Elen Pencwm

Merch fferm sydd bellach wedi ymgartrefu yn Llanfihangel y Creuddyn ger Aberystwyth yw Elen Pencwm. Astudiodd radd Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod cyn symud i Gaerdydd  lle bu’n cynhyrchu a chyflwyno rhaglenni teledu a radio. Ond roedd tynfa cefn gwlad yn ormod i Elen a doedd ganddi ddim dewis ond symud nôl i Geredigion gyda’r nod o fagu teulu a gweithio er budd Cefn Gwlad Cymru, rhaglen sy’n agos iawn at ei chalon.

Mae Elen wrth ei bodd yng nghwmni pobol ac mae’n teimlo’n ffodus ei bod yn medru gweithio a chefnogi’r diwydiant amaeth a chefn gwlad yn gyffredinol.  Mae hi’n mwynhau creu prosiectau newydd ac mae’r syniad o ddod â grwpiau at ei gilydd er mwyn creu neu weithio ar brosiect fydd yn elwa eu bywydau ac economi cefn gwlad yn cynhyrfu Elen yn fawr.

Mae Elen wrth ei bodd ar ei thyddyn 23 erw yng nghwmni ei gŵr a’u tri o blant. Pan fo amser yn bodlonni, mae hi’n mwynhau garddio a cherdded yn ogystal ag arwain ambell i Noson Lawen neu ysgrifennu rhaglen neu bantomeim ar gyfer clybiau ffermwyr ifanc lleol.

“Dwi’n gwybod bod gennym y cynnyrch gorau, syniadau gwreiddiol a’r ysfa i greu cymunedau a busnesau llwyddiannus yng nghefn gwlad ac fel Arweinydd Agrisgôp, rwyf yma i gefnogi a hwyluso’r siwrnai. Gall rhywbeth arbennig ddechrau gyda sgwrs fach ac edrychaf ymlaen at gael sgwrs gyda chi!”