23 Rhagfyr 2019

 

Mae wedi bod yn flwyddyn brysur i Shaun Hall Jones, cigydd yng Nghaerdydd. Mae ei athroniaeth o’r fferm i’r fforc wrth werthu cynnyrch fferm o’r safon uchaf yng Nghymru wedi arwain at ddyblu maint y busnes eleni.

Mae Shaun, cyn-athro sy’n dod o Lanybydder yng Ngorllewin Cymru, yn bedwaredd genhedlaeth o’r teulu i ffermio a chynnal busnes bwtsiera. Agorodd ei siop gig gyntaf, ‘Oriel Jones, Ffermwr a Chigydd’, yn Nhreganna ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, yn gwerthu cig eidion gwartheg duon Cymreig, cig oen Cymru wedi’u magu ar eu fferm, porc a chywion ieir maes i siopwyr, cogyddion a bwytai arbennig yng Nghaerdydd.   

Y llynedd, lansiodd ei ail fusnes yn ardal ffasiynol Pontcanna yng Nghaerdydd. Mae’r siop yma hefyd wedi’i henwi ar ôl ei daid adnabyddus, Oriel Jones, sydd wedi ymddeol ers tro o fusnes bwtsiera y teulu yng Ngorllewin Cymru. Mae ffocws menter newydd Shaun ar werthu prydau parod fel caserol a tsili gyda phwyslais moesegol, yn ogystal â phasteiod cynnes a rholiau wedi’u llenwi.Yn ôl Shaun, y cwsmeriaid y mae'n eu targedu ym Mhontcanna yw’r rhai heb lawer o amser ond sydd eisiau bwys blasus o ansawdd, ac mae'n disgwyl Nadolig prysur iawn yn y ddwy siop!

“Roedd ein Nadolig cyntaf yn Nhreganna’n anhygoel. Roedd cwsmeriaid yn sefyll mewn rhes y tu allan i’r siop wrth iddyn nhw ddod i nôl eu harchebion. Ond diolch i’n staff arbennig, rydym yn gwybod ein bod yn gallu cadw ein holl gwsmeriaid yn hapus wrth iddyn nhw brynu cynnyrch ar gyfer y Nadolig yn y ddwy siop.”

Rhoddodd Shaun y gorau i’w yrfa fel athro ychydig o flynyddoedd yn ôl, er mwyn cynnal traddodiad y teulu a magu stoc arbennig ar fferm 361 hectar y teulu lle cedwir gwartheg a defaid yn Llygadenwyn yn Llanybydder. Mae’r rhan fwyaf o’r cynnyrch y mae Shaun yn ei werthu yn ei ddwy siop wedi’u magu naill ai ar fferm ei deulu ei hun neu ar ffermydd eraill y mae'n gweithio mewn partneriaeth â nhw yn Ne Orllewin Cymru, sy’n arddel a chynnal y safonau gorau posibl o ran lles anifeiliaid a gofalu am yr amgylchedd. Mae dulliau ffermio traddodiadol yn cael eu defnyddio law yn llaw â’r technegau a’r ymchwil gwyddonol gorau diweddaraf, sydd wedi galluogi i’r busnes teuluol hwn gynhyrchu dewis enfawr o gynnyrch Cymreig sydd wedi ennill gwobrau.      

Yn 2012, yn fuan ar ôl iddo ddychwelyd i ffermio’n llawn amser yn Llanybydder, penderfynodd Shaun fireinio ei sgiliau trwy wneud cais am le ar raglen Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth. Mae'n canmol rhaglen datblygu personol arloesol Cyswllt Ffermio, sy’n seiliedig ar tua thri chyfnod astudio byr ond llawn gweithgareddau, yn cynnwys ymweliad astudio tramor, am ei alluogi i neilltuo amser oddi wrth bwysau ffermio o ddydd i ddydd, i gyfarfod nifer o bobl fusnes ysbrydoledig a chynllunio ei yrfa ei hun yn y dyfodol.

“Trwy fod yn rhan o’r Academi Amaeth cefais yr amser oedd ei angen arnaf i ystyried fy nod tymor hir a bu i’r mentora a’r hyfforddiant a gefais, a’r rhwydwaith newydd o gysylltiadau gyflymu’r broses o benderfynu sefydlu fy musnes newydd fy hun yng Nghaerdydd.” 

Mae Shaun yn credu bod ei athroniaeth o’r fferm i’r fforc a phwyslais moesegol wrth ffermio wedi bod yn hollbwysig i’w lwyddiant. 

“Mae cwsmeriaid ym mhobman yn llawer mwy ymwybodol o’r amgylchedd a’r angen i’w ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

“Mae gwerthu anifeiliaid sydd wedi’u magu ar borfa o’r ansawdd gorau yng Nghymru, a gwybod eu bod yn cael eu ffermio i’r safonau uchaf, yn golygu bod tarddiad yr anifeiliaid yn hysbys ym mhob cam o’r gadwyn gyflenwi ac mae’n rhoi’r sicrwydd y mae cwsmeriaid yn gofyn amdano.” meddai Shaun. 

“Roedd dechrau busnes bwtsiera newydd yng Nghaerdydd, lle mae marchnad cig a chynnyrch gwych eisoes yng nghanol y ddinas, yn ogystal â nifer o siopa cigyddion annibynnol llwyddiannus a’r holl fanwerthwyr mawr, yn teimlo fel breuddwyd hynod anodd, bron yn amhosibl, ond rwy’n falch fy mod wedi cael yr hyder i fynd amdani.

“Fel cyn athro, rwy’n deall pwysigrwydd dysgu gydol oes a datblygiad proffesiynol parhaus, felly rwyf bob amser yn barod i groesawu syniadau newydd, yn awyddus i ddod o hyd i ffyrdd mwy effeithlon o weithio a manteisio ar gyfleoedd busnes newydd, gan ganolbwyntio, yr un pryd, ar y materion amgylcheddol ehangach.

Credaf yn gryf mai’r busnesau fferm sy’n datblygu ac yn llwyddo fwyaf yw’r rhai sy’n cael eu rhedeg gan unigolion sy’n fodlon datblygu eu sgiliau personol eu hunain, sydd yn ei dro’n eu helpu i ddatblygu sgiliau busnes mwy uchelgeisiol.  Mae Shaun yn awyddus i annog eraill i ymgeisio am yr Academi Amaeth.

“Gallai Academi Amaeth Cyswllt Ffermio, trwy ei raglen hyfforddi, mentora, cefnogi ac arwain unigryw sydd wedi’i noddi’n llawn, ac efallai’n bwysicach na dim, trwy’r cyfleoedd rhwydweithio, roi cyfle i chi newid eich bywyd, felly fy nghyngor yw, ymgeisiwch cyn gynted â phosibl!” 

Bydd cyfnod ymgeisio ar gyfer Academi Amaeth 2020 yn agored 9am, 20 Ionawr tan 11:59pm, 31 Mawrth.

Am wybodaeth bellach a meini prawf cymhwysedd, cliciwch yma.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter