Ynglŷn â’r Gystadleuaeth
Ynglŷn â’r Gystadleuaeth
Mae Cystadleuaeth Genedlaethol y Criw Mentrus yn rhoi’r cyfle i ysgolion cynradd ledled Cymru ddangos eu gweithgareddau menter yn ogystal â datblygu sgiliau entrepreneuraidd plant mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol.
Mae’n ffordd wych o gyflwyno cwricwlwm ehangach i blant yn unol ag adolygiad Donaldson lle rhoddir rhwydd hynt i greadigedd ffynnu gan alluogi ysgolion i greu cyfranwyr uchelgeisiol a mentrus.
Mae’r Criw Mentrus yn seiliedig ar fodel entrepreneuriaeth ACCT, y pedair nodwedd allweddol mewn ymddygiad entrepreneuraidd:
- Agwedd: Deall eich hun a’ch cymhelliant, gosod targedau a’u cyflawni
- Creadigedd: Cynhyrchu syniadau, datrys problemau a chreu cyfleoedd
- Cysylltiadau: Mynegi barn a syniadau, gwerthfawrogi safbwyntiau pobl eraill a chydweithio
- Trefniadaeth: Gallu i wneud penderfyniadau a chyflawni amcanion
Beth yw gofynion y gystadleuaeth?
Y cyfan fydd angen i chi ei wneud yw meddwl am syniad(au) busnes, sefydlu busnes bach, a chreu cynnyrch neu wasanaethau y gellir eu gwerthu/cyflwyno am elw a chydweithio gyda’ch cymuned leol.
Mae’r gystadleuaeth yn hyblyg ac mae modd cynnwys gweithgareddau menter ysgol neu gymunedol sydd eisoes yn bodoli megis ffeiriau, sioeau neu unrhyw ddigwyddiadau eraill a gynhelir ar sail gymunedol.
Oherwydd mai cystadleuaeth ddigidol yw hon, gallech archwilio defnyddio ffyrdd digidol o greu busnes. Cylchlythyr neu gylchgrawn electroneg efallai, neu wefan gymunedol ar gyfer hysbysebu.
Nid oes unrhyw syniad yn rhy fach - os bydd y plant am wneud cacennau a’u gwerthu, cynnal cystadleuaeth ciciau o’r smotyn mewn ffair ysgol neu hyd yn oed ddatblygu app - rydyn ni’n awyddus iawn i glywed amdanynt!
Gallwch gymryd rhan fel grŵp fel dosbarth neu ysgol. Nid oes unrhyw gyfyngiad ar y nifer o geisiadau o bob ysgol neu’r nifer o blant sy’n cymryd rhan.
Mae’r holl wybodaeth am y gystadleuaeth ar gael o fewn y dolenni isod..
- Llawlyfr y Criw Mentrus
- Y Criw Mentrus – Meini Prawf a Chymhwysedd
- Y Criw Mentrus – Rheolau Ymgeisio’r Gystadleuaeth