Elaine Rees Jones
Mae gan Elaine Rees Jones 10 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y sector amaeth. Mae wedi darparu cyngor busnes i deuluoedd ffermio un ai ar sail un-i-un neu fel rhan o grŵp.
Maes arbenigol Elaine yw arallgyfeirio fferm, gyda phrofiad helaeth mewn sefydlu mentrau Maes (Free Range) ac Ynni Adnewyddadwy, lle mae hi’n mentora, cefnogi ac ysgogi drwy gydol y broses o sefydlu’r fenter. Mae ei chefnogaeth yn barhaus drwy gydol y broses nes ei fod yn weithredol. Hyd yma, mae Elaine wedi gweithio gyda thros 100 o fusnesau yn y sector Ddofednod a 55 prosiect ynni adnewyddadwy ynghyd â nifer o brosiectau arallgyfeirio diddorol eraill, megis twristiaeth, lleoliadau priodas a phrosiectau amaeth-bwyd.
Mae Elaine wedi gweithio yn y sector amaeth drwy gydol ei gyrfa, wedi iddi weithio yn y sector cigyddiaeth, sector hyfforddi ATB/Lantra, gwerthu uniongyrchol a marchnata ar ran Wynnstay Farmers ac fel hwylusydd a mentor ar ran Cyswllt Ffermio. Mae hefyd wedi cwblhau nifer o gyrsiau hyfforddiant - yn fwyaf diweddar, City & Guilds - PTLLS; dyfarniad Lefel 5 mewn ymwybyddiaeth ariannol yn ogystal ag egwyddorion marchnata ar gyfer rheolwyr; Ymholi Gwerthfawrogol; Dynameg y Teulu ac Olyniaeth (Ashrisge Consulting Ltd) a Dadansoddiad Busnes Fferm a Chynllunio Busnes ac Ariannol ar Fferm (Harper Adams).
Yn ferch ac yn wraig i ffermwr, ganwyd Elaine yn Nhrefaldwyn ar fferm ucheldir bîff a defaid. Ers 2008, mae wedi byw ym Mhentrefoelas, ac mae hi erbyn hyn yn bartner gyda’i gŵr ar fferm ucheldir dan denantiaeth. Yn draddodiadol, bu’r uned yn un bîff a defaid, fodd bynnag mae gan y cwpwl awch am newid ac maent wedi arallgyfeirio i gynhyrchu ynni gwynt wedi iddynt fuddsoddi mewn dau dyrbin gwynt 90kw, ac yn fwy diweddar maent wedi derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer uned magu dofednod.