25 Mai 2022
Mae’r hyn a gychwynnodd fel prosiect teuluol yn y cyfnod clo i gwpl yn Sir Ddinbych, i feithrin diddordeb mewn tyfu yn eu tri phlentyn ifanc, wedi datblygu’n fenter casglu eich hun lwyddiannus gan werthu blodau, ffrwythau a phwmpenni.
Mae Siôn a Lucy Owens yn cadw diadell fach o ddefaid, ac mae ganddyn nhw swyddi eraill hefyd – Siôn yn gyfrifydd i gwmni o arwerthwyr amaethyddol, ac mae Lucy’n gweithio yn adran farchnata a gwerthu cigydd.
Ym misoedd cyntaf y pandemig, fe wnaethant ddechrau tyfu blodau yn eu cartref ger Rhuthun, i’w gwerthu o giât yr ardd.
“Roedd y plant i gyd gartref, ac roedd yn brosiect yr oedden ni i gyd yn gallu cymryd rhan ynddo,” esbonia Lucy.
Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, cynigwyd 1.6 erw o dir i’w rentu yng Nghae Derw, ac aeth eu prosiect ar raddfa fechan yn un llawer mwy, gyda mewnbwn a chefnogaeth gan Cyswllt Ffermio.
“Roedd yn fwy o dir nag yr oedden ni wedi bwriadu ei gymryd, ond roedd mewn lle perffaith yn ymyl y ffordd, felly’n lle delfrydol ar gyfer casglu eich hun,” meddai Lucy.
Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r farchnad honno, daeth y prosiect garddwriaeth yng Nghae Derw yn Brosiect Safle Ffocws i Cyswllt Ffermio, a chofrestrodd Lucy hefyd ar gyfer nifer o weminarau Cyswllt Ffermio, gyda’r arbenigwyr yn cynnwys Chris Creed o ADAS yn rhoi cyngor. Derbyniodd gefnogaeth dechnegol un i un hefyd fel rhan o’r prosiect.
“Roeddem eisoes wedi penderfynu tyfu blodau, ond roeddem yn gwybod bod arnom angen rhywbeth arall, hefyd,” meddai Lucy.
“Roedd y gweminarau a’r gefnogaeth arbenigol yn ddefnyddiol iawn, gan mai’r cyngor oedd cadw pethau’n eithaf syml, tyfu ychydig o’r cnydau mwyaf proffidiol, yn hytrach na llawer o bethau.”
Er mwyn cadw’r fenter mor gynaliadwy â phosibl, dewisodd Lucy ddefnyddio’r dull ‘dim tyllu’ (heblaw bod y pridd mewn rhai adrannau yn cael ei droi unwaith ar y dechrau’n deg, i roi wyneb mwy gwastad).
Trwy beidio tyllu mae micro-organebau llesol, pryfaid genwair a ffwng yn cael cyfle i ffynnu, gan hyrwyddo iechyd y pridd, a hefyd helpu i reoli chwyn trwy beidio â chodi rhagor o hadau chwyn iddynt egino.
Nid yw’r teulu Owens wedi mynd am ardystiad organig oherwydd maent yn dweud nad yw cofrestru yn ddichonol yn ariannol ar eu graddfa nhw, felly maent wedi dewis athroniaeth ‘tyfu’n naturiol’.
“Roedd arnom angen tail i gynyddu lefelau’r cynnwys organig yn y pridd, felly fe wnaethom ystyried a ddylem gludo tail organig oddi ar fferm sy’n bell oddi wrthym, neu ddefnyddio tail o’r fferm laeth gonfensiynol drws nesaf. O safbwynt amgylcheddol, roedd yn ymddangos yn synhwyrol defnyddio’r adnoddau oedd agosaf atom,” meddai Lucy.
Maen nhw hyd yn oed wedi defnyddio cnu eu defaid i atal chwyn fel rhan o gynllun treialu Cyswllt Ffermio, a bu hyn yn effeithiol iawn.
“Fe fydd angen i ni gneifio’r defaid eto’n fuan i ychwanegu ato!” meddai Lucy.
Yn hydref 2021, agorodd y teulu eu drysau ar gyfer pwmpenni casglu eich hun, gan gynnig pob math ohonynt, o’r pwmpenni â’r enwau addas ‘Polar Bear’ (rhai mawr gwyn) a Knucklehead, i’r rhai bychain math gowrd.
Roedd yn llwyddiant mawr, a bydd hyn yn cael ei ailadrodd eto eleni.
Mae’r blodau a’u mafon cochion sy’n rhoi ffrwythau yn yr hydref wedi bod yn boblogaidd, hefyd – ym mis Ebrill, roedd yr ymwelwyr yn mwynhau casglu tiwlips am y tro cyntaf.
Maen nhw hefyd yn cynnig cyfle i blant ddysgu rhagor am dyfu, gan rannu’r profiadau y mae eu tri phlentyn nhw - Betrys, Rolant a Cledwyn - wedi eu mwynhau trwy lansio ‘Criw Tyfwyr Bach’.
“Cynhaliwyd ein sesiwn gyntaf ar Ddydd Gwener y Groglith, yn plannu pwmpenni ac yn cerdded o gwmpas y cae, yn dysgu am natur a thyfu a gwneud gweithgareddau eraill,” meddai Lucy.
Mae’n cyfaddef ei bod wedi bod yn bleser rhannu’r ardd gydag eraill: “Dwi ddim yn ffysi am ble a beth y gall pobl eu casglu - dyna pam bod y blodau yna - ac rwyf yn tyfu llawer o fathau ‘torri a thyfu eto’, felly bydd yr hyn sy’n cael ei gasglu un wythnos yn ôl eto'r wythnos nesaf.”
Ymhlith y mathau sydd wedi tyfu’n dda mae cosmos, dahlias a thrwyn y llo.
Dywed Lucy fod y gefnogaeth a gafodd gan Cyswllt Ffermio wedi bod yn amhrisiadwy, ac mae wedi rhoi’r hyder iddi i ddatblygu’r busnes a threialu syniadau newydd. Roedd hi wedi bod yn rhan o Academi Amaeth Cyswllt Ffermio yn y gorffennol.
Ond ni fu’r fenter yn un heb ei heriau. Mae plâu (gwlithod yn bennaf) wedi bod yn broblem fawr. Ond, maen nhw’n dysgu wrth fynd, a 2022 fydd y prawf cyntaf gwirioneddol, i sefydlu a all y busnes fod yn hyfyw yn ariannol er mwyn i gyfran fwy o’r wythnos waith gael ei rhoi iddo.
“Mae’n waith caled, allwn ni ddim gwadu hynny – roedd y tiwlips yr ydym wedi bod yn eu gwerthu yn ddiweddar wedi eu plannu yn yr eira – ond byddwn yn parhau i’w gyfuno â’n gwaith nes bydd yr ochr ariannol yn dod yn fwy cynaliadwy,” meddai Lucy.
Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.