A oes gennych chi ddealltwriaeth dda o reolaeth tir glas ac yn awyddus i ddatblygu ymhellach?

Ydych chi’n awyddus i ddysgu a mabwysiadu’r technegau diweddaraf o reoli porfa er mwyn gwneud y mwyaf o’r tir rydych chi’n ei reoli a chynnyddu'r elw o’r borfa?

 

Bydd y gweithdai yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Dewis a sefydlu rhywogaethau a mathau priodol o laswellt ar gyfer pori cylchdro dwys
  • Datblygu dealltwriaeth drylwyr o reolaeth pridd er mwyn sicrhau’r twf glaswellt gorau posibl
  • Deall a gweithredu elfennau ymarferol ac isadeiledd o fewn eich system bori.
  • Gallu mesur a dehongli mesuriadau twf glaswellt a’u mewnbynnu i feddalwedd rheoli porfa er mwyn gwneud penderfyniadau deallus wrth bori da byw.
  • Gallu rhoi cynllun manwl ar gyfer rheoli porfa ar waith ar eich fferm er mwyn:-
    • Cynyddu cynnyrch llaeth o borthiant a phorfa
    • Cynyddu’r cynnydd pwysau byw mewn kg o’r borfa
    • Lleihau costau mewnbwn cyffredinol o fewn system seiliedig ar borfa

 

*Mae'r ffenest ymgeisio ar gyfer Meistr ar Borfa ar gau.*

 

Mae Dafydd Jones o Lys Dinmael Maerdy, un o fynychwyr y cwrs Meistr ar Borfa diweddar, wedi mynd ati i wneud newidiadau i strategaeth pori’r ddiadell ar y fferm gartref drwy sefydlu a gweithredu system bori cylchdro sy’n cynnwys rhannu caeau a gosod pibelli dŵr i rannau o’r fferm a oedd yn cael eu stocio’n sefydlog yn y gorffennol. Yn wir, cafodd Dafydd gymaint o ysbrydoliaeth yn ystod y gweithdy tri diwrnod yng Nglynllifon nes iddo fynd ati i gyfrifo meintiau posibl ar gyfer padogau a dyraniad porthiant ar ei gyfrifiadur y noson wedi’r digwyddiad.

 

 


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Meistr ar Slyri Cymru
Mae Cyswllt Ffermio yn chwilio am ffermwyr a chontractwyr sy’n
Meistr Parasitiaid - Defaid
Yn y dosbarth meistr lefel uwch hwn, bydd ffermwyr yn cael y
Meistr ar Briddoedd Cymru
A hoffech chi wella eich rheolaeth pridd? Cynyddu eich