Gyda thechnoleg GPS yn cael ei gosod mewn tractorau newydd wrth eu cynhyrchu bellach a hyd yn oed y modelu hynaf gyda’r gallu i’r dechnoleg gael ei gosod ynddynt, mae yna resymau cryf i werthuso sut gall y dechnoleg eich helpu i wella effeithlonrwydd ar y fferm.
Mae Andrew Williams a Henry Gibbon o Vantage UK yn arwain trafodaeth ar opsiynau sydd ar gael i helpu gyda’r canlynol:
- Gwella effeithlonrwydd gweithrediadau mewn caeau gyda thractor
- Galluogi gostyngiad mewn defnydd o danwydd
- Gwella cywirdeb dulliau chwalu gwrtaith a chwistrellu
- Hwyluso sut i gadw gwell cofnodion o fanylion caeau
- Hyrwyddo gwell cynhyrchiant cnydau
Bydd astudiaethau achos ar y fferm a chostau opsiynau amrywiol yn cael eu trafod.
Cyrsiau e-ddysgu cysylltiedig: