14 Medi 2020

 

Mae’r ffermwr defaid o’r drydedd genhedlaeth, Wyn Williams o Lanfair Caereinion yn gwybod llawer am ffermio defaid.  Erbyn hyn, diolch i fodylau hyfforddi e-ddysgu ar-lein Cyswllt Ffermio sydd wedi eu hariannu’n llawn mae’n gwybod llawer mwy!  Magwyd Wyn ar y fferm deuluol ychydig filltiroedd o lle mae’n byw. Heddiw, ar ei fferm fynydd, sy’n amrywio o 1,100 i 1,300 troedfedd o uchder, mae’n cadw 500 o famogiaid croes penfrith yn bennaf a 200 o ŵyn benyw sych.   

Mae Wyn wedi bod yn defnyddio unrhyw amser sbâr sydd ganddo i gael gwybodaeth newydd trwy Cyswllt Ffermio. Dilynodd fodiwlau e-ddysgu ar bynciau yn amrywio o ddynodi a thrin afiechydon mewn defaid i reoli llyngyr, cloffni, ymwrthedd gwrthficrobaidd a bioddiogelwch.    

Dywed Wyn ei fod bob amser wedi tybio nad oedd ganddo'r angen na'r amser i gymryd rhan mewn astudio, am na chafodd gyfle i ddilyn ochr academaidd amaethyddiaeth, roedd ganddo bryderon nad oedd yn gwybod am y cyfarwyddyd mwyaf cyfredol a’r arferion gorau.

Fe’i darbwyllwyd gan ei swyddog datblygu lleol, Owain Pugh, i gofrestru ar gyfer BOSS, Gwasanaeth Cefnogi Ar-lein i Fusnes Llywodraeth Cymru trwy Sign On Cymru, sef y llwybr ar gyfer dewis a chael mynediad i restr Cyswllt Ffermio o fwy na 80 o gyrsiau e-ddysgu.

“Ar ôl cwblhau fy nghwrs e-ddysgu cyntaf ar atgenhedlu tymhorol mewn mamogiaid mewn llai nag awr, a oedd yn cynnwys cwis byr i asesu beth oeddwn i wedi ei ddysgu, roeddwn wrth fy modd.”     

Bellach, mae Wyn yn gweithio trwy bob modwl yn ymwneud â defaid sydd ar gael trwy Cyswllt Ffermio. Ar ôl iddo eu cwblhau i gyd, mae’n bwriadu symud ymlaen i gyrsiau ar-lein ar laswelltir a rheoli busnes. 

Dywed Wyn fod pob modiwl yn cynnwys cyngor ymarferol iawn a’i fod bob amser yn gallu ei gymhwyso i’r materion mae’n ei brofi ar y fferm o ddydd i ddydd, gan ei gynorthwyo i wneud gwell penderfyniadau a dewisiadau. 

“Mae’n ffordd mor hawdd o gael mwy o wybodaeth, wedi ei gyflwyno ar yr union lefel gywir ac rydych yn dysgu ar eich cyflymder eich hun.” 

“Rwyf wedi arbed llawer o amser ac arian trwy ystyried y dewisiadau ar gyfer gwahanol gyfnodau peidio gwerthu ar ôl defnyddio dos.  Trwy gael y wybodaeth berthnasol yn hawdd ei chyrraedd, rwy’n gallu symud y stoc ymlaen cyn gynted ag y byddant yn barod”.

Mae pob modiwl e-ddysgu rhyngweithiol yn cymryd tua 20-30 munud i’w cwblhau, a gallwch ail wneud y modiwlau nes eich bod yn hyderus bod yr holl ffeithiau sydd arnoch eu hangen ar gael ar flaen eich bysedd.  Ceir cwis byr ar ddiwedd bob un a fydd yn dangos unrhyw agweddau y gallech fod yn dymuno ail-edrych arnynt. Am drosolwg cryno o dros 80 o’r pynciau sydd a’r gael a’r hyn sy’n cael ei drafod ym mhob un, cliciwch yma.

Er mwyn cwblhau cyrsiau e-ddysgu ar lein, mae angen i chi fod wedi cofrestru eich cyfeiriad e-bost unigol gyda Cyswllt Ffermio a mewngofnodi i BOSS (Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein) drwy Sign On Cymru.  Yna, gallwch ddewis y modiwl/modiwlau e-ddysgu sydd arnoch ei angen/eu hangen. Os oes angen cymorth gydag unrhyw ran o’r broses, gallwch gysylltu â’ch swyddog datblygu lleol neu Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio. 

Ar ddiwedd pob cwrs e-ddysgu a gwblheir gennych, bydd ‘Tystysgrif gwblhau’ yn cael ei huwch lwytho i’ch cofnod Storfa Sgiliau personol ar-lein, sef eich cofnod o ddatblygiad proffesiynol parhaus, ar eich rhan.

I gael rhagor o wybodaeth am sgiliau a hyfforddiant Cyswllt Ffermio, cliciwch yma.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o