19 Rhagfyr 2018

 

neil evans with farmers at sdct event 0
Torrodd newid o drin pob anifail â gwrthfiotig wrth eu sychu i dargedu buchod sydd ei angen yn unig y defnydd o wrthfiotig ar fferm laeth yng Nghymru o fwy na thraean.

Yn draddodiadol mae’r cyfnod sychu wedi golygu defnyddio gwrthfiotig yn y gadair/pwrs i’r buchod i gyd i drin ac atal heintiadau newydd rhag datblygu yn ystod y cyfnod sych.

Ond mae llawer o brynwyr llaeth yn awr yn gosod safonau newydd ar ddefnyddio gwrthfiotigau mewn buchod sych, gan gynnwys gofyn i ffermwyr osod strategaethau yn eu lle ar gyfer mabwysiadu therapi i fuchod sych dethol (SDCT).

Roedd Neil a Diane Evans, sy’n cadw buches odro yn unig (flying herd) gynhyrchiol iawn o 180 o Friesians Holstein ar system loea trwy’r flwyddyn, wedi bod yn rhoi tiwbiau i’r buchod i gyd wrth eu sychu gyda gwrthfiotig nes iddynt dreialu SDCT fel rhan o brosiect Cyswllt Ffermio.

“Mae gwrthfiotigau yn trin llu o bechodau, rydych yn gwybod eich bod yn ddiogel os bydd buwch wedi cael gwrthfiotig wrth sychu, ond mae’r byd yn symud ymlaen,” dywedodd Mr Evans, o Fferm Holebrook, Wrecsam.

Mae Fferm Holebrook yn Safle Ffocws Cyswllt Ffermio ac, fel y cyfryw, trefnwyd cynllun treialu i astudio effeithiolrwydd therapi buchod sych dethol yn y fuches.

Dywedodd Rhys Davies, Swyddog Technegol Llaeth Cyswllt Ffermio yng Ngogledd Cymru, a gynlluniodd ac a fu’n goruchwylio’r prosiect, bod Mr Evans wedi ystyried defnyddio’r therapi yn y gorffennol ond ei fod yn nerfus am neidio i’r dwfn.

Yn ystod y cynllun treialu, a gychwynnodd ym Mawrth 2018, cefnogwyd Mr Evans gan ei bractis milfeddygol, LLM Farm Vets, i asesu’r cofnodion cyfrif celloedd ac i ddethol y buchod addas ar gyfer y therapi.

“Mae data cofnodi misol llawn, a chofnodion trin mastitis cywir, yn hanfodol wrth adolygu Cyfrif Celloedd Somatig yn ystod y llaethiad presennol a rhai blaenorol,” esboniodd Mr Davies.

Er mwyn penderfynu pa driniaeth i’w defnyddio ar gyfer buchod unigol, cesglir samplau mastitis clinigol o’r buchod ac fe’u dadansoddir yn labordy LLM. Mae’r canlyniadau yn dynodi’r pathogenau sy’n achosi mastitis.

Dywed milfeddyg y fferm, Sarah Hampson, a arweiniodd weithdy Therapi Buchod Sych Dethol ar Fferm Holebrook, bod profi yn pennu pa ddull o drin sy’n angenrheidiol.

Penderfynwyd na ddylid defnyddio’r therapi mewn buchod â chyfartaledd cyfrif celloedd somatig trwy eu llaethiad o fwy na 100,000 o gelloedd/ml, neu’r rhai oedd ag achos clinigol o fastitis yng nghyfnod olaf eu llaethiad.

Mae Mrs Hampson yn argymell dull gofalgar o ddefnyddio’r therapi, yn arbennig wrth ei weithredu am y tro cyntaf.

“Mae’n ddethol am reswm. Mewn achosion pan welwyd trychinebau, fe ddigwyddodd hynny pan wnaeth ffermwyr neidio i mewn heb wirio lefelau’r mastitis yn y buchod unigol.”

Os oes gennych unrhyw amheuaeth, defnyddiwch wrthfiotigau, ychwanegodd. “Os oes heintiad a chithau’n defnyddio seliwr yn unig byddwch yn cau’r heintiad i mewn.

“Ni ddylid defnyddio’r therapi mewn buchod â staph aureus, nes bydd yr hyn sy’n ei achosi wedi cael ei drin.”

Gan fod prynwyr llaeth yn aml yn gofyn am ostyngiad bob yn gam yn y defnydd o wrthfiotig, mae cychwyn yn bwyllog yn synhwyrol os ydych am gyflawni’r nodau, mae’n awgrymu.

Ar gyfer y cynllun treialu ar Fferm Holebrook, roedd pob buwch oedd yn cael ei thrin â gwrthfiotig buwch sych yn cael seliwr hefyd a dim ond seliwr oedd yn cael ei roi i fuchod â chyfrif celloedd isel.

Rhoddwyd sgôr blaen teth ar yr holl fuchod wrth eu sychu - roedd pob anifail â niwed i’r deth neu ddefaid yn cael eu trin â gwrthfiotig a seliwr beth bynnag oedd y niferoedd o gelloedd.

Mae’r cyfraddau heintio ar gyfartaledd yn y llaethiad nesaf yn dangos ychydig iawn o wahaniaeth yn y cyfrif celloedd rhwng buchod â’rr seliwr a’r rhai â gwrthfiotig.

Ar gyfartaledd, o’r buchod y rhoddwyd seliwr i gychwyn iddynt, gwelodd 76% ostyngiad yn y cyfrif celloedd a 24% yn gweld cynnydd.

O’r rhai y rhoddwyd therapi buchod sych gwrthfiotig, gwelodd 72% ostyngiad yn y cyfrif celloedd a 28% yn gweld cynnydd.

Yn ôl Mr Evans, yr unig achos mewn buchod newydd loea o fastitis a gafodd driniaeth oedd buwch oedd wedi cael gwrthfiotig buchod sych.

“Fel y byddech chi’n disgwyl, gwelodd y buchod a ddewiswyd ar gyfer therapi buchod sych dethol ostyngiad sylweddol yn y cyfrif celloedd ac mae’n dangos gwerth trin problemau’r gadair/pwrs yn y cyfnod buwch sych,” dywedodd Mrs Hampson.

Gostyngodd y defnydd o diwbiau gwrthfiotig buchod sych rhwng Mawrth ac Awst 2018 o 39.5% - sy’n cyfateb i diwbio 28 yn llai o fuchod gyda 112 tiwbiau buwch sych - mewn cymhariaeth â’r un cyfnod yn 2017.

I fuchod oedd â chyfartaledd isel o gelloedd somatig yn ystod y llaethiad ond oedd yn cyrraedd 200,000 o gelloedd/ml neu uwch ar un cofnod, defnyddiwyd dull newydd o ddynodi mastitis is-glinigol mewn chwarteri unigol.

Mae dadansoddiad Qscout yn dangos y chwarteri sydd â nifer uwch o gelloedd o fath arbennig a’r gymhareb rhwng y mathau o gelloedd; mae’n caniatáu diagnosis cywir, ar lefel chwarter sy’n golygu mai dim ond y rhain sydd angen eu trin yn ystod y llaethiad ac wrth sychu.

Ceir y canlyniadau ar unwaith ac maent yn amlygu chwarteri unigol sydd â chyfrif celloedd uchel cyn sychu, dywed Natalie Parker, technegydd milfeddygol gydag LLM, a wnaeth y profion a’r sychu buchod wythnosol trwy gydol y cynllun treialu ar Fferm Holebrook.

“Er mwyn bod yn ofalus, rhoddwyd triniaeth i’r pedwar chwarter gyda thiwb buwch sych a seliwr yn ystod y cynllun treialu ond y nod yn y dyfodol yw rhoi tiwb a selio’r chwarteri sy’n dioddef yn unig â’r ddwy driniaeth,” ychwanegodd.

Mae cadw cofnodion o’r buchod sydd wedi eu trin, chwarteri wedi eu heintio yn arbennig, yn allweddol wrth geisio gweld a oes patrwm, meddai Mrs Parker.

Mae cyngor a chefnogaeth dda gan filfeddyg yn allweddol i therapi llwyddiannus, dywedodd Mr Evans. “Mae’r ochr hyfforddi i’r peth yn bwysig, i sicrhau eich bod yn ei wneud yn iawn ac yn ddethol.

“Mantais y prosiect yw ei fod wedi cael ei wneud yn iawn gan wasanaeth VetTech LLM. Mae’r protocolau yn bwysig iawn.”

Mae therapi buchod sych dethol yn awr yn rhan o’i brotocolau sychu. “Byddwn yn parhau i gael rhywfaint o gyfraniad gan ein milfeddygon, mae’n fuddsoddiad gwerth ei wneud i gael tawelwch meddwl,” awgrymodd Mr Evans.

Yng Nghymru mae Cyswllt Ffermio yn rhedeg cyfres o weithdai ar y cyd â milfeddygon lleol, ar ddefnydd priodol o wrthfiotig, cadwch lygad allan am rhain ar ein tudalen digwyddiadau.

Roedd Rhys Davies yn annog ffermwyr i fynd iddynt.

“Bydd y rhain yn ystyried y camau ymarferol y gall ffermwyr a milfeddygon eu cymryd i ddangos defnydd mwy cyfrifol o wrthfiotigau,” dywedodd

 

PANEL

 

PROTOCOLAU ARFER GORAU WRTH SYCHU

Mae glendid gofalus yn hanfodol wrth sychu gan ei bod yn gyffredin i heintiad gael ei gyflwyno yn ystod y cyfnod hwn.

Mae peidio â rhoi seliwr tethi yn lanwaith yn creu risg o fastitis, rhybuddiodd Mrs Parker.

“Os byddwch yn colli buwch ar ôl therapi buchod sych dethol mae hynny fel arfer am eich bod wedi cyflwyno heintiad ar yr adeg hon,” dywedodd.

“Nid yw selwyr yn rhad ond os cewch chi smotyn o faw ar y tiwb, os bydd buwch yn cicio a’i fod yn cyffwrdd ei choes, er enghraifft, peidiwch â’i ddefnyddio, defnyddiwch un arall. Rhaid i chi ystyried gwerth y fuwch mewn cymhariaeth â gwerth y tiwb.”

Nid yn unig dylai’r buchod fod mor lân â phosibl, ond rhaid i’r ardal drin a’r unigolyn sydd yn trin fod yn lân a sych hefyd.

Gall gweithwyr ychwanegol fod yn ddefnyddiol, ac ni ddylid brysio’r gwaith, meddai Mrs Parker. “Peidiwch â sychu’r buchod ar ddiwrnod pan fydd yn rhaid i chi frysio, mae’r buchod olaf i gael eu trin yr un mor bwysig a gwerthfawr a’r rhai cyntaf.”

I gychwyn y broses, trochwch y cadeiriau a’u sychu ag anaesthetig unigol, gan weithio o’r tethi pellaf i’r rhai agosaf.

Sychwch flaen y tethi yn unigol â gwlân cotwm wedi ei fwydo mewn gwirod llawfeddygol, y deth agosaf yn gyntaf; ar ôl i’r tethi gael eu sychu, rhowch y tiwbiau a gweithio o’r deth agosaf at y rhai pellaf.

Ar gyfer y buchod hynny a ddynodwyd fel rhai sydd angen seliwr yn unig, rhowch y seliwr gan ddefnyddio’r dechneg gywir, gan ofalu nad ydynt yn cael eu tylino i’r gadair/pwrs trwy ddal rhan uchaf y deth.

Rhowch diwbiau gwrthfiotig i fuchod a ddynodwyd fel rhai sydd angen triniaeth ac yna seliwr.

Trochwch y tethi i gyd.

Rhowch dâp ar gynffonau’r buchod sydd wedi cael triniaeth i sicrhau eu bod yn hawdd eu hadnabod wrth loea.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y