Lucy Allison

Lleoliad: Rhoshill, Aberteifi

Cyrchfan: Iwerddon

Pwnc: Edrych ar frid a chynhyrchiant glaswellt i gynyddu’r solidau llaeth a gynhyrchir fesul buwch a fesul hectar

Lucy Allison

Lucy Allison, Rhoshill, Aberteifi

Sector: Llaeth

Manylion y gyfnewidfa:

Mae Iwerddon wedi buddsoddi llawer mewn ymchwil yn y diwydiant llaeth. Credaf y gallwn ddysgu llawer ganddynt, gan bod ganddynt hinsawdd ac amodau tebyg i ni.

Pam wnaethoch chi ymgeisio ar gyfer y Gyfnewidfa Rheolaeth?

Mae’n gyfle gwych i deithio a dysgu am y diwydiant yr wyf yn angerddol amdano. Mae hefyd yn cynnig cyfle i drosglwyddo gwybodaeth yn ôl i ffermydd yng Ngorllewin Cymru, a all gael budd o’r ymchwil a wneir yn Teagasc.

Be ydych chi yn gobeithio ei ennill o gymryd rhan yn y Gyfnewidfa Rheolaeth? 

Yn ystod fy ymweliad rwy’n gobeithio deall dangosyddion perfformiad allweddol penodol sydd wedi cael eu gweithredu ar fferm laeth a’r canlyniadau a welwyd. Mae’r prosiect yn edrych ar roi’r sgiliau a’r dechnoleg angenrheidiol i ffermydd llaeth teuluol i greu elw ariannol boddhaol ar yr adnoddau a ddefnyddir ar y ffermydd ac i ddarparu adnoddau technegol iddynt a’r hyder i ymestyn y busnes llaeth yn broffidiol.

Mae’r targedau penodol i edrych arnynt yn cynnwys cynnydd yn y solidau llaeth a gynhyrchir gan bob buwch, i bob hectar ac i bob fferm, proffidioldeb cyffredinol y fferm, defnyddio amcangyfrif o werth bridio uchel o ran geneteg, rhaglenni rheoli iechyd y fuches a defnyddio nodiadau rheoli wythnosol. O’r wybodaeth hon rwy’n gobeithio gwella elw a chynhyrchiant y busnes fferm yn gynaliadwy.

Cliciwch yma i ddarllen blogs Lucy