Laura Pollock

Lower House Farm, Monmouthshire, Torfaen & Blaenau Gwent

 

Mae Lower House Farm yn meddiannu 114 erw ar waelod Bryniau Coed Gwent yn Llanfair Isgoed, Sir Fynwy. Arferai fod yn fferm laeth, ond mae bellach yn cael ei defnyddio ar gyfer cymysgedd o dda byw – magu lloi a mamogiaid bridio gan mwyaf. Mae’r fferm sy’n eiddo i Gyngor Sir Fynwy yn cael ei rhedeg a'i rheoli gan Matt Brooks a Laura Pollock, newydd-ddyfodiaid sy'n ceisio arallgyfeirio'r busnes i nifer o wahanol gyfeiriadau. Yn ogystal â'r uchod, mae ganddyn nhw anifeiliaid eraill, gan gynnwys gwartheg yr Ucheldir, gwartheg Belted Galloway, geifr, defaid, ieir a moch. Defnyddir y rhain ar gyfer gweithgarwch lleol a digwyddiadau addysgol a gynhelir ar y fferm i wella ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad pobl am amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.

Nod hirdymor y busnes yw cynyddu bioamrywiaeth, yn ogystal ag arallgyfeirio i gynhyrchu garddwriaeth.

Nod y prosiect yw profi llwybr i arddwriaeth drwy sefydlu menter Casglu Eich Hun, gan ganolbwyntio ar gynhyrchu pwmpenni. Bydd y prosiect hefyd yn archwilio lluosogi ar y safle yn ogystal â phrynu planhigion o blanhigfa, gan gymharu cost, sefydlu planhigion a chynnyrch. Bydd hefyd yn cymharu gwahanol ddulliau o atal chwyn ar draws y safle i ddeall beth sy’n gweithio orau ar gyfer sefydlu planhigion. Mae gan y fferm fynediad i wlân fel sgil-gynnyrch cneifio defaid. Bydd y gwlân yn cael ei brofi fel taenfa gynaliadwy ac ataliwr chwyn, ac fe’i cymharer ag ardal lle gosodir ataliwr plastig geodecstil. Er mwyn annog peillwyr a chynyddu bioamrywiaeth ar y fferm, bydd y prosiect yn cynnwys cyflwyno stribedi peillwyr ar y safle Casglu Eich Hun. Yn ogystal â bod yn fuddiol i beillio, bydd y stribedi hyn yn weledol apelgar i dwristiaid sy'n ymweld â'r safle yn ystod y tymor Casglu Eich Hun.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Ecosystemau gwydn
  • Effeithlon o ran adnoddau
  • Gwell mynediad ac ymgysylltu
     

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Rhyd y Gofaint
Deryl a Francis Jones Rhyd y Gofaint, Aberaeron, Gogledd
Cwmcowddu
Sian, Aled and Rhodri Davies Cwmcowddu, Llangadog, Gogledd Sir
Wallog
David Evershed Wallog, North Ceredigion Mae argaeledd dŵr yfed