Myrddin Davies
Magwyd Myrddin ar fferm ger Llanrwst, Conwy ac yn ddiweddar symudodd nôl i fyw i’r ardal gyda’i wraig a dau o blant ifanc. Astudiodd Amaethyddiaeth a Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae ganddo bellach 15 mlynedd o brofiad yn cefnogi busnesau gwledig.
Mae ei yrfa hyd yma wedi cynnwys gweithio yn Adran Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Hybu Cig Cymru ac yn fwy diweddar yn rheoli prosiect Cywain sy’n cefnogi mentrau bwyd a diod yng Nghymru. Mae ganddo ddealltwriaeth eang o’r gadwyn fwyd, o’r fferm i’r plat a phrofiad o weithio gyda nifer o randdeiliaid yn y maes.
Penodwyd Myrddin yn Arweinydd Agrisgôp ym mis Mawrth 2018 ac mae’n edrych ymlaen at ddefnyddio ei brofiadau i gefnogi grwpiau a busnesau i ddatblygu eu syniadau. Cwblhaodd gwrs Cymell a Mentora yn ddiweddar ac mae’n awyddus i roi’r ddysg hyn ar waith.
Yn bartner yn y busnes fferm teuluol ac yn rhan o fenter i ychwanegu gwerth i gynnyrch fferm, mae ganddo ddealltwriaeth dda o’r heriau sy’n wynebu teuluoedd fferm. Mae ganddo agwedd bositif ac mae’n awyddus i gefnogi datblygu cyfleoedd a syniadau ar gyfer y dyfodol.
Mae Myrddin yn gweithio ar draws ardal Gogledd Cymru.