Lilwen Joynson
Ganwyd a magwyd Lilwen ar fferm laeth 64 erw Cyngor Sir Benfro ger Eglwyswrw, Gogledd Sir Benfro. Pan ddaeth yr amser i ddewis naill ai i arbenigo mewn ffermio neu geffylau, dewisiodd Lilwen ffermio. Gyda cheffylau fel hobi, astudiodd yng Ngholeg Gelli Aur yn yr 1980au, gan ennill NCA ac yna rhagoriaeth mewn Amaethyddiaeth. Aeth ymlaen i astudio OND yn y CAC yn Aberystwyth.
Setlodd Lilwen lawr i ffermio yn Sir Gâr ar fferm fynydd 250 erw gyda hawliau pori ar Fynydd Llanllwni, lle’r oedd yn rhedeg diadell o 640 o famogiaid mynydd Cymreig a buches o 40 o wartheg Duon Cymreig. Arallgyfeiriwyd y fferm yn cynnwys lletai gwyliau, dysgu a dofi ceffylau yn ogystal â chynnal hyfforddiant trawsgwlad a gwersylloedd merlod. Yn dilyn ysgariad, bu Lilwen yn astudio a gweithio yn Llundain a Berkshire yn y sector iechyd, gan weithio i hwyluso newid. Yn 2011, cymerodd Lilwen y cyfle i brynu masnachfraint ar gyfer broceru taimodur yn ardal De a Gorllewin Cymru dan y brand Motorhome Depot.
‘Datblygiad personol sy’n fy ysgogi, yn edrych ar gyfathrebu a sut yr ydym yn dylanwadu ac weithiau’n rhwystro tyfiant personol gyda lefel isel o hunan-barch a meddyliau hunanfeirniadol negyddol. Rwyf dal i fod wrth fy modd â cheffylau ac maent wedi dangos i mi ffyrdd o reoli newidiadau a sialensiau bywyd. Gyda gre fechan o ferlod Cymreig a chaseg hen, ffyddiog o’r enw Millie, rwyf wedi sefydlu a datblygu busnes bach. Ceffylau sydd wrth graidd y busnes ac rydym yn gweithio gyda phobl i gynorthwyo datblygiad personol a gyda grwpiau ar gyfer datblygiad tîm, mewn modd arbrofol ac yn yr awyr agored. Mae ein cleientiaid yn amrywio o bobl ifanc o CAHMS a Turning Point sy’n delio â chaethiwed, plant a staff o gartrefi plant a theuluoedd sy’n delio â straen a phryder yn y cartref. Mae cleientiaid datblygu tîm yr ydym wedi gweithio â nhw yn cynnwys entrepreneuriaid sy’n ehangu eu sefydliadau ac arweinwyr byd o ARUP. Ar hyn o bryd, rydym yn edrych i gynyddu ein presenoldeb yn y sector gorfforaethol, gan gynnig ffordd syml ond effeithiol i ddatrys problemau a defnyddio rhan greadigol yr ymenydd i ddarganfod datrysiadau i broblemau dan y brand Horse Sense for Life.
Dan Agrisgôp, rwyf wedi dychwelyd i Gymru a fy ngwreiddiau ac i ganol y sector ffermio, i gynnig fy sgiliau ychwanegol. Rwy’n gobeithio annog rhannu syniadau er mwyn dod â busnesau ffermio a choedwigaeth yn agosach at eu marchnad a’u cwsmeriaid, yn ogystal â hybu sgiliau cyfathrebu effeithiol i hysbysebu ein cynnyrch Cymreig o safon ar draws y byd i farchnadoedd cynnaliadwy. Ar adeg o newid mawr, credaf fod annog pobl i fod yn fentrus a bod yn falch o’u talentau, eu hasedau a’u cynnyrch unigryw yn bwysig. Credaf hefyd bod meddwl yn greadigol yn hanfodol er mwyn datblygu busnesau cryf a chyfoethog ar gyfer dyfodol ein cymunedau gwledig.