23 Ionawr 2023

 

Mae Rhian Pierce yn wybodus, yn gymwys ac yn ffermwr bîff a defaid galluog iawn sy’n ffermio ochr yn ochr â’i thad ym Mhlas Dolben, Llangynhafal yn Sir Ddinbych.  Wrth i Mr Pierce leihau’r amser y mae’n ei dreulio ar y fferm ac edrych tuag at ymddeoliad, a allech chi fod y person iawn i ffermio ochr yn ochr â’i ferch? 

Yn y gorffennol, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur, mae Rhian wedi dibynnu ar ddod â gweithwyr fferm achlysurol i mewn a’u hyfforddi i’w helpu hi a’i thad i redeg Plas Dolben.  Nawr, yn benderfynol o gynnal y safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid a’r amgylchedd sy’n rhan o’i hathroniaeth ar redeg busnes fferm effeithlon, cynaliadwy a phroffidiol, mae’n credu y bydd trefniant ffermio cyfran yn darparu’r ateb perffaith, yn y tymor byr a’r tymor hir. 

Mae Rhian wedi cysylltu â rhaglen Mentro hynod lwyddiannus Cyswllt Ffermio, sy’n paru tirfeddianwyr sydd am gamu’n ôl o’r diwydiant neu adael y diwydiant â newydd-ddyfodiaid ifanc sy’n awyddus i ennill eu plwyf.  Os bydd y person iawn - mae Rhian yn hapus i hyfforddi unrhyw un sydd heb brofiad ffermio ymarferol yn barod - yn dod ymlaen a’u bod nhw’n addas, bydd Mentro’n darparu cefnogaeth, arweiniad a mentora i’r ddwy ochr yn ogystal â chyngor ariannol a chyfreithiol.

Gyda rôl gadwraeth ran-amser i ffwrdd o’r fferm, mae Rhian yn gobeithio y bydd ei chynnig ffermio cyfran yn apelio at rywun sydd am gymryd rhan yn rhan amser yn y lle cyntaf, gyda’r bwriad o gael cyfle llawn amser o fewn pum mlynedd.

“Os yw’r trefniant yn addas i’r ddwy ochr, rwy’n rhagweld amser dros y pum mlynedd nesaf, fwy neu lai, pan gallaf gamu’n ôl o rai o’r tasgau fferm mwy caled yn gorfforol i ddilyn diddordebau eraill, felly yn y bôn, fi fydd y ffermwr rhan-amser wedyn gan helpu yn ôl yr angen.

Mae Plas Dolben yn ddaliad bîff a defaid 100 erw sy’n rhannol ucheldirol wedi’i leoli ar Fryniau Clwyd ysblennydd. Mae’r fferm wedi’i lleoli yr un pellter rhwng Rhuthun a Dinbych, sydd ill dau yn 10 munud i ffwrdd mewn car. Mae gan y teulu Pierce hefyd hawliau pori i 200 erw o dir comin gerllaw.  

“Rwy'n gobeithio y bydd Mentro yn dod o hyd i bartner busnes brwdfrydig o'r un anian â fi sy'n gwerthfawrogi fy ymrwymiad i rannu fy ngwybodaeth am ffermio modern gyda'r cyhoedd ehangach, ac yn enwedig gyda phlant ysgol,” meddai Rhian.  

Mae Rhian yn bwriadu parhau i gynnal Diwrnodau Agored ac ymweliadau ysgol ym Mhlas Dolben, pan fydd ymwelwyr yn cael eu gwahodd i weld o ble mae eu bwyd yn dod a dysgu drostynt eu hunain pa mor fuddiol yw trin a gweithio gyda da byw fferm yn bwyllog ac yn dawel, er mwyn diogelu bioamrywiaeth ac i drin yr amgylchedd gyda pharch.  

Mae'r fferm yn cynnwys buches o 60 o wartheg croes British Blue, wedi'u prynu yn yr hydref yn bedair i chwe wythnos oed, eu pesgi a'u gwerthu fel stôr yn 20 mis oed.  Mae yna hefyd 350 o famogiaid croes Llŷn, i gyd yn cael eu pesgi ar y fferm a’u gwerthu mewn marchnadoedd lleol neu ar ffurf blychau cig yn uniongyrchol i’r cyhoedd.  Mae yna hefyd ddwy hwch Gymreig croes 'Large White' sy'n geni perchyll ddwywaith y flwyddyn.  

“Mae digon o gyfle i ffermwr cyfran newydd gynyddu cyfraddau stocio heb effeithio ar ein system ffermio mewnbwn isel - allbwn uchel bresennol, gyda stoc yn cael eu bwydo’n bennaf ar 50 erw o wair neu silwair rydyn ni’n eu cynaeafu ein hunain,” meddai Rhian.

Mae samplu pridd yn rheolaidd a defnydd wedi’i dargedu o galch a thail ieir wedi'i wasgaru dros y clytwaith o gaeau bach, yn golygu bod caeau'n cael eu gorffwys yn rheolaidd gyda phorfa o'r ansawdd uchaf gan wneud y fferm bron yn hunangynhaliol heb fawr o angen prynu porthiant.  

Mae gan y fferm ystod eang o beiriannau ac offer trin sy'n cael eu cynnal a'u cadw'n dda i ffermio'n effeithlon ac yn ddiogel ac mae digon o adeiladau allanol, corlannau trin a buarthau i ymdopi â'r lefelau stocio presennol ac arfaethedig. 

Dywed Rhian ei bod yn hanfodol bod y ffermwr cyfran newydd yn garedig a thawel wrth drin, magu a bugeilio da byw, gan osod esiampl dda i ymwelwyr; gallu gyrru a thrin peiriannau fferm yn effeithlon ac yn ddiogel ac wedi ymrwymo i'w delfrydau ar iechyd a lles anifeiliaid a diogelu'r amgylchedd. 

“Yn bwysicaf oll, rwy’n chwilio am rywun brwdfrydig a galluog, sy’n barod i weithio, yn agored a gonest gydag agwedd hyblyg at helpu ar adegau prysur fel wyna, cynaeafu ac yn ystod ymweliadau fferm.” 

Mae digon o le i ffermwr cyfran newydd gyflwyno systemau neu fentrau newydd priodol a allai gynnwys cynyddu lefelau stocio, dod o hyd i ffyrdd o ddefnyddio’r siediau gwartheg gwag yn yr haf, ac o bosibl datblygu menter blychau cig sy’n cael ei marchnata drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

“Byddwn yn croesawu’r cyfle i roi cyfle i newydd-ddyfodiaid nid yn unig helpu gydag ochr ymarferol gwaith fferm ym Mhlas Dolben, ond i gymryd rhan mewn penderfyniadau strategol hefyd.

“Rwy’n fwy na pharod i helpu’r unigolyn cywir i ennill sgiliau newydd a chael mwy o brofiad, ond byddaf hefyd wrth fy modd os byddant yn dod â syniadau newydd ac awgrymiadau am ffyrdd gwahanol neu well o weithio a allai fod o fudd i’r busnes yn y tymor hwy, ” meddai Rhian.

I fynegi diddordeb yn y cyfle hwn, lawrlwythwch ffurflen gais o dudalen we Mentro dim hwyrach na 10yb ar Ddydd Gwener 10 Chwefror.  Fel arall, ffoniwch Gwydion Owen, Swyddog Mentro Gogledd Cymru ar 07498 055 416 neu e-bostiwch: gwydion.owen@menterabusnes.co.uk

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru - ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Agrisgôp yn helpu ffermwyr defaid sy'n ceisio datblygu geneteg diadell
24 Awst 2023 Mae geneteg newydd i helpu i symud datblygiad defaid
Trosi ysgubor enfawr yn Sir Drefaldwyn yn llwyddiant ysgubol diolch i gymorth busnes gan Cyswllt Ffermio
12/07/2023 "Roedd eu gwytnwch yn amlwg iawn a'u dewrder yn talu
Mae cofnodi perfformiad yn cyflymu cynnydd genetig ac allbwn mewn diadell fynydd yng Nghymru, gyda chynnydd yn cael ei wneud ar y pen uchaf yn treiddio trwy'r ddiadell gyfan o anifeiliaid pedigri a masnachol.
25 Mai 2023 Mae Edward Williams a’i rieni, Glyn a Lynne, wedi