Elen Pencwm
Enw: Elen Pencwm
E-bost: elen.pencwm@agrisgop.cymru
Rhif ffôn: 07572 679624
Lleoliad: Ceredigion/De-orllewin Cymru
Arbenigedd: Datblygiad personol
- Merch fferm yw Elen Pencwm sydd bellach yn byw yn Llanfihangel y Creuddyn, Aberystwyth. Astudiodd Elen am radd Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, cyn symud i Gaerdydd lle bu’n cynhyrchu ac yn cyflwyno nifer o raglenni teledu a radio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Fodd bynnag, roedd Elen yn hiraethu am gefn gwlad a doedd dim dewis ond symud nôl i Geredigion gyda’r nod o fagu teulu a gweithio ar ran ‘cefn gwlad Cymru’ – asgwrn cefn Cymru wledig – sy’n agos iawn at ei chalon.
- Mae Elen yn ei helfen yng nghwmni pobl eraill. Mae’n hi’n mwynhau bod yng nghanol pobl ac mae ganddi sgiliau gwych i gymell ac annog pobl i fod yn uchelgeisiol a ‘meddwl yn agored a chreadigol’, yn enwedig y bobl hynny sy’n gweithio yn y diwydiannau amaethyddol a chefn gwlad. Mae Elen yn mwynhau helpu pobl i greu prosiectau newydd ac mae hi’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddod â grwpiau o unigolion o’r un anian ynghyd drwy Agrisgôp i greu neu weithio ar brosiect fydd yn dod â budd i’w bywydau a’r economi wledig.
- Fel siaradwr Cymraeg a Saesneg rhugl, mae Elen eisoes wedi arwain nifer o grwpiau Agrisgôp yn ei hardal leol, ac mae hi’n adnabyddus am ei brwdfrydedd, ei gwybodaeth am y Gymru wledig a’i gallu i annog aelodau ei grŵp i ‘gyflawni pethau mawr’, drwy ddysgu gan ei gilydd a meithrin yr hyder i roi cynlluniau a syniadau ar waith. Fydd dim amser yn cael ei golli os byddwch yn aelod o un o grwpiau Elen – bydd ei brwdfrydedd a’i hegni yn eich ysgogi i weithredu. Bydd yn eich helpu chi ac aelodau’r grŵp i ddysgu oddi wrth eich gilydd a’r cyngor arbenigol y bydd hi’n ei drefnu ar eich cyfer. Bydd eich syniadau busnes da yn siŵr o gael eu gwireddu!
- “Yma yng Nghymru, rwy’n gwybod bod gennym y cynnyrch gorau, digon o bobl â syniadau gwreiddiol a’r penderfyniad sydd ei angen i greu busnesau a chymunedau gwledig llwyddiannus.”
- “Fel Arweinydd Agrisgôp, rwyf yma i gefnogi a hwyluso’r daith. Gall unrhyw beth ddatblygu o sgwrs fer ac rwy’n edrych ymlaen i sgwrsio gyda chi!”
Busnes fferm presennol:
- Yn ffermio tyddyn 23 erw gydag aelodau o’r teulu sy’n cynnwys menter glampio
Profiad, sgiliau, cymwysterau perthnasol
- B.A (Anrhydedd) Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau, Coleg y Drindod Caerfyrddin, 1993
- Cynhyrchydd teledu ar gyfer BBC Cymru, S4C – o raglenni plant i raglenni materion gwledig/cefn gwlad.
- Ar hyn o bryd yn cynhyrchu chweched gyfres ‘Y Fet’ cyfres ddogfen ar S4C sy’n dilyn rhai o filfeddygon gwledig Cymru wrth eu gwaith bob dydd
- Arweinydd Agrisgôp profiadol sydd wedi hwyluso grwpiau yn ymwneud â chadw gwenyn, trin cŵn defaid, cynhyrchu seidr.