1. Trosolwg

Os ydych yn ystyried rhedeg eich busnes eich hun, gallai prynu cwmni sydd eisoes wedi'i sefydlu fod yn gynt ac yn haws na dechrau o'r dechrau.

Fodd bynnag, bydd angen i chi fuddsoddi amser ac ymdrech i ddod o hyd i'r busnes sy'n addas i chi. Hefyd, gall y costau sy'n gysylltiedig â phrynu busnes sy'n bodoli eisoes fod yn sylweddol ac ni ddylid eu tanamcangyfrif.

Mae'r canllaw hwn yn eich tywys drwy'r broses o brynu busnes sy'n bodoli eisoes, gan gynnwys sut i asesu a phrisio busnes, eich rhwymedigaethau i unrhyw staff presennol a ble y gallwch gael help proffesiynol.

2. Manteision ac anfanteision prynu busnes sy'n bodoli eisoes

Os aiff popeth yn iawn, gall fod nifer o resymau da i egluro pam y gallai prynu busnes sy'n bodoli eisoes wneud synnwyr busnes da. Er hynny, cofiwch y byddwch yn mabwysiadu etifeddiaeth perchennog blaenorol y busnes, a bydd angen i chi fod yn ymwybodol o bob agwedd ar y busnes rydych ar fin ei brynu.

Manteision

  • bydd rhywfaint o'r gwaith paratoi i roi'r busnes ar ei draed ac yn weithredol eisoes wedi'i wneud
  • gall fod yn haws i sicrhau cyllid gan y bydd gan y busnes hanes amlwg
  • bydd marchnad ar gyfer y cynnyrch neu'r gwasanaeth eisoes wedi'i phrofi
  • mae'n bosibl y bydd gan y busnes gwsmeriaid sefydledig, incwm dibynadwy, enw da i fanteisio arno a'i wella, a rhwydwaith defnyddiol o gysylltiadau
  • dylai fod cynllun busnes a dull marchnata eisoes ar waith
  • dylai fod gan gyflogeion presennol y busnes brofiad y gallwch ei ddefnyddio
  • dydd llawer o'r problemau eisoes wedi'u canfod ac wedi'u datrys

Anfanteision

  • yn aml mae angen i chi fuddsoddi llawer o arian ymlaen llaw, a bydd yn rhaid i chi neilltuo arian ar gyfer ffioedd proffesiynol cyfreithwyr, syrfewyr, cyfrifwyr ac ati
  • mae'n debygol y bydd angen gwerth sawl mis o gyfalaf gweithio arnoch i'ch cynorthwyo gyda llif arian parod
  • os yw'r busnes wedi'i esgeuluso efallai y bydd angen i chi fuddsoddi cryn dipyn yn fwy na'r pris prynu er mwyn rhoi'r cyfle gorau iddo lwyddo
  • efallai y bydd angen i chi gadw at unrhyw gontractau a luniwyd gan y perchennog blaenorol sy'n dal i fod mewn grym, neu eu haildrafod
  • bydd angen i chi hefyd ystyried pam bod y perchennog presennol yn gwerthu a sut y gall hyn effeithio ar y busnes a'r broses o'i gymryd drosodd
  • mae'n bosib na fydd y staff presennol yn hapus gyda bos newydd, neu efallai bod y busnes wedi cael ei redeg yn wael a bod morâl y staff yn isel

3. Penderfynu ar y math cywir o fusnes i'w brynu

Yn ddelfrydol mae angen i unrhyw fusnes rydych yn ei brynu gydweddu â'ch sgiliau, eich ffordd o fyw a'ch dyheadau. Cyn i chi ddechrau chwilio, meddyliwch am beth y gallech ei gynnig i fusnes a beth yr hoffech ei gael yn ôl ganddo.

Rhestrwch yr hyn sy'n bwysig i chi. Ystyriwch yr hyn sy'n eich cymell a'r hyn rydych am ei gyflawni yn y pendraw. Mae'n ddefnyddiol ystyried:

  • eich gallu - allwch chi gyflawni'r hyn rydych am ei gyflawni?
  • eich cyfalaf  - faint o arian sydd gennych i'w fuddsoddi?
  • eich disgwyliadau o ran enillion - faint o elw y dylech fod yn ceisio ei wneud er mwyn diwallu eich anghenion?
  • eich ymrwymiad - ydych chi'n barod am yr holl waith caled a'r arian y bydd yn rhaid i chi eu buddsoddi yn y busnes er mwyn iddo lwyddo?
  • eich cryfderau - pa fath o gyfle busnes a fydd yn rhoi cyfle i chi ddefnyddio eich sgiliau a'ch profiad i'r eithaf?
  • y sector busnes  y mae gennych ddiddordeb ynddo - dysgwch gymaint ag y gallwch am eich diwydiant o ddewis fel y gallwch gymharu busnesau gwahanol. Mae'n bwysig eich bod yn treulio amser yn siarad â phobl sydd eisoes mewn busnesau tebyg. Bydd y rhyngrwyd a'ch llyfrgell leol hefyd yn ffynonellau da o wybodaeth hefyd
  • lleoliad  - peidiwch â chwilio am fusnes yn eich ardal leol yn unig. Gellir adleoli rhai busnesau yn hawdd

4. Ble i chwilio am fusnes i'w brynu

Mae llawer o bapurau newydd cenedlaethol a lleol yn cynnwys hysbysebion am fusnesau a safleoedd busnes sydd ar werth.

Yn dibynnu ar y sector y mae gennych ddiddordeb ynddo, gallech edrych mewn cyfnodolion masnach.

Gallech lunio eich hysbyseb eich hun, sy'n nodi'r hyn rydych yn chwilio amdano. Gallwch gael manylion cyswllt ar gyfer y rhan fwyaf o bapurau newydd, cylchgronau a chyfnodolion masnach o gyfeirlyfrau'r wasg sydd ar gael yn eich llyfrgell leol.

Mae rhai cylchgronau - llawer ohonynt â’u gwefannau eu hunain - yn arbenigo mewn prynu a gwerthu, fel Exchange and Mart, Loot a Daltons Business.  Mae'r ffynonellau hyn yn dueddol o fod yn benodol i fathau arbennig o fusnesau.

Mae broceriaid busnes, asiantau trosglwyddo ac arianwyr corfforaethol oll yn cadw rhestrau o fusnesau sydd ar werth.

Paratowch CV a thaflen wybodaeth amdanoch chi eich hun a'r hyn rydych yn chwilio amdano, eich sgiliau a'ch gallu i ariannu. Pan fyddwch wedi paratoi'r dogfennau hyn, anfonwch hwy at asiantaethau fel y gallant helpu i chwilio am fusnes sy'n bodloni eich gofynion. Mae hyn hefyd yn dangos i'r asiant a'i gleient eich bod yn effeithlon, yn drefnus ac o ddifrif.

Ar y rhyngrwyd mae llawer o wefannau sy'n rhestru busnesau sydd ar werth lle y gallwch chwilio am fusnesau neu osod hysbysebion 'chwilio am fusnes' - weithiau am ddim. Gallwch chwilio am fusnesau sydd ar werth ar wefannau megis Daltons Business a Businesses for Sale.

Mae gwefannau eraill yn cynnig cronfeydd data o asiantau trosglwyddo busnes a broceriaid busnes. Mae'r rhain yn gweithio mewn ffordd debyg i asiantau tai - maent yn arbenigwyr mewn prisio, marchnata a gwerthu busnesau. Gallant eich helpu i ddod o hyd i'r busnes cywir a'ch rhoi mewn cysylltiad â ffynonellau cyllid posibl.

Wrth chwilio am asiant trosglwyddo sicrhewch ei fod yn aelod o sefydliad masnach megis y Gymdeithas Broceriaid Busnes Rhyngwladol (IBBA) neu'r Sefydliad Asiantau Masnachol a Busnes (ICBA). Mae'n rhaid i aelodau sefydliadau o'r fath gydymffurfio â chod ymddygiad ac mae'r ffaith eu bod yn aelodau yn dangos bod ganddynt y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad proffesiynol angenrheidiol.

Os nad yw'r busnes rydych yn chwilio amdano ar gael, gwnewch rywfaint o waith ymchwil a pheidiwch â bod ofn cysylltu â pherchennog busnes. Fodd bynnag, gall cysylltu â pherchennog busnes yn ddigymell ei ddal yn annisgwyl. Dylech hefyd barchu angen y gwerthwr i sicrhau cyfrinachedd. Bydd brocer busnes, asiant trosglwyddo neu ariannwr corfforaethol yn gallu eich helpu i ddod o hyd i fusnes nad yw o bosibl ar werth yn amlwg.

Yn olaf, peidiwch ag anghofio siarad â phobl. Holwch ymysg cysylltiadau masnach, cymheiriaid busnes ac mewn arddangosfeydd a chynadleddau.

5. Sut i brisio busnes

Gall prisio busnes fod yn un o'r elfennau o brynu busnes sy'n bodoli eisoes sy'n peri'r pryder mwyaf.

Mae'n bosibl y gall eich cyfrifydd eich helpu i brisio eich busnes, ond asiant trosglwyddo busnes, brocer busnes neu ariannwr corfforaethol fydd fwyaf cymwys i roi cyngor ar brisio busnes.

Busnes iach

I gael syniad cyffredinol o ba mor iach yw'r busnes, edrychwch ar:

  • hanes y busnes
  • ei berfformiad presennol - gwerthiant, trosiant, elw
  • rhagamcaniadau neu gynllun busnes
  • ei sefyllfa ariannol - llif arian, dyledion, costau, asedau
  • pam bod y busnes yn cael ei werthu
  • unrhyw ymgyfreitha mawr neu sy'n mynd rhagddo y mae'r busnes yn ymwneud ag ef
  • unrhyw newidiadau rheoliadol a all gael effaith ar y busnes

Fel rhan o'ch gwaith ymchwil, siaradwch â'r gwerthwr ac, os yw hynny'n bosibl, gwsmeriaid a chyflenwyr presennol y busnes. Rhaid i'r gwerthwr fod yn gyfforddus â'r hyn rydych yn ei wneud ac mae'n rhaid i chi fod yn ystyriol o'i sefyllfa. Mae'n bosibl y bydd cwsmeriaid a chyflenwyr yn gallu rhoi gwybodaeth i chi a fydd yn effeithio ar eich prisiad, yn ogystal â gwybodaeth am amodau yn y farchnad sy'n effeithio ar y busnes. Gallwch wneud ymchwil o'r fath ar y rhyngrwyd hefyd neu yn eich llyfrgell leol.

Er enghraifft, os yw'r gwerthwr yn gorfod gwerthu am fod yr elw yn gostwng, efallai y bydd eich prisiad yn is.

Asedau anniriaethol

Y rhan anoddaf yw prisio'r asedau anniriaethol. Mae'r rhain fel arfer yn anodd eu mesur a gallent gynnwys:

  • enw da'r cwmni
  • y gydberthynas â chyflenwyr
  • gwerth ewyllys da
  • gwerth trwyddedau
  • patentau neu eiddo deallusol

Dylech ystyried sut y gallai eich penderfyniad i brynu'r busnes effeithio ar werth yr asedau hyn.

Ystyriaethau eraill

Mae'r rhestr isod yn nodi ffactorau eraill a fydd yn effeithio ar brisiad y busnes:

  • stoc
  • lleoliad
  • asedau
  • cynhyrchion
  • dyledwyr
  • credydwyr
  • cyflenwyr
  • gweithwyr
  • safleoedd
  • cystadleuaeth
  • meincnodi - am faint y mae busnesau eraill yn y sector wedi gwerthu
  • pa fusnesau eraill yn y sector sydd ar werth neu ar y farchnad
  • y sefyllfa economaidd - a fydd unrhyw ddeddfwriaeth lywodraethol newydd yn cael effaith ar y busnes

Unwaith y byddwch wedi ystyried yr holl ffactorau hyn, gallwch benderfynu faint rydych am ei gynnig am y busnes, neu p'un a ydych am ei brynu o gwbl.

Os byddwch yn penderfynu gwneud cynnig, ac yn cytuno ar bris gyda'r gwerthwr, caniateir cyfnod o amser i chi sicrhau bod yr holl wybodaeth a roddwyd i chi yn gywir. Gelwir hyn yn ddiwydrwydd dyladwy

6. Gwneud yn siŵr bod busnes yn werth ei brynu: diwydrwydd dyladwy

Ar ôl gwneud eich gwaith ymchwil, dylech gadarnhau'r wybodaeth a gawsoch am eich darpar fusnes newydd. Caniateir cyfnod o amser i chi edrych drwy lyfrau a chofnodion y busnes. Gelwir hyn yn ddiwydrwydd dyladwy. Dylai hyn rhoi darlun realistig i chi o sut mae'r busnes yn perfformio nawr, a sut mae'n debygol o berfformio yn y dyfodol. Dylai hefyd nodi unrhyw faterion neu broblemau y gallai fod angen eu gwarantu neu gael sicrwydd yn eu cylch.

Yn draddodiadol, ceir 3 math o ddiwydrwydd dyladwy. Efallai y bydd angen cynghorwyr gwahanol ar gyfer pob un:

  •  diwydrwydd dyladwy cyfreithiol - fel rhan o gontract gwerthu a phrynu, gall y cyfreithwyr sicrhau bod gan y busnes deitl cyfreithiol i'w werthu, perchenogaeth dros ei holl asedau a'i fod  wedi ymdrin â materion rheoliadol ac ymgyfreitha yn llawn
  •  diwydrwydd dyladwy ariannol - cadarnhau'r ffigurau a gwneud yn siŵr nad oes unrhyw fylchau neu faterion ariannol cudd
  •  diwydrwydd dyladwy masnachol - canfod safle'r busnes yn y farchnad, canfod pwy yw'r cystadleuwyr a'r amgylchedd rheoliadol

Pryd i ddechrau'r cyfnod diwydrwydd dyladwy

Peidiwch â dechrau'r cyfnod diwydrwydd dyladwy hyd nes eich bod wedi cytuno ar bris a thelerau gyda'r gwerthwr. Efallai y bydd y gwerthwr yn cytuno i dynnu'r busnes oddi ar y farchnad yn ystod eich ymchwiliad. Gelwir hyn yn gyfnod neilltuedig - ac yn aml bydd y gwerthwr yn gofyn am ernes i'w ddiogelu.

Mae'r cyfnod ymchwilio yn agored i'w drafod - ond mae angen o leiaf 3 i 4 wythnos ar y rhan fwyaf o fusnesau bach.

Ble i gael help

Yn ddelfrydol, dylech ofyn i gyfrifwyr a chyfreithwyr i'ch helpu i nodi meysydd risg, ond os yw'r cwmni wedi'i gofrestru â Thŷ'r Cwmnïau, gallwch hefyd gael copïau o gyfrifon y cwmni, y ffurflen dreth flynyddol ac unrhyw ddogfennau allweddol eraill a gyflwynwyd gan eich busnes targed gan ddefnyddio gwefan WebCHeck Tŷ'r Cwmnïau. Gall y dogfennau gael eu lawrlwytho o wefan Tŷ'r Cwmnïau. Codir ffï am rai ohonynt. Bydd y dogfennau hyn yn eich helpu i asesu gwerth y busnes a'i asedau.

Mae'r cyfnod diwydrwydd dyladwy yn ymdrin â llawer mwy na materion ariannol busnes. Yn dilyn y cyfnod hwn dylech wybod yn union beth sydd o'ch blaen, beth sydd angen mynd i'r afael ag ef, beth fydd y gost o wneud hynny, ac ai chi yw'r person cywir i ymgymryd â'r busnes hwn.

Y meysydd allweddol i'w cwmpasu yw:

  • telerau ac amodau cyflogaeth
  • unrhyw ymgyfreitha sy'n mynd rhagddo
  • contractau ac archebion mawr
  • systemau TG a thechnoleg arall
  • materion amgylcheddol
  • rheoli masnachol gan gynnwys gwasanaeth cwsmeriaid, ymchwil a datblygu, a marchnata

Ffynonellau gwybodaeth

Ceisiwch fod mor fanwl â phosibl a defnyddiwch unrhyw ddogfennau sydd ar gael. Er enghraifft, os ydych yn edrych ar gofnodion cyflogeion, gallech edrych ar:

  • gofnodion cyflogres
  • ffeiliau staff
  • copïau o gynlluniau pensiwn a rhannu elw, a datganiadau ariannol, os yn berthnasol
  • contractau cyflogaeth
  • y llawlyfr staff
  • contractau undeb, os yn berthnasol

Mae'n bosibl y bydd angen gwybodaeth arnoch hefyd o ffynonellau allanol fel y landlord, y swyddfa dreth neu'r banc.

7. Cam wrth gam: sut i brynu busnes

Bydd mabwysiadu dull trefnus o weithredu yn eich helpu i ddod o hyd i'r busnes cywir a'i brynu.

Cael cyngor proffesiynol

Mae cymorth proffesiynol yn amhrisiadwy wrth i chi fynd drwy'r broses drafod, prisio a phrynu.

Ymchwil

Ymchwiliwch i'r sector y mae gennych ddiddordeb ynddo, gan ystyried yr amser gorau i brynu, a lluniwch restr fer o 2 neu 3 busnes.

Mynd i weld busnes a'i brisio

Peidiwch â thynnu gormod o sylw atoch chi eich hun - efallai na fydd y perchennog am i'r staff wybod ei fod yn gwerthu, ond byddwch yn drylwyr a chofnodwch ganfyddiadau allweddol.

Trefnu cyllid

Mae angen y canlynol ar fenthycwyr fel arfer:

  • manylion y busnes/manylion gwerthiannau
  • cyfrifon y 3 blynedd diwethaf
  • rhagamcaniadau ariannol - os nad oes cyfrifon ar gael
  • manylion eich asedau a'ch rhwymedigaethau personol

Gallech ystyried nifer o ffynonellau cyllid posibl.

Gwneud cynnig ffurfiol

Os byddwch yn gwneud eich cynnig cyntaf dros y ffôn, sicrhewch eich bod yn gwneud cynnig ysgrifenedig yn syth ar ôl hynny hefyd. Rhowch y pennawd yn amodol ar gontract ar eich llythyr a chofiwch gynnwys yr ymadrodd hwn ym mhob gohebiaeth ysgrifenedig.

Cyd-drafod

Cyn cwblhau'r gwerthiant, gall fod yn werth ceisio trafod cyfnod gorgyffwrdd fel eich bod yn cael amser i ymgyfarwyddo â'r busnes cyn cymryd yr awenau.

Mae angen i chi a'ch cyfreithiwr gadarnhau'r wybodaeth yr ydych wedi seilio eich cynnig arni. 

Os byddwch yn prynu safle, efallai y byddwch am drefnu arolwg a phrisiad annibynnol, hyd yn oed os bydd benthyciwr hefyd yn cynnal ei arolwg a'i brisiad ei hun ar eich traul chi.

Cwblhau'r pryniant

Hyd yn oed ar ôl i chi ddod i gytundeb ar bris a thelerau'r gwerthiant, gallai'r ddêl fynd i'r gwellt o hyd. Mae'n rhaid i chi fodloni rhai amodau gwerthu er mwyn cwblhau'r pryniant, gan gynnwys:

  • dilysu datganiadau ariannol
  • trosglwyddo prydlesi
  • trosglwyddo contractau/trwyddedau
  • trosglwyddo cyllid
  • trosglwyddo cofrestriad TAW sy'n bodoli eisoes neu gofrestriad newydd

8. Gofalu am gyflogeion presennol

Ceir rhai rheoliadau sy'n ymwneud â beth fydd yn digwydd i gyflogeion pan fydd rhywun newydd yn cymryd y busnes drosodd.

Mae'r rhain yn gymwys i bob cyflogai pan gaiff busnes ei drosglwyddo fel busnes gweithredol, sy'n golygu y bydd cyflogeion yn dechrau gweithio'n awtomatig i'r perchennog newydd o dan yr un telerau ac amodau.

Dyfarniadau tribiwnlys cyflogaeth

Pan fyddwch yn prynu busnes sy'n bodoli eisoes, gallech benderfynu bod angen i chi gyflogi llai o staff. Byddwch yn ofalus wrth wneud unrhyw newidiadau, gan y gallai cyflogai ddwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth yn honni ei fod wedi'i ddiswyddo'n annheg neu'i ddewis yn annheg i golli ei swydd. Mae'n well ymgynghori â chyfreithiwr cyn gwneud unrhyw newidiadau o'r fath. 

Hysbysu cyflogeion ac ymgynghori â hwy

Os ydych am drafod lleihau nifer y cyflogeion neu aildrefnu staff, mae'n syniad da gwneud hyn ar ôl i chi gwblhau'r cyfnod diwydrwydd dyladwy, ond cyn i chi gymryd y busnes drosodd. Fel y cyflogwr newydd dylech hysbysu'r holl gyflogeion - gan gynnwys cynrychiolwyr cyflogeion - a allai gael eu heffeithio, ac ymgynghori â hwy.

Pensiynau

Fel eu cyflogwr newydd, nid oes rhaid i chi ymgymryd â hawliau a rhwymedigaethau sy'n gysylltiedig â chynlluniau pensiwn galwedigaethol cyflogeion a roddwyd ar waith gan y cyflogwr blaenorol. Fodd bynnag, os na fyddwch yn darparu trefniadau pensiynau cyffelyb, gallech, mewn egwyddor, wynebu hawliad o ddiswyddo annheg.