24 Mawrth 2020

 

Mae yna gyfleoedd yn bodoli i ffermio ceirw yng Nghymru, ond mae un ffermwr da byw sy’n ystyried cynhyrchu cig carw yn dweud bod rhaid i ni beidio ag esgeuluso’r ffaith bod y costau sefydlu’n uchel a bod y galw amdano’n cyrraedd man gwastad.

Mae Keith Williams wedi bod yn archwilio i fanteision ac anfanteision cyflwyno ceirw fel y drydedd fenter ar ei fferm defaid a bîff.

Mae’n ffermio 800 o famogiaid a 20 o wartheg bîff ar fferm Hendy, sef fferm ucheldir 400 erw yn Hundred House ger Llandrindod.

Cafodd Keith ei berswadio i ystyried ffermio ceirw gan ei ferch ieuengaf. “Gyda’r sefyllfa wleidyddol bresennol a’r ansicrwydd am y dyfodol, roeddwn yn meddwl y byddai’n beth da i leihau ein dibyniaeth ar y farchnad ddefaid,” meddai.

Hefyd, dywedodd y gall ffermio ceirw ffitio’n dda o amgylch yr amseroedd prysurach sy’n gysylltiedig â ffermio bîff a defaid.

Cafodd Keith ei ariannu gan Raglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio i ymweld â ffermydd, lladd-dai a phrynwyr ceirw presennol yn yr Alban a rhannau arall yn y DU.

Yn ystod ei ymchwil, sylwodd Keith fod yr opsiynau ar gyfer marchnata cig carw yn eithaf cyfyngedig.

Waitrose yw’r prynwr blaenaf, gan ei fod yn talu oddeutu £5/kg o bwysau carcas. 

Mae cynhyrchwyr hefyd yn gwerthu’n uniongyrchol i’w cwsmeriaid neu drwy farchnadoedd ffermwyr. 

Tra bod gwerthiannau uniongyrchol yn cynnig prisiau uwch, mae angen ystyried y gost ychwanegol o brosesu’r cig, dosbarthu a bod yn bresennol mewn marchnadoedd ffermwyr.

Mae costau sefydlu yn uchel yn y diwydiant ffermio ceirw gan fod angen ffensio ac offer trin arbenigol. 

Darganfyddodd Keith mai costau ffensio oedd yn gyfrifol am y costau mwyaf wrth sefydlu fferm geirw, gyda chost o £10/metr.

Mae buddsoddi mewn stoc yn amrywio rhwng £450-£500 am ewig fridio a brynwyd rhwng 18-24 mis oed er mwyn bridio am y tro cyntaf. 

Bydd ewig yn byw am rhwng 14-16 o flynyddoedd, gyda photensial o gynhyrchu 12-14 elain. 

“Gallai carw dwy flwydd oed gostio rhwng £1,800 a £3,000, yn ddibynnol ar eneteg, statws iechyd a’i gyrn ac mae gan geirw fywyd gweithiol o tua 10 blynedd,” meddai Keith.

Mae rhai buddiannau sylweddol yn gysylltiedig â ffermio ceirw, megis anghenion llafur isel, lleiafswm triniaeth a phrinder problemau yn ystod genedigaeth.

Gan mai ychydig genedlaethau’n unig sydd ers i geirw symud o’r gwylltir, prin iawn yw’r problemau iechyd sy’n gysylltiedig â nhw oherwydd dethol naturiol. 

Hefyd, mae’r farchnad ar gyfer cig carw wedi bod yn tyfu 10% bob blwyddyn gan fod cwsmeriaid yn ei ddewis fel opsiwn sydd â llai o fraster na chigoedd eraill.

Ond, yn ychwanegol i’r gwariant cychwynnol uchel, mae yna rwystrau eraill yn gysylltiedig â ffermio ceirw. 

“Er bod y farchnad bresennol yn cynyddu 10% bob blwyddyn, mae’n ymddangos fel petai wedi cyrraedd man gwastad gyda rhestr aros i gyflenwi’r prif gwsmeriaid,” meddai Keith.

“Pe byddai cwsmer newydd yn dod i mewn i’r farchnad, byddai’n cael effaith enfawr arni.”

Gallai cyflenwad hefyd gynyddu gan fod niferoedd cenedlaethol ceirw yn dechrau lefelu a bod rhagor o elanedd yn dod mewn i’r gadwyn gyflenwi cig. 

Ystyriaeth arall yw cefnogaeth filfeddygol – os bydd unrhyw broblemau iechyd yn codi, dim ond ychydig o filfeddygon sydd â gwybodaeth helaeth am geirw.

Ers ei astudiaeth, mae Keith dal yn ystyried ei opsiynau.

“Fel y dywedodd un ffermwr ceirw wrtha i unwaith, mae’r enillion yn debyg i’r rhai ar ôl blwyddyn dda gyda defaid, dylid meddwl yn ddwys am y peth cyn buddsoddi arian a fenthycwyd,” meddai.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o