Carys Jones

Carregcynffyrdd, North Carmarthenshire

 

Mae Carregcynffyrdd yn cael ei ffermio gan Carys Jones a'r teulu lle mae ganddyn nhw ddiadell o 400 o famogiaid Cymreig Llanymddyfri a 100 o famogiaid croes Romney, ynghyd â buches o 50 o wartheg sugno. 

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Carys wedi ymdrechu i wella effeithlonrwydd ar y fferm drwy addasu'r bridiau a ddefnyddir ar fferm Carregcynffyrdd. Mae hi nawr yn manteisio ar y cyfle i weld sut y gall hi ddelio â'r rheolaeth fwyaf cost-effeithiol o fwydo mamogiaid ar yr un pryd â gwneud y gorau o allbynnau’r ddiadell – ffactorau allweddol a fydd yn taro tant gyda llawer o ffermwyr eraill Cymru sydd mewn amgylchiadau tebyg.

Bydd y prosiect, lle bo’n bosibl, yn anelu at wneud y defnydd gorau posibl o ffynonellau protein cynaliadwy, a gynhyrchir yn lleol, a lleihau'r defnydd o gynhwysion bwyd anifeiliaid drud a phrotein wedi'i fewnforio.

Bydd dau ffactor yn cael eu hystyried yn rhan o'r prosiect: 

  • Datblygu diet cost-effeithiol ar gyfer y ddiadell trwy'r flwyddyn.
  • Treial rheoli sy'n cynnwys dosio hanner y ddiadell gyda propylene glycol cyn hyrdda, er mwyn mesur a yw hyn yn cael effaith ar nifer yr ŵyn.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Cyfrannu at iechyd a lles uchel
  • Effeithlonrwydd o ran adnoddau
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
     

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Nantyrhebog
Michael James Nantyrhebog, Carmarthen Ymchwilio i’r elw posibl ar
Brynllech Uchaf
Rhodri and Claire Jones Brynllech Uchaf, Llanuwchllyn
Dylasau Uchaf
Beca Glyn Dylasau Uchaf, Conwy Mae Dylasau Uchaf yn awyddus i