflym
  • os ydych yn debygol o fasnachu dramor, gwnewch yn siŵr nad yw'r enw'n golygu unrhyw beth anaddas yn yr ieithoedd perthnasol ac y gellir ei ddarllen a'i ynganu'n hawdd
  • meddyliwch am y rhai sy'n ffonio ac am gwsmeriaid - ceisiwch osgoi enwau hir iawn, geiriau anghyfarwydd a sillafu anarferol. Os ydych yn bwriadu hysbysebu mewn cyfeiriaduron fel yr Yellow Pages, ystyriwch ddefnyddio enw sy'n dechrau ag un o lythrennau cyntaf y wyddor - bydd hyn yn sicrhau eich bod yn ymddangos yn agos at frig y rhestr
  • os ydych yn canolbwyntio ar y farchnad leol ar gyfer eich cynnyrch neu wasanaeth, ystyriwch ddefnyddio enw'r ddinas neu'r dref yn enw'r busnes
  • dylai eich enw masnachu fod yn greadigol, ond dylai eich enw corfforaethol fod yn ddi-nod. Bydd hyn yn rhoi'r hyblygrwydd i chi ddatblygu brandiau ac enwau masnachu eraill yn y dyfodol
  • ydych chi’n tresmasu ar nod masnach rhywun arall? Gallwch gael hyd i wybodaeth am nodau masnach ar wefan y Swyddfa Eiddo Deallusol. Os ydych yn bwriadu gwerthu dramor, gallwch ddefnyddio offeryn o’r enw TMView sy’n chwilio drwy sawl gwlad Ewropeaidd arall ar wefan TMview ac mae offerynnau tebyg gan wledydd eraill.  Am fwy o wybodaeth gyffredinol ar nodau masnach, ewch i wefan y Swyddfa Eiddo Deallusol.

Nodwch fod rheolau a allai effeithio ar eich dewis o enw busnes.

3. Enwau ar gyfer cwmnïau cyfyngedig a PACau

Os ydych wedi penderfynu ffurfio cwmni cyfyngedig neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC), bydd angen i chi gofrestru eich enw a manylion eraill gyda Thŷ'r Cwmnïau.

Cyn llenwi'r ffurflenni mae'n hanfodol eich bod yn sicrhau nad yw eich enw arfaethedig yn torri'r rheolau sy'n ymwneud â diwedd enw neu'n cynnwys gair penodedig neu air sensitif heb ganiatâd.

Enwau cwmnïau a PACau - y rheolau

Er mwyn gwneud yn siŵr bod yr enw rydych yn ei ddewis yn dderbyniol, ewch drwy'r rhestr hon cyn anfon eich cais i Dŷ'r Cwmnïau. Gwnewch yn siŵr o'r canlynol:

  • os oes gennych gwmni, bod eich enw'n gorffen gyda 'cyfyngedig' (neu Cyf), 'cwmni cyfyngedig cyhoeddus' (neu ccc) neu dermau Saesneg cyfystyr
  • os oes gennych bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, bod eich enw'n gorffen gyda 'partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig' neu PAC (gan gynnwys termau Saesneg cyfystyr)
  • nad yw'r enw'n sarhaus
  • nad yw'r enw eisoes yn ymddangos ar y mynegai o enwau cwmnïau
  • nad yw'r enw'n cynnwys unrhyw eiriau neu ymadroddion sensitif - oni bai eich bod wedi cael caniatâd i'w defnyddio

Nodau masnach

Dylech sicrhau nad yw eich enw arfaethedig yr un fath â nod masnach cofrestredig, neu'n debyg iawn iddo.

Cwynion am enwau cwmnïau neu PACau

Gallwch wneud cwyn i Dŷ'r Cwmnïau am enw cwmni neu PAC:

  • os yw'r enw'n rhy debyg i enw cwmni neu PAC sydd eisoes yn bodoli
  • os darganfyddir, o fewn 5 mlynedd i'r dyddiad cofrestru, i wybodaeth gamarweiniol gael ei rhoi yn ystod y broses gofrestru
  • os nad yw unrhyw amodau sydd ynghlwm â'r cofrestriad wedi'u bodloni o fewn 5 mlynedd i'r dyddiad cofrestru - ee darparu dogfennaeth ategol ar gyfer enw sensitif.
  • os yw'r enw yn gamarweiniol ac y gallai achosi niwed i'r cyhoedd yn sgil hynny

Darllenwch weld sut i gwyno am enwau cwmnïau ar wefan Tŷ'r Cwmnïau.

Gallwch hefyd wneud cwyn am enw cwmni neu PAC i'r Tribiwnlys Enwau Cwmnïau yn y Swyddfa Eiddo Deallusol os ydych o'r farn bod yr enw wedi'i ddewis er mwyn manteisio.

Darllenwch am y Tribiwnlys Enwau Cwmnïau ar wefan y Swyddfa Eiddo Deallusol.

4. Enwau ar gyfer unig fasnachwyr, partneriaethau a phartneriaethau cyfyngedig

Os byddwch yn penderfynu defnyddio enw busnes, rhaid glynu wrth y rheolau hyn:

  • ni ddylai fod yn sarhaus
  • ni ddylai gynnwys y termau cwmni cyfyngedig cyhoeddus, partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC) neu dermau Saesneg cyfystyr
  • ni ddylai gynnwys geiriau ac ymadroddion penodedig na sensitif, oni bai eich bod wedi cael caniatâd i'w defnyddio 

Os byddwch yn cofrestru partneriaeth gyfyngedig yng Nghymru, mae'n rhaid i chi gynnwys naill ai 'Partneriaeth Gyfyngedig' neu 'Limited Partnership' neu 'LP' yn Saesneg ar ddiwedd enw eich busnes. 

Am ragor o wybodaeth gallwch gysylltu â Chanolfan Gyswllt Tŷ'r Cwmnïau ar 0303 1234 500

A oes unrhyw un arall yn defnyddio eich enw busnes arfaethedig?

Cyn penderfynu defnyddio eich enw dewisol, mae'n ddoeth sicrhau nad yw eisoes yn cael ei ddefnyddio.

Os oes unig fasnachwr mewn rhan arall o'r wlad yn ei ddefnyddio, efallai na fydd yn broblem. Fodd bynnag, os oes busnes neu gwmni lleol arall neu gwmni cenedlaethol yn ei ddefnyddio, dylech ddewis enw gwahanol.

  • edrychwch mewn llyfrau ffôn lleol, cyfeiriaduron busnes ac ar y rhyngrwyd
  • gwnewch yn siŵr nad yw eich enw arfaethedig - neu enw tebyg - wedi'i gofrestru gan gwmni
  • gwnewch yn siŵr nad yw'r enw'n rhy debyg i air neu ymadrodd sydd wedi'i gofrestru'n nod masnach

Os oes gennych unrhyw amheuaeth am enw eich busnes, rhowch ganiad i Llinell Gymorth Busnes Llywodraeth Cymru ar 03000 6 03000.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

5. Defnyddio enwau ac ymadroddion sensitif mewn enwau busnes

Mae rhai geiriau ac ymadroddion na allwch eu defnyddio mewn enw busnes oni bai eich bod wedi cael caniatâd swyddogol. Geiriau yw'r rhain a all roi camargraff o'ch busnes. Cânt eu galw'n eiriau sensitif.

Mae'r rheolau ynghylch geiriau sensitif yn berthnasol i bob math o fusnes a chânt eu rhannu'n 5 prif grŵp:

Geiriau sensitif

Mathau o ymadroddion nEnghreifftiau

Geiriau sy'n awgrymu bod gan eich busnes bwysigrwydd neu statws enedlaethol

Prydeinig, Cenedlaethol, Rhyngwladol, Ewropeaidd

Geiriau sy'n awgrymu statws arbennig

Cymdeithas, Awdurdod, Siartredig, Cyngor, Sefydliad

Geiriau sy'n awgrymu swyddogaeth arbennig

Elusen, Yswiriant, Cofrestr, Ymddiriedolaeth

Geiriau sy'n awgrymu gweithgaredd arbenigol

Canolfan Iechyd

Geiriau sy'n awgrymu cysylltiad â llywodraeth neu frenhiniaeth

Senedd, Llywodraeth, Brenhinol, Brenhines, Tywysog

Cael rhagor o help

Mae'r canllawiau hyn yn rhoi crynodeb sylfaenol o eiriau sensitif.

Ceir rhestr o eiriau sensitif ar wefan Tŷ'r Cwmnïau.

6. Arddangos a datgelu enw eich busnes, cwmni neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig

Mae'n rhaid i bob busnes arddangos enw ei fusnes - a manylion eraill - er mwyn galluogi cwsmeriaid a chyflenwyr i wybod pwy y maent yn ymwneud â hwy. Ni ddylech argraffu deunydd swyddfa hyd nes y bydd eich enw arfaethedig wedi'i dderbyn.

Ar gyfer cwmni cyfyngedig neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC), mae'n rhaid i chi aros hyd nes y bydd y cofrestriad wedi'i gwblhau a'ch bod wedi cael Tystysgrif Corffori. Mae'r dystysgrif hon yn dangos enw a rhif cofrestredig y cwmni.

Mae'n rhaid i unig fasnachwr neu bartneriaeth gael caniatâd ymlaen llaw i ddefnyddio gair sensitif yn eu henw busnes arfaethedig. 

Arddangos enw cwmni cyfyngedig neu PAC

Mae'n rhaid i chi arddangos arwydd ag enw eich cwmni neu PAC:

  • mewn llythrennau y gellir eu darllen yn hawdd
  • mewn man lle y gall ymwelwyr ei weld yn hawdd ac yn glir mewn man lle y gellir ei weld ar unrhyw adeg ac nid yn ystod oriau busnes yn unig
  • yn barhaus

Mae'n rhaid i chi hefyd gynnwys enw cofrestredig eich cwmni neu PAC ar yr holl ohebiaeth a dogfennau busnes, boed yn gopïau caled neu'n electronig, gan gynnwys:

  • llythyrau busnes, hysbysiadau a chyhoeddiadau swyddogol eraill
  • negeseuon e-bost 
  • biliau cyfnewid, nodau addewidiol, ardystiadau a ffurflenni eraill
  • sieciau a lofnodir gan y cwmni neu ar ei ran
  • archebion am arian, nwyddau neu wasanaethau a lofnodir gan y cwmni neu ar ei ran
  • biliau parseli, anfonebau a galwadau eraill am daliad, derbynebau a llythyrau credyd
  • eich gwefan - nid oes angen i chi gynnwys enw'r cwmni ar bob tudalen ond mae'n rhaid ei arddangos mewn modd y gellir ei ddarllen yn hawdd

Gwybodaeth y mae'n rhaid i chi ei arddangos

Ar bob llythyr busnes, ffurflen archebu a gwefan, mae'n rhaid i chi arddangos y canlynol:

  • y man cofrestru
  • rhif cofrestredig
  • cyfeiriad y swyddfa gofrestredig
  • y ffaith ei fod yn gwmni cyfyngedig
  • swm y cyfalaf cyfrannau sydd wedi'i dalu, os ydych wedi penderfynu arddangos eich cyfalaf cyfrannau
  • gwybodaeth os yw'r cwmni neu'r PAC yn dirwyn i ben

Nid oes yn rhaid i chi nodi enwau'r cyfarwyddwyr ar lythyrau busnes os nad ydych am wneud hynny. Fodd bynnag, os byddwch yn penderfynu cynnwys enwau, mae'n rhaid i chi nodi enwau pob un o'r cyfarwyddwyr.

Yn yr un modd, os ydych yn PAC â thros 20 o aelodau, nid oes yn rhaid i chi arddangos enwau'r aelodau. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi gadw rhestr o enwau'r holl aelodau yn eich prif fan busnes a nodi bod y rhestr ar gael i'w harchwilio.

Arddangos enw busnes unig fasnachwr neu bartneriaeth

Os ydych yn unig fasnachwr neu'n bartneriaeth, mae'n rhaid arddangos enw eich busnes, eich enw eich hun, neu enwau'r partneriaid a chyfeiriad y busnes yn glir a hynny fel arfer:

  • yn y mannau lle rydych yn rhedeg eich busnes ac yn delio â chwsmeriaid neu gyflenwyr
  • ar bob llythyr busnes, archeb, taliad, anfoneb, derbynneb a dogfen fusnes arall

Arddangos enw ar-lein

Os oes gan eich busnes wefan, mae'n rhaid i chi arddangos:

  • gwybodaeth gyffredinol am eich busnes - gan gynnwys enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif cofrestru TAW (os yw'n gymwys) eich busnes
  • manylion unrhyw gorff proffesiynol perthnasol arall rydych yn perthyn iddo neu unrhyw gynllun awdurdodi y mae eich gwasanaeth yn rhan ohono

7. Sicrhau bod enw eich busnes ar y rhyngrwyd

Hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu creu gwefan ar gyfer eich busnes ar unwaith, mae'n debygol y byddwch yn defnyddio e-bost ac am gael presenoldeb ar y we rhywbryd yn y dyfodol. Gallai hyn olygu sgrin unigol sy'n hysbysebu eich busnes ac yn rhoi manylion cyswllt, neu gallai olygu gwefan sy'n galluogi cwsmeriaid i edrych ar eich cynhyrchion, archebu nwyddau a thalu ar-lein.

Dewis enw parth

Cyfeirir at gyfeiriad gwefan - er enghraifft, fy-musnes-newydd.co.uk - fel enw parth. Ar gyfer y mwyafrif o fusnesau yn y DU, mae enw'n gorffen â .co.uk yn addas. Fel arfer bydd eich cyfeiriad e-bost yn cynnwys yr enw hwn - er enghraifft, ymholiadau @ fy-musnes-newydd.co.uk.

Gall busnesau ac unigolion sy'n bodloni meini prawf penodol wneud cais am yr estyniad parth .eu - er enghraifft, www. fy-musnes-newydd .eu.

Os yw eich busnes yn weithredol mewn gwledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd, gall parth .eu eich helpu i farchnata eich cwmni fel busnes EwropeaiddDarllenwch am sut i gofrestru enwau parth .eu ar wefan y Gofrestr Ewropeaidd o Enwau Parth y Rhyngrwyd (EURid).

I gadw enw parth ar gyfer eich busnes, bydd angen i chi ei gofrestru drwy asiant, a fydd yn codi ffi flynyddol fach. Dylech wneud hyn cyn gynted â phosibl - hyd yn oed os nad ydych am ddefnyddio eich enw parth ar unwaith.

Nid yw'n bosibl i chi gael enw parth sydd yr un fath ag enw cwmni wedi'i gofrestru â Thŷ'r Cwmnïau.

Cofrestru eich enw parth

  • Penderfynwch ar enw parth addas i'ch gwefan - os nad ydych yn gallu defnyddio un sy'n cyfateb yn union i'ch enw busnes. Gallwch ddefnyddio rhifau yn ogystal â llythrennau. Gellir defnyddio cysylltnod i wahanu geiriau - ond ni allwch gynnwys bylchau, atalnod llawn nac unrhyw atalnod arall. Mae'n syniad da cael rhai enwau eraill wrth gefn rhag ofn bod eich dewis cyntaf eisoes wedi'i gymryd.
  • Edrychwch i weld a yw'r enw ar gael - y gofrestrfa swyddogol ar gyfer enwau parth y DU yw Nominet.    Edrychwch i weld a yw eich enw parth dewisol ar gael ar wefan Nominet.
  • Cofrestrwch yr enw - mae hon yn broses syml y gallwch ei gwneud ar-lein ag unrhyw asiant cofrestru. Mae cannoedd o asiantau cofrestru y gallwch ddewis o'u plith - mae Nominet yn fan cychwyn da. Darllenwch am ddewis asiant cofrestru ar wefan Nominet.
  •