Coronafirws (Covid 19)

“Pa bryderon bynnag sydd gennych am eich busnes, nid dyma'r amser i gadw’r pryderon i chi eich hun,  byddwn yn dod o hyd i arbenigwr a fydd yn gwrando arnoch ac yn cynnig yr arweiniad a'r cymorth cyfrinachol sydd eu hangen arnoch naill ai dros y ffôn neu'n ddigidol,” yw neges Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglenni Gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar y cyd â Lantra Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mewn ymateb i’r cyfyngiadau sydd mewn grym oherwydd pandemig y coronafeirws, mae Cyswllt Ffermio wedi trefnu nifer o gymorthfeydd un-i-un,  sy'n cael eu hariannu'n llawn ar gyfer unigolion cofrestredig.

“Os byddwch chi’n ffonio Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio yn y bore ac yn esbonio’r hyn sydd ei angen arnoch, byddwn yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i’r arbenigwr mwyaf priodol i ymateb i’ch ymholiad neu bryder ar yr un diwrnod. Yn aml iawn, cewch y cymorth sydd ei angen arnoch gan un o’n hymgynghorwyr cymeradwy o fewn ychydig oriau," meddai Mrs. Williams.   Ychwanegodd os nad yw ffermwyr neu goedwigwyr cymwys eisoes wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, mae hon yn broses gyflym y gellir ei gwneud hefyd dros y ffôn drwy ffonio'r Ganolfan Wasanaeth ar 03456 000 813. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Bydd y cymorthfeydd, sy’n cael eu darparu dros y ffôn neu'n ddigidol, yn parhau hyd nes y bydd gwasanaeth ‘arferol’ wyneb yn wyneb Cyswllt Ffermio ar gael unwaith eto.  Fel arfer, bydd pob un yn para oddeutu awr i bob unigolyn.  Gellir trafod pynciau sy'n amrywio o faterion cydymffurfio rheoleiddiol a rheoli busnes – sy’n gallu cynnwys, er enghraifft, cyngor cyfreithiol, cyfrifeg, cynllunio ac olyniaeth  -  i bynciau technegol ac iechyd anifeiliaid, rheoli pobl a phrosiectau arallgyfeirio.

Darllen mwy


Yn yr adran hon:


Tudalennau cysylltiedig: